Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Terminolegwyr Bangor yn Helpu Prifysgolion De Affrica

Mae terminolegwyr o Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor wedi bod yn cynghori staff ym Mhrifysgol De Affrica, un o’r sefydliadau addysg uwch mwyaf yn y byd, ynglŷn â sut i wella eu gwasanaeth termau amlieithog i staff a myfyrwyr.

O'r chwith i’r dde: yr Athro Laurette Pretorius, Delyth Prys, yr Athro Lesiba Teffo, Dr Tegau Andrews, yr Athro Phalandwa Mulaudzi.O'r chwith i’r dde: yr Athro Laurette Pretorius, Delyth Prys, yr Athro Lesiba Teffo, Dr Tegau Andrews, yr Athro Phalandwa Mulaudzi.Treuliodd Delyth Prys a Tegau Andrews wythnos yn Pretoria, De Affrica, yn dilyn gwahoddiad gan Academi Ieithoedd Affrica a Gwyddoniaeth yng Ngholeg Astudiaethau Ôl-radd Prifysgol De Affrica (UNISA).

Mae UNISA yn darparu dysgu o bell i tua 300,000 myfyriwr. Daw llawer ohonynt o gefndiroedd gwledig a/neu ddifreintiedig ac ni fyddant fel arall yn gallu fforddio addysg prifysgol. Saesneg yw prif iaith cyfrwng y dysgu ar hyn o bryd, ond dengys astudiaethau diweddar mai ail neu drydedd iaith yw hon i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr. Felly, fe ymdrechir nawr i wella dysgu ac addysgu trwy gyflwyno deunyddiau astudio a chefnogi digonol o ansawdd uchel ym mamieithoedd y myfyrwyr. Ceir 11 iaith swyddogol yn Ne Affrica, a gan mai dim ond 9.6% o’r boblogaeth sydd â Saesneg yn famiaith, mae hyn yn dipyn o her.

Mae uned gyfieithu UNISA yn fawr ac yn egnïol, gyda 40 cyfieithydd yn ymdrin, hyd yn hyn, â phedair o ieithoedd swyddogol mwyaf De Affrica. Maent eisoes wedi bod yn weithgar o safbwynt terminoleg, a chanddynt gasgliadau helaeth o restrau termau mewn nifer o ieithoedd.

Dywedodd Delyth Prys, pennaeth Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr y Brifysgol, sydd â phrofiad eang o ddatblygu a safoni termau:

“Mae eu hymrwymiad i ddatblygu adnoddau amlieithog i’w staff a’u myfyrwyr, a’r gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni, wedi gwneud cryn argraff arnom ni. Ein cyfraniad ni oedd ystyried systemau i hwyluso gweithio ar y cyd, safoni a lledaenu terminoleg amlieithog, a'u helpu i symud i ffwrdd o gyhoeddi ar bapur a mynd i gyfeiriad dulliau digidol cyflymach a mwy economaidd. Felly, roedd ein system datblygu termau ni, Maes T, yn ddelfrydol ar gyfer eu gofynion nhw gan ei bod yn rhedeg ar weinydd ac yn galluogi tîm gwasgaredig o derminolegwyr, ieithwyr ac arbenigwyr pwnc i ddatblygu termau. Rydym ni nawr yn bwriadu rhannu'r system gydag UNISA a’i datblygu yn bellach gyda chymorth eu datblygwyr meddalwedd nhw. Byddwn ni hefyd yn rhannu’r cod sydd y tu ôl i Borth Termau Cenedlaethol Cymru gyda nhw,  a bydd hyn yn eu galluogi i gyhoeddi termau ar-lein gydag un clic botwm, ar ôl i'r termau gael eu prosesu ym Maes T.”

Dywedodd Dr Tegau Andrews, Terminolegydd Addysg Uwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd hefyd yn gweithio yn yr Uned Technolegau Iaith:

“Roeddwn ni’n synnu pa mor debyg oedd y materion oedd yn codi wrth ddelio â thermau academaidd yng Nghymru ac yn Ne Affrica, er gwaetha’r gwahaniaethau yn ein sefyllfaoedd ieithyddol. Yn y ddau achos, academyddion yw ein harbenigwyr pwnc, ac mae eu cyfraniad at y broses safoni yn holl bwysig. Yng Nghymru, hwyluswyd cydweithio ar draws prifysgolion Cymru gan ddyfodiad y Coleg Cymraeg, ac mae'r gwaith terminolegol wedi elwa o fedru rhannu arbenigedd ar draws sefydliadau, a gallu gosod adnoddau ar Y Porth, sy'n rhoi mynediad at holl ddeunyddiau'r Coleg. Roedd yn galonogol gweld y cydweithio sy’n dechrau digwydd rhwng prifysgolion De Affrica, yn arbennig gan fod cynrychiolwyr o sefydliadau ar draws De Affrica wedi teithio i fod yn bresennol yn ein gweithdai.”

Wrth groesawu eu hymwelwyr o Gymru i Dde Affrica, dywedodd yr Athro Lesiba Teffo, Cyfarwyddwr Gweithredol Ysgol Sefydliadau Ymchwil Trawsddisgyblaethol, Coleg Astudiaethau Ôl-radd UNISA:

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ysgogiad newydd hwn i safoni a lledaenu terminoleg amlieithog academaidd yn cael effaith gadarnhaol ar ehangu mynediad i addysg uwch ai rai o’n myfyrwyr mwyaf difreintiedig. Mae’n dda clywed am brofiadau addysg uwch yng Nghymru, a gallwn ddysgu llawer oddi wrth ein gilydd.”

Ychwanegodd yr Athro Laurette Pretorius, athro cyfrifiadureg ac ymchwil yn UNISA a oedd yn gyfrifol am gynnal yr ymweliad:

“Rydym ni’n gobeithio mai dim ond megis dechrau y mae’r cydweithio gyda Phrifysgol Bangor, ac y bydd yn berthynas hir a chynhyrchiol. Hoffem ni nawr drefnu ymweliadau pellach rhwng ein dau sefydliad, ac rydyn ni’n gweithio gyda'n gilydd ar gais grant a fydd yn caniatáu  i ni ddatblygu partneriaeth gref.”

Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2014

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor