Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Sut mae ymchwil gwyddor chwaraeon yn dylanwadu ar ofal meddygol

 
Mae tair erthygl gan ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor yn ymddangos yn y rhifyn cyfredol Arthritis Care and Research, cyfnodolyn rhyngwladol a gyhoeddir gan yr American College of Rheumatology.    Mae'r rhifyn diweddaraf yn rhifyn arbennig yn cynnwys 18 erthygl sy'n canolbwyntio ar yr ymchwil arloesol ddiweddaraf ar y cyhyrau a'r esgyrn mewn clefydau gwynegol.

"Mae'r ymchwil rydym yn ei gwneud yma ym Mhrifysgol Bangor yn aml y ffin rhwng Gwyddorau Chwaraeon a Meddygaeth, ac yn rhoi’r cyfle i ni ddefnyddio egwyddorion gwyddor chwaraeon yn ymarferol  at ddefnydd clinigol. Er mwyn cyflawni hyn rydym yn gweithio mewn cysylltiad agos â'r GIG lleol ac yn ddiolchgar iawn am y berthynas gydweithredol sydd rhyngom, " meddai Tim Woodman, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.

Mae'r erthyglau’n dangos sut mae ffocws ymchwil yn symud tuag at wella ansawdd bywyd  pobl â'r cyflyrau hyn, nawr bod triniaethau gwell ar gyfer y clefydau,. Mae'r ymchwil hefyd yn dangos sut gall arbenigedd mewn Gwyddor Chwaraeon a dealltwriaeth fanwl o ewynnau, cyhyrau a sut mae’r esgyrn yn cydweithio, arwain at welliannau yn y rhaglenni  i drin pobl sydd ag arthritis gwynegol a chyflyrau esgyrn eraill.

Mae Dr Jamie Macdonald, awdur un o'r papurau, yn egluro:  "Roedd ffocws yr ymchwil a gofal clinigol  yn arfer bod ar reoli'r clefyd yn unig.  Rŵan bod gwell triniaethau i’w cael a  bod cleifion yn byw’n hirach, canolbwyntir hefyd ar ddarparu ymarfer corff a rhaglenni eraill i alluogi pobl sy’n dioddef o’r cyflyrau hyn i gynnal neu wella eu hiechyd presennol a’u gallu i symud. "

Mae un erthygl, er enghraifft, yn ddilyniant i ymchwil arloesol a wnaed  ym Mhrifysgol Bangor ac a ddangosodd am y tro cyntaf bod ymarfer corff o fudd i ddioddefwyr arthritis gwynegol. "Y cyngor traddodiadol oedd cymryd gofal a  gorffwys. Hefyd, roedd llawer o bobol efo’r cyflwr yn betrus o wneud ymarfer corff. Bellach, rydym wedi profi bod ymarfer dwys yn fuddiol i bobl sydd â'r cyflwr," eglurodd Dr Andrew Lemmey o'r Ysgol.

Mae'r ymchwil ddiweddaraf gan Dr Lemmey a chydweithwyr, a ddisgrifir yn y cyfnodolyn, wedi canfod bod manteision parhaol i’r rhai a fu’n gwneud y rhaglen ymarfer fel rhan o’r ymchwil chwe blynedd ynghynt. Nid oedd y bobl a fu’n dilyn y rhaglen ymarfer ddwys wedi ennill llawer o bwysau ac  roeddent yn symud o gwmpas yn haws nag eraill  a gymerodd ran yn yr ymchwil. Fodd bynnag, profodd yr ymchwil hefyd bod angen dal ati gydag ymarfer corff yn gyson i gael y budd mwyaf i'r cyhyrau.

Mae erthygl  sy’n dilyn achos unigol yn dangos y berthynas  waith agos sydd rhwng y  Brifysgol a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn lleol. Galluogodd achos a gyfeiriwyd at y Brifysgol gan y GIG  Dr Jeanette Thom a Dr Andrew Lemmey i gymhwyso gwybodaeth gwyddoniaeth chwaraeon er mwyn gwella pen-glin arthritig.  Mae trosglwyddo manteision y wybodaeth honno i’r system iechyd leol, a rhoi sylw i’r darganfyddiadau yn yr erthygl, yn sicrhau bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei throsglwyddo i’r gymuned leol ac ehangach, fel y gall eraill hyrwyddo’r gwaith ymhellach.


Mae'r drydedd erthygl yn canolbwyntio ar gyflwr nad oes llawer yn ei ddeall, sef osteoporosis mewn dynion, ac ar y cydadwaith rhwng cyhyrau ac esgyrn. Mae'n rhoi  tystiolaeth gref bod perthynas rhwng màs cyhyr a nerth esgyrn ac yn amlygu cyhyrau fel targed newydd i drin esgyrn gwan mewn modd anuniongyrchol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2012

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor