Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Ysgol Y Gyfraith Bangor yn dathlu 10 mlynedd o ragoriaeth

Cynhaliwyd gwsanaeth cyfreithiol i ddathlu dechrau dysgu'r Gyfraith fel pwnc yn y Brifysgol.Cynhaliwyd gwsanaeth cyfreithiol i ddathlu dechrau dysgu'r Gyfraith fel pwnc yn y Brifysgol.Yr wythnos nesaf bydd dros 150 o gyn-fyfyrwyr a chyn staff Prifysgol Bangor yn dod i ddathliad arbennig i nodi deng mlynedd ers sefydlu Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor.

Ers ei sefydlu yn 2004 mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi saethu i fyny'r tablau cynghrair gan ddod y flaenaf o blith ysgolion y gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf a gyhoeddwyd gan The Guardian.

Bellach mae yn safle 32 ym Mhrydain ac mae llawer o'i chyn fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i swyddi llwyddiannus fel bargyfreithwyr a chyfreithwyr gyda chwmnïau a siambrau o safon. Ceisir ei graddedigion hefyd gan gyflogwyr mewn sectorau tu allan i'r byd cyfreithiol.

Mae'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol, yn priodoli'r llwyddiant hwn i faint bychan y dosbarthiadau.  "Mae Ysgol y Gyfraith yn canolbwyntio ar ddatblygu ymwybyddiaeth fasnachol ac mae'r rhwydwaith enfawr sydd ar gael i alumni Bangor drwy'r cysylltiadau helaeth a ddatblygwyd gan ein staff yn allweddol i lwyddiant ein graddedigion.

"Rydym wedi osgoi'r demtasiwn, y mae llawer o ysgolion y gyfraith ym Mhrydain wedi syrthio iddi, o ddatblygu'n ysgol fawr yn hytrach na chynnig profiad prifysgol o safon uchel i'w graddedigion; o ganlyniad mae ein graddedigion ymhell ar y blaen pan mae'n dod yn fater o baratoi ar gyfer y farchnad swyddi gystadleuol iawn sy'n bodoli."

Mae safle'r ysgol, sef y gyntaf yng Nghymru a'r 13eg ym Mhrydain yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf, yn tystio i hyn. Felly hefyd, y nifer eithriadol uchel o'i myfyrwyr - yn y 90au -  sy'n cael swyddi yn y maes, o'i gymharu â chyfartaledd y sector o 62%. Mae hyn yn ei rhoi yn agos i'r brig o ran cyflogadwyedd ymysg ysgolion y gyfraith ym Mhrydain. 

Myfyrwraig Laura Delaney yn trafod yn ffug lus barn y Brifysgol yn 2013.Myfyrwraig Laura Delaney yn trafod yn ffug lus barn y Brifysgol yn 2013.Bellach mae ei Ffair y Gyfraith flynyddol yn denu rhai o brif gwmnïau a siambrau'r gyfraith sydd eisiau cyflogi graddedigion Bangor, ac mae'r prif bleidiau gwleidyddol yn Llundain a Chaerdydd yn ceisio cyngor strategol gan ei hacademyddion mewn meysydd fel cyfraith a strategaeth pryniant cyhoeddus.

Mae rhai o alumni Bangor hyd yn oed wedi sefydlu eu cwmnïau cyfreithiol eu hunain, tra bo eraill wedi aros yn y byd academaidd, gan astudio am raddau PhD neu LLM o blith darpariaeth helaeth yr Ysgol o raglenni arbenigol mewn Cyfraith Pryniant Cyhoeddus a Chyfraith Droseddol Ryngwladol.   

Mae cerrig milltir o bwys yn hanes yr Ysgol yn cynnwys bod y sefydliad Cymreig cyntaf i gystadlu yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Barn Rhyngwladol Telders a chael ei gwahodd i ddadlau mewn ffug lys gerbron y Goruchaf Lys yn Llundain. 

Y llynedd, dathlodd agor ystafell ffug lys barn gan Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr ac yn 2014 a 2015 fe wnaeth aelodau staff academaidd gyrraedd rownd derfynol Prydain am wobr 'Athro'r Gyfraith y Flwyddyn' a gynhelir gan Wasg Prifysgol Rhydychen, sy'n tystio i ragoriaeth dysgu'r Gyfraith ym Mangor.

Dethlir y llwyddiannau hyn, a llawer eraill, mewn digwyddiad deuddydd nodedig a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor ar 31 Gorffennaf a 1 Awst, gyda staff a myfyrwyr presennol yn ogystal â chyn staff a myfyrwyr.

Chwith-dde: Athro Dermot Cahill (Pennaeth Ysgol y Gyfraith), Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd a Stephen Clear (Ysgol y Gyfraith) ar achlysur agor Ffug Lys Barn y Brifysgol.Chwith-dde: Athro Dermot Cahill (Pennaeth Ysgol y Gyfraith), Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd a Stephen Clear (Ysgol y Gyfraith) ar achlysur agor Ffug Lys Barn y Brifysgol.Bydd y dathliadau'n cynnwys barbiciw, derbyniad rhwydweithio, trafodaethau panel a gêm bêl-droed rhwng staff a myfyrwyr. Penllanw'r penwythnos fydd cinio mawreddog gyda'r Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yn bresennol, ynghyd â ffigurau amlwg o fyd y gyfraith, cerddorion a gwesteion arbennig eraill, yn cynnwys Shaun Wallace, Uwch Fargyfreithiwr yn Great James Street Chambers s seren 'The Chase' ar ITV.

Bu Shaun yn fargyfreithiwr amddiffyn mewn achosion troseddol am 25 mlynedd ac mae ganddo brofiad enfawr ar draws ystod eang o achosion troseddol difrifol, yn cynnwys llofruddiaeth - yn arbennig achosion Operation Trident - dynladdiad, troseddau rhywiol difrifol, twyll, gwyngalchu arian, gwerthu arfau a chyffuriau.  Erbyn hyn mae'n wyneb cyfarwydd iawn ar y teledu, gan ennill 'Mastermind' y BBC yn 2004 ac mae wedi ymddangos yn 'Eggheads', '15-1', 'The Weakest Link' a 'The Chase', lle mae'n ymddangos fel 'Chaser' ar hyn o bryd.  Mae wedi cyflwyno rhaglenni ar Radio 4 ac mae'n gyfrannwr rheolaidd ar Radio 5 Live.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2015

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor