Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

System newydd ar gyfer llyfrgelloedd ledled Cymru i feithrin rhagor o gydweithio rhwng prifysgolion

Y Gweinidog, Julie James, Sue Hodges, Mandy Powell a Howell James, Prif Lyfrgellydd, Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd.:  Llun gan: Mike Hall.Y Gweinidog, Julie James, Sue Hodges, Mandy Powell a Hywel James, Prif Lyfrgellydd, Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd.: Llun gan: Mike Hall.Cynhaliwyd digwyddiad yn y Cynulliad yn ddiweddar (dydd Iau, 22 Medi 2016) i ddathlu system newydd ar gyfer rheoli llyfrgelloedd fydd yn hyrwyddo cydweithio rhwng llyfrgelloedd ar draws gwahanol sectorau yng Nghymru.

Bydd y system newydd, a gaiff ei rhannu gan lyfrgelloedd prifysgolion yng Nghymru (Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam), llyfrgelloedd y GIG, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn arbed arian, yn annog cydweithio ac yn cynnig y posibilrwydd o rannu casgliadau ledled Cymru. Cwblhaodd Prifysgolion Bangor a Glyndŵr gam cyflwyno'r system yn ddiweddar, yn ogystal â chau pen y mwdwl ar yr amserlen ar gyfer ei rhoi ar waith ledled Cymru. 

System rheoli llyfrgelloedd yw'r dechnoleg sy'n galluogi prifysgolion a llyfrgelloedd eraill i brynu, rhestru, benthyg a dangos eu deunyddiau. Mae consortiwm sydd wedi'i greu gan Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF, rhwydwaith o lyfrgelloedd prifysgolion a Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a'i reoli gan Brifysgol Caerdydd, wedi cyflwyno systemau Alma a Primo ar draws y sefydliadau sy'n aelodau ohono yn rhan o raglen dair blynedd o hyd. Ex Libris sydd wedi darparu'r systemau. 

Bydd cyflwyno'r system newydd yn llwyddiannus ar draws rhwydwaith WHELF, ochr yn ochr â rhoi cam cyntaf system a rennir ar gyfer rheoli llyfrgelloedd cyhoeddus ar waith, yn cael ei ddathlu mewn digwyddiad heddiw yn y Senedd gyda Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

Cefnogir digwyddiad 'Dathlu cydweithio rhwng llyfrgelloedd' gan lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru a Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Proffesiynol ym Meysydd Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (CILIP, sy'n cefnogi gwaith y Proffesiwn Llyfrgelloedd, Gwybodaeth a Dealltwriaeth). Diben y digwyddiad yw dathlu cydweithio ehangach ar draws llyfrgelloedd yng Nghymru. 

Cyn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Julie James:

“Pleser o'r mwyaf yw gallu dathlu sut mae llyfrgelloedd Cymru yn cydweithio ac yn arloesi, ac rwy'n falch dros ben fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r ddau brosiect yma. Mae llyfrgelloedd Cymru ar flaen y gad o ran cydweithio er mwyn rhoi gwasanaeth gwell i bawb sy'n eu defnyddio. Bydd y systemau rheoli newydd yn cynnig manteision sylweddol i aelodau o lyfrgelloedd ledled Cymru. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hefyd yn ysgogi rhagor o gydweithio yn y dyfodol.”

Dywedodd Sue Hodges, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd ac Archifau ym Mhrifysgol Bangor a Chadeirydd WHELF:

"Mae hwn yn llwyddiant rhyfeddol sy'n dangos faint o ymddiriedaeth, ymrwymiad, gweledigaeth a phwyslais ar gydweithio sydd o fewn rhwydwaith WHELF. Hoffwn ddiolch i bob sefydliad sy'n rhan o WHELF ac Ex-Libris am eu hymdrechion arwrol wrth roi'r system ar waith a'i chyflwyno ar amser, a hynny o fewn amserlen heriol dros ben.  Bydd myfyrwyr yn elwa'n fawr ar y system newydd fydd yn ei gwneud hi'n haws iddynt gael gafael ar adnoddau ar gyfer addysgu, dysgu ac ymchwil."

Dywedodd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru:

"Mae cydweithio yn rhan hanfodol o ymdrechion Gwasanaethau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru i gyflawni eu dyletswydd statudol i roi gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon i'w trigolion. Drwy lansio'r cam cyntaf i fabwysiadu System Gyfrifiadurol ar gyfer Rheoli Llyfrgelloedd Cymru yn y gogledd, bydd y prosiect hwn yn cynnig manteision i bob awdurdod. Mae hefyd yn gam pwysig ymlaen i wneud yn siŵr bod modelau cynaliadwy o gyflwyno gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghymru."

Meddai Mandy Powell, Pennaeth CILIP Cymru: 

"Gwych o beth yw gweld prosiect o'r fath raddfa ac uchelgais yn cael ei ddathlu'n briodol. Mae Llyfrgellwyr a Rheolwyr Gwybodaeth a Dealltwriaeth yn arbenigwyr yn eu maes. P'un ai ydynt yn defnyddio eu sgiliau estynedig i helpu defnyddwyr drwy ehangu mynediad, arbed arian neu agor casgliadau, mae pethau gwych yn digwydd pan mae llyfrgellwyr yn gwneud eu gwaith."

Prifysgol Bangor yw un o'r prifysgolion yng Nghymru sydd wedi cyflwyno system newydd ar gyfer rheoli llyfrgelloedd ym mis Awst 2016. Rhai o staff y Brifysgol fu hefyd yn gyfrifol am reoli'r broses gaffael a rhoi'r system newydd ar waith. 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor