Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Ysgolion Gogledd Cymru’n buddsoddi mewn cystadleuaeth sgiliau busnes a chyllidol

Cafodd myfyrwyr o bob cwr o ogledd Cymru gyfle i brofi cyffro a chynnwrf delio ar lawr masnachu byw diolch i fenter a drefnwyd gan Brifysgol Bangor o'r enw Her y Farchnad Stoc.

Cymerodd 100 o fyfyrwyr o ddeg o ysgolion ran yn y fenter a gynhaliwyd ddydd Mercher 4 Gorffennaf ym Mhrifysgol Bangor. Trefnwyd y digwyddiad gan Ysgol Busnes Bangor ac fe’i cefnogwyd gan HSBC.

Rhannwyd y myfyrwyr Blwyddyn 12 yn dimau bach, a'r her oedd defnyddio eu sgiliau i reoli portffolio o gyfranddaliadau ac arian tramor.  Penderfynwyd ar eu buddsoddiadau trwy ddehongli a dadansoddi gwybodaeth o'r marchnadoedd arian. Cynhaliwyd sesiwn ddwy awr o ffug fasnachu byw a'r tîm gyda'r portffolio uchaf ei werth ar ddiwedd y sesiwn oedd yn fuddugol.Ian Hardy o HSBC yn cyflwyno Ysgol St Gerard’s Bangor, enillwyr Her y Farchnad Stoc 2012, gyda’u gwobr: aelodau o’r tîm yw Hannah Niesser, Anna Jones, Sacha Healey, Harriet Ohri a Bethan Humphreys gyda’u hathro Mr Paul Hanlon a Dr Rhys ap Gwilym o Ysgol Busnes Bangor.  Ian Hardy o HSBC yn cyflwyno Ysgol St Gerard’s Bangor, enillwyr Her y Farchnad Stoc 2012, gyda’u gwobr: aelodau o’r tîm yw Hannah Niesser, Anna Jones, Sacha Healey, Harriet Ohri a Bethan Humphreys gyda’u hathro Mr Paul Hanlon a Dr Rhys ap Gwilym o Ysgol Busnes Bangor.

Cafodd Ysgol St Gerard’s, Bangor fuddugoliaeth ysgubol ar y llawr masnachu gyda chronfa werth £88,600 oedd wedi ei rheoli’n arbennig o dda. Nid oedd yr ail orau sef Ysgol Eirias, Bae Colwyn yn bell ar eu hôl gan wneud elw sylweddol o £60,800.

Eleni cynigiodd y noddwyr gyfle i gannoedd o fyfyrwyr gael y profiad yma trwy roi trwydded am ddim i adnodd ar-lein Her y Farchnad Stoc i bob ysgol a gymerodd ran.   Yn y cyfnod yn arwain at y sesiwn, bu athrawon y Fagloriaeth Gymreig, Astudiaethau Busnes a Mathemateg yn cynnal cystadlaethau yn yr ysgolion i ddewis y pum disgybl a fyddai'n eu cynrychioli.

Meddai Rachel Thomas – Cyfarwyddwr Rhanbarthol PFS HSBC "Mae Her y Farchnad Stoc yn ffordd wych i bobl ifanc o ysgolion ar draws gogledd Cymru i ddod i ddeall y byd busnes ac ar yr un pryd ddatblygu eu sgiliau a chael hwyl.  Mae’r fenter yn cyd-fynd yn dda â’n hamcanion cymunedol ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd yn yr ysgol mewn sefyllfa ariannol hynod o realistig, a defnyddio eu safbwynt gwreiddiol eu hun."

Meddai Meinir Llwyd o Ysgol Busnes Bangor: “Ym Mhrifysgol Bangor credwn ei bod yn hollbwysig ein bod yn canolbwyntio ar ddatblygu cymwysterau a sgiliau ein pobl ifanc, er mwyn sicrhau bod y sylfaen sgiliau priodol yn ei lle i fanteisio ar gyfleoedd am swyddi'n awr ac yn y dyfodol.  Mae mentrau megis Her y Farchnad Stoc yn rhoi cyfle i ni gyflwyno’r brifysgol i bobl ifanc ac ar y pryd pryd helpu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes i ystyried cymhwyster gwerthfawr ym maes cyllid, bancio neu gyfrifeg."Yr ail orau, tîm Ysgol Eirias: aelodau yw Danish Yasin, Morgan Williams, Patrick Atkinson, John Casson a Henry Holden.Yr ail orau, tîm Ysgol Eirias: aelodau yw Danish Yasin, Morgan Williams, Patrick Atkinson, John Casson a Henry Holden.

Ychwanegodd Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones: "Rwy'n falch bod myfyrwyr ar draws Gogledd Cymru wedi cael y cyfle unigryw i brofi bywyd ar y llawr masnachu. Mae hyn yn rhoi blas i fyfyrwyr ifanc o’r byd gwasanaethau ariannol a busnes a chyfle, nid yn unig i ystyried gyrfa yn y dyfodol ym maes gwasanaethau ariannol, ond hefyd i ddatblygu sgiliau gyda'u harian personol.

"Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gan bobl ifanc ystod lawn o sgiliau bywyd a fydd yn ddefnyddiol iddynt ar gyfer y dyfodol: i reoli cyllidebau, trafod ag aelodau'r tîm a dadansoddi a dehongli gwybodaeth.

"Yr wyf yn siŵr y bydd y fenter hon yn helpu myfyrwyr Gogledd Cymru ddatblygu'r rhinweddau arweinyddiaeth sydd ei angen arnynt i fod yn y genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes a chyllid."

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2012

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor