Ysgol Haf Visceral Mind
Unwaith eto, daeth nifer fawr o ymgeiswyr cymwys a blaengar iawn i'r Ysgol Haf Visceral Mind, a gynhaliwyd yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi. Fel o'r blaen, daethant o bob cwr o'r byd, i lenwi'r 40 lle sydd ar gael. Eleni, teithiodd myfyrwyr o'r Eidal, yr Almaen, Sbaen, Awstria, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg, Norwy, Canada, Israel, De Affrica, ac wrth gwrs ledled y DU.
Mae’r ysgol haf, sydd yn awr bron yn ddeg oed, yn parhau i fod yn boblogaidd ymysg ymchwilwyr ifanc uchelgeisiol sy’n awyddus i gyfranogi i arbenigedd fyd-enwog Ysgol Seicoleg Bangor ym maes niwrowyddoniaeth wybyddol. Sefydlwyd gyda chefnogaeth sefydliad James S McDonnell a chynhelir yn awr gyda chefnogaeth Ysgol Seicoleg Bangor. Prif amcan y cwrs yw unioni’r prinder o wybodaeth niwroanatomegol a geir ymysg niwrowyddonwyr ifainc, a rhoi'r cyfle i fyfyrwyr weithio'n uniongyrchol gyda sbesimau o'r ymennydd dynol.
Meddai cyfarwyddwr y cwrs yr Athro Oliver Turnbull: "Dyma'r nawfed tro i ni gynnal Ysgol Haf Visceral Mind sy'n dod â nifer o academyddion a chlinigwyr rhagorol ar ddechrau eu gyrfa i Fangor i astudio niwroanatomeg. Nid yn unig y mae rhannu'r wybodaeth hon yn lledaenu gwybodaeth wyddonol, ond mae hefyd yn rhoi rhagoriaeth ymchwil Ysgol Seicoleg (a Phrifysgol Bangor) ar y map."
Yn ogystal â chyfraniadau o nifer o gyfadrannau Bangor, roedd academyddion gwadd wedi ymuno â'r Athro Turnbull sef Dr Alan Watson (Prifysgol Caerdydd), Dr Nils Muhlert (Prifysgol Manceinion) a Dr Michel Thiebaut de Schotten (L'Institut du Cerveau et de la Moelle Épinière, Paris), a Dr Kristen Koller (Prifysgol Caerdydd).
Yn y cwrs dysgir niwroanatomeg swyddogaethol yr ymennydd dynol trwy ddangos effeithiau anafiadau i’r ymennydd trwy gyfarfod â chleifion niwrolegol, a chyfuno’r arsylwadau hyn â gwaith mewn labordai niwroddelweddu a niwroanatomeg. Mae'r rhaglen yn cynnwys sesiynau anatomeg ymarferol ar yr ymennydd, cynadleddau achos cleifion, darlithoedd/cyflwyniadau yn cynnwys dangos yr ymennydd ar ffurf 3D a dulliau dyrannu arbennig. Mae hefyd yn cynnwys y sesiynau "Dangos yr Ymennydd" poblogaidd yn darlunio a labelu (yn cynnwys paentio) ystod o olygfeydd o'r ymennydd cyfan, a rhannau o'r ymennydd.
“Mae'r Visceral Mind wedi bod yn brofiad unigryw ac ysbrydoledig i mi. Roedd cael y cyfle i weld yr ymennydd, ei gyffwrdd, ei symud yn ei anatomi, a gweld cleifion clinigol wedi fy helpu i ddysgu am niwroanatomeg a chael dealltwriaeth ohoni. Roeddwn yn gwerthfawrogi'r dosbarthiadau darlunio hefyd." (Sara Basso Moro, Prifysgol Padova, Yr Eidal)
Dros y ddeng mlynedd diwethaf, mae'r cwrs wedi denu myfyrwyr o holl gyfandiroedd y byd (ac eithrio Antarctica). Mae hyn wedi galluogi graddedigion y rhaglen i ddysgu am ddulliau ymchwil a gwybodaeth arloesol a ddatblygwyd ym Mangor a mynd â nhw yn ôl i’w gwledydd i gefnogi ymchwil yn y meysydd niwrolegol hollbwysig hyn ledled y byd.
"Roedd Visceral Minds yn gwrs bythgofiadwy! Roedd gafael mewn ymennydd go iawn, ei ddyrannu a cheisio cael hyd i'r strwythurau i gyd mor ddiddorol! Gan fod y cwrs yn un mor rhyngwladol roedd hefyd yn gyfle rhagorol i rannu'r profiad a gweld yr hyn y mae pobl yn ei wneud ym mhob rhan o'r byd!" (Margarita Blazevica, Prifysgol Hull).
Mae'r ysgol eisoes yn edrych ymlaen at drefnu'r ddegfed Ysgol Haf Visceral Mind yn 2019. Os hoffech gael eich cynnwys ar restr bostio â blaenoriaeth ar gyfer 2019 anfonwch e-bost at visceralmind@bangor.ac.uk.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2018