Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Ysgoloriaeth ymchwil gyntaf dathlu canmlwyddiant a chwarter Prifysgol Bangor yn cael ei chwblhau.

Yn ddiweddar fe wnaeth Marco Giudici, 29, o Filan, gwblhau ei ysgoloriaeth ymchwil mewn Hanes.   Marco, sy'n awr yn byw yn Hitchin, Swydd Hertford, yw'r cyntaf i gwblhau un o'r ysgoloriaethau ymchwil a roddwyd ar achlysur dathlu canmlwyddiant a chwarter Prifysgol Bangor.

Mae'r ysgoloriaethau arbennig hyn yn rhan o raglen y Brifysgol i ehangu ei darpariaeth ôl-radd. Eu nod yw denu myfyrwyr neilltuol o dda sy’n dymuno astudio yn y Brifysgol rymus hon sydd â phwyslais ar ymchwil.

Mae’r Ysgoloriaethau Dathlu yn cynnwys efrydiaethau PhD tair blynedd fydd yn cynnwys y ffioedd, tâl blynyddol a lwfans ymchwil, a bwrsariaethau PhD tair blynedd fydd yn cynnwys tâl blynyddol i fyfyrwyr disglair o'r DU/UE a Rhyngwladol.

Meddai Marco, a gafodd ei radd gyntaf o'r Università Cattolica del Sacro Cuore ym  Milan ac a aeth ymlaen i gael MA o'r Università degli Studi di Milano: "Roedd astudio am PhD ym Mangor yn brofiad gwych.  Roeddwn nid yn unig yn cael cyfle i ganolbwyntio ar wneud ymchwil - rhywbeth rydw i'n wirioneddol ei fwynhau, ond cefais gyfle hefyd i ddysgu seminarau i israddedigion a hyd yn oed roi ychydig ddarlithoedd, oedd yn brofiad arbennig iawn.  

Cefais bob cefnogaeth a chymorth gan fy ngoruchwyliwr a'm cyd-oruchwyliwr.  Fe wnaethant hyd yn oed roi cyfle i mi drefnu'r gynhadledd gyntaf ar ymfudo ac ethnigrwydd yn y gwledydd Celtaidd! Hefyd fe wnes i fwynhau gweithio gyda staff dysgu'r Ysgol Hanes a dwi'n teimlo fy mod wedi dysgu llawer oddi wrthynt o ran sgiliau addysgu.

Yr uchafbwynt oedd cyfarfod â'm darpar wraig a byddwn yn priodi ym Mehefin!  Oni bai am ysgoloriaeth y dathlu fyddwn i erioed wedi dod i Fangor a fyddwn i ddim wedi'i chyfarfod hi!  

Yn ail, fe wnes i wirioneddol fwynhau teithio i wneud ymchwil a mynd i gynadleddau.  Roeddwn yn ddigon ffodus i dderbyn grant costau ymchwil hael (ar ben fy ysgoloriaeth) i'w defnyddio i dalu costau teithio'n gysylltiedig â fy ymchwil.  Cefais gyfle i dreulio amser mewn archifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd ar draws Prydain a'r Eidal, yn amrywio o'r Archifau Cenedlaethol yn Llundain i archifau plwyf bychan ym Mynyddoedd  Appennini ardal Emilia-Romagna. Hefyd traddodais bapurau mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol mewn mannau cyn belled â Clermont-Ferrand a  Philadelphia.

Wrth sôn am y dyfodol, ychwanegodd:  "Dwi'n gobeithio parhau efo'r hyn dwi'n fwynhau fwyaf: ymchwilio a dysgu.  Fodd bynnag, dwi hefyd yn fodlon gwneud rhywbeth o werth i'r gymuned dwi'n byw ynddi.  Fe hoffwn gymryd rhan mewn projectau estyn allan ac ymwneud â'r cyhoedd, mewn addysg uwch, dysgu gydol oes neu yn y sector treftadaeth.  Rydw i newydd ddechrau gwirfoddoli i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a byddaf yn dechrau darlithio i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr fis Medi.  
 
Meddai Dr Andrew Edwards, goruchwyliwr Marco: "Fe wnaeth Marco, sy'n hanu o Milan, ymuno â ni ym mis Hydref 2009. Enillodd un o ysgoloriaethau PhD dathlu'r canmlwyddiant a chwarter a oedd yn cael eu cynnig gan Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, i wneud ymchwil ar fewnfudo o'r Eidal i Gymru yn y cyfnod ar ôl 1945.  
“Mae cwblhau PhD mewn Hanes mewn tair blynedd yn gamp eithriadol, a dwi'n hynod falch mai ef ydi'r myfyriwr cyntaf i gwblhau un o ysgoloriaethau'r canmlwyddiant a chwarter yn llwyddiannus.  

Mae Marco eisoes wedi cyhoeddi peth o'i ymchwil, a dwi'n sicr y bydd ei fonograff sydd i ymddangos yn fuan, ac sy'n seiliedig ar ei PhD, yn gyfraniad pwysig i'n dealltwriaeth o hanes Cymru ar ôl y rhyfel.  

Mae llwyddiant Marco'n dangos yn glir werth yr ysgoloriaethau yma i'r Brifysgol ac i'r gymuned academaidd ehangach."

Meddai'r Athro Joanne Rycroft-Malone, Cyfarwyddwr Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor:   
“Mae’r cynllun Ysgoloriaethau newydd yn rhoi cyfle i’r goreuon o blith y myfyrwyr, yn genedlaethol a rhyngwladol, weithio gydag academyddion mwyaf blaenllaw a sêr newydd y Brifysgol. Mae’r buddsoddiad yma mewn ysgoloriaethau ymchwil yn rhan o’n strategaeth i feithrin rhagoriaeth a gallu mewn ymchwil, ac i gryfhau ymhellach ein hamgylchedd ymchwil dynamig.”

Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor