Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Dr Aled Llion Jones

Uwch Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Chanoloesol

aled.llion@bangor.ac.uk

+44 1248 382243

–

Dr Aled Llion Jones

Gwelwch proffil Dr Aled Llion Jones ar Bortal Ymchwil Bangor

Rhagolwg

Addysg a Chyflogaeth

Fe'm haddysgwyd ym Mhrifysgolion Leeds, Caerdydd a Harvard, ac enillais raddau ym meysydd Athroniaeth a Saesneg (BA), Cymraeg (MPhil) ac Astudiaethau Celtaidd (PhD). Rwyf wedi bod yn Ddarlithydd neu'n Athro mewn prifysgolion yng Ngwlad Pwyl (Lublin), Iwerddon (Gaillimh), UDA (Harvard) a Chymru (Bangor), ac wedi darlithio'n achlysurol neu addysgu ar ysgolion haf mewn sefydliadau ledled Ewrop a Gogledd America.

Ymchwil

Rwy'n gweithio ar draws cyfnodau a disgyblaethau, gan ddwyn athroniaeth a theori lenyddol ddiweddar i ddialog â llenyddiaeth fodern a chanoloesol Cymru ac Iwerddon. Pwysig i’r gwaith hwn hefyd ydy theori amlieithrwydd a chyfieithu. Gweler yn enwedig fy monograff, Darogan (GPC 2013), a hefyd fy erthygl yn Translation Studies, 9.

Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig ffigyrau megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd. Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig. Gweler fy erthygl yn Ysgrifau Beirniadol ar yr olaf.

Rwyf hefyd yn edrych yn agos ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r brosiect hon yn archwilio nid yn unig nodweddion megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb a'r iwtopig. Gweler fy erthygl yn Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium ar hyn.

Cyflwyno a Siarad Cyhoeddus

Rwyf wedi traddodi ystod o bapurau mewn cynadleddau o orllewin Romania i dde Califfornia (ac yn y rhan fwyaf o’r gwledydd rhyngddynt): siaradaf gan fwyaf ar lenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg (ganoloesol a modern), ond hefyd ar athroniaeth, ac astudiaethau diwylliannol yn ehangach.

Caf fy ngwahodd yn aml i gyflwyno mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus, o brifysgolion i neuaddau pentref, ac mae fy ngwaith fel athro iaith (Cymraeg, Pwyleg, Gwyddeleg) hefyd yn fodd o gysylltu â’r gymuned leol ac ehangach. Rwy'n barod iawn i drafod ar y cyfryngau darlledu: rwy'n gyfforddus yn siarad a darlithio mewn nifer o ieithoedd.

Cyfieithu Llenyddol

Rwyf wedi cyfieithu a thrafod yn gyhoeddus farddoniaeth sawl bardd Pwyleg, a hefyd wedi cael fy nghomisiynu gan Gyfnewidfa Llenyddiaeth Cymru i gyfieithu rhyddiaith o'r iaith honno. Cyhoeddais amryw gyfieithiadau o'r Wyddeleg i'r Gymraeg.

Fe'm cymhwyswyd drwy arholiad ar gyfer aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cym-Saes; Saes-Cym).

Addysgu

Byddaf yn dysgu bob blwyddyn ar fodiwlau blwyddyn gyntaf, ail a thrydedd y gwahanol gynlluniau BA. Dysgaf sgiliau iaith a llythrennedd (Cymraeg a Gwyddeleg) yn ogystal â llenyddiaeth, hanes llenyddiaeth, ac athroniaeth. Rwy'n cyfrannu'n gyson hefyd i fodiwlau a gaiff eu cyd-addysgu, a’r rheiny’n amrywio o lenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar i ieithyddiaeth, sosioiethyddiaeth a chynllunio ieithyddol. Fi yw sylfeinydd a chyfarwyddwr y cwrs MA 'Y Celtiaid', a byddaf yn cyfrannu at ddysgu ar gyrsiau MA eraill ar draws yr Ysgol a'r Coleg. Rwy'n hapus i drafod prosiectau PhD.

Gwybodaeth Cyswllt

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Prifysgol Bangor

Ffordd y Coleg

Bangor

LL57 2DG

aled.llion@bangor.ac.uk

+44 (0)1248 382243

Cymwysterau

  • PhD
    Harvard University, 2005–2011
  • MA
    Harvard University, 2005–2007
  • MPhil
    Caerdydd, 1997–2000
  • BA
    Leeds University, 1993–1996

Addysgu ac Arolygiaeth

Addysgu BA

Blwyddyn 0

  • CXC-1036 Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg (Dechreuwyr)

Blwyddyn 1

  • CXC-1002 Llên y Cyfnod Modern Cynnar
  • CXC-1005 Ysgrifennu Cymraeg (trywydd ail-iaith)
  • CXC-1026 Golwg ar Lenyddiaeth (trywydd ail-iaith)

Blwyddyn 2 a 3

  • CXC-3202/2202 Athroniaeth a Llenyddiaeth 
  • CXC-3029/2029 Chwedlau'r Oesau Canol
  • CXC 2203/3203 Blas ar yr Wyddeleg
  • CXC-3009 Traethawd Estynedig  

Addysgu MA

Fi yw cyfarwyddwr cwrs MA 'Y Celtiaid'. Byddaf hefyd yn goruchwylio myfyrwyr MA (Cymraeg). Cyfrannaf at ddarlithoedd/seminarau sawl cwrs MA arall (e.e. Astudiaethau Arthuraidd; Cyflwyno'r Oesau Canol; Llenyddiaethau Cymru)

Goruchwylio PhD

Yn ddiweddar goruchwyliwyd gennyf y rhain:

  • bu prosiect Philip Davies yn astudiaeth gymharol o ddisgyrsiau cenedlaetholgar yng Nghymru a Gwlad y Basg tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg;
  • mae Angelika Rüdiger yn astudio'r datblygiad o fotiffau llên gwerin Gymraeg rhwng y cyfnod canoloesol a'r modern.

Croesawaf gynigion ar gyfer prosiectau ymchwil ar amryw agweddau o lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd - yn enwedig Cymraeg a Gwyddeleg, a rhai'n ymwneud â methodoleg theoretig/athronyddol. 

Arholi PhD

Bûm yn arholwr mewnol i nifer o draethodau ymchwil PhD, yn Ysgol y Gymraeg a hefyd Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd.

Arholi Allanol

  • Newydd orffen cyfnod fel Arholwr Allanol, Prifysgol y Drindod Dewi Sant (Cynllun AUR, Y Gyfadran Allanol) 

Diddordebau Ymchwil

Rwy'n ymchwilio i lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd yn gyffredinol (Cymraeg a Gwyddeleg yn arbennig), ac mae gennyf hefyd ddiddordeb mawr mewn Llenyddiaeth Gymharol, yn enwedig yng nghyd-destun diwylliannau llai Ewrop a'r ieithoedd Slafeg (y Bwyleg yn arbennig).

Yn fy ymchwil fy hun a'm goruchwylio mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn gwaith ac iddo ogwydd theoretig: mae fy ymchwil (gw. manylion cyhoeddiadau a chynadleddau) yn ymwneud â disgyrsiau sydd ar y ffin rhwng ffiloleg ac athroniaeth iaith/celf (e.e., proffwydoliaeth, amlieithrwydd, cyfieithu, barddoneg ac estheteg, ac ecofeirniadaeth). 

Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig meddylwyr megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd (barddoniaeth a rhyddiaith). Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig.

Rwyf erbyn hyn yn edrych yn benodol ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r prosiect diweddaraf hwn yn archwilio nid yn unig  agweddau megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb ac iwtopia.

Rwyf wrthi hefyd yn paratoi cyflwyniad hygyrch i Athroniaeth Llenyddiaeth, i'w gyhoeddi ar ffurf llyfr. Hwn fydd y cyflwyniad cyntaf o'i fath yn y Gymraeg, ac yn trafod llên Cymru yn benodol.

Cyfleoedd Project Ôl-radd

Cysylltwch i drafod cynlluniau PhD. Mae meysydd posibl yn cynnwys Theori lenyddol yng Nghymru ac yn Gymraeg; Athroniaeth a llenyddiaeth; Llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau cymharol; Ecofeirniadaeth, ffeministiaeth, rhywedd a syniadaethau radicalaidd eraill. Please contact me to discuss possibilities of PhD supervision. Possible fields include Literary theory in Wales and in Welsh; Philosophical approaches to Welsh literature; Welsh literature in a comparative context; Ecocriticism, feminism, gender, and other radical ideologies.

Cyhoeddiadau

2023

  • Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg'Cyn iddynt Fyn’d ar Ddifancoll’: Gweledigaeth y Ffotograffydd John Thomas o Gymru Oes Fictoria
    Richards, R. & Jones, A. L. (gol.), 2023, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid

2022

  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException

2021

  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException

2020

  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException

2019

  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException

2018

  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
  • CyhoeddwydCerddi Martin Codax: Cyfieithiadau o gerddi hynaf yr iaith Aliseg-Bortiwgaleg
    Jones, A. (Cyfieithydd), Miguelez-Carballeira, H. (Cyfieithydd) & Costas Gonzalez, X-H. (gol.), 2018, Vigo : Universidade De Vigo.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
  • CyhoeddwydReview of Barry Lewis, 'Medieval Welsh Poems to Saints and Shrines'
    Jones, A., 2018, Yn: Éigse. 40
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException

2017

  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException

2016

  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
  • CyhoeddwydMedieval Wales in Modern Germany: Martin Buber translates the Mabinogi
    Jones, A., 2016, Golden Epochs and Dark Ages: Perspectives on the Past. Antonowicz, A. & Niedokos, T. (gol.). Lublin: Wydawnictwo KUL, Cyfrol 14. 15 t. (Studies in Literature and Culture ).
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException

2013

  • Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException

2012

  • Cyhoeddwyd'Celtic Prosody'
    Ford, P. K. & Jones, A., 2012, The Princeton Encyclopaedia of Poetry and Poetics. Greene, R. (gol.). Princeton: Princeton University Press
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid

2010

  • CyhoeddwydProceedings of the Harvard Celtic Colloquium 2010: 26/27
    Chance, C., Radiker, L., Zall, C., Bempechat, P. & Jones, A., 2010, Cambridge, MA: Harvard University Press.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid

2009

  • CyhoeddwydProceedings of the Harvard Celtic Colloqium 2005: 24/25
    Jones, S., Jones, A. (gol.) & Knight, J., 2009, Cambridge, MA: Harvard University Press.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr

2004

  • CyhoeddwydFersiynau ar Fordaith Lenyddol: Adolygiad o Weithdy Cyfieithu
    Davies, M. P. & Jones, A., 2004, Yn: Taliesin. 121, t. 90-102
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl

2003

  • CyhoeddwydDa Bangor a Bangor: il viaggio di un bardo
    Llwyd, I., Jones, A. (gol.), Jones, A. (Cyfieithydd), Bianchi, A. (Cyfieithydd) & Siviero, S. (Cyfieithydd), 2003, Mobydick.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr

Gweithgareddau

2020

  • Harvard University

    Athro ar Ymweliad (Visiting Professor)

    1 Awst 2020 – 30 Rhag 2020

    Gweithgaredd: Ymweld â sefydliad academaidd allanol (Ymchwilydd Gwadd)
  • Gwersi Gwyddeleg Enghreifftiol

    Gwersi Ar-lein i Diwtoriaid y Gogledd

    14 Mai 2020

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)

2019

  • Culhwch ac Olwen and a reference to Geoffrey's Historia

    Papur cynhadledd yn trafod pwysigrwydd cyfeiriad posibl at Historia Regum Britanniae yn y chwedl Culhwch ac Olwen.

    20 Medi 2019

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Darlith wadd, Humanities Center / Dept. of Celtic Languages and Literatures, Harvard University

    Teitl: 'Why Arthur is Always Wrong: Culhwch ac Olwen as self-defeating prophecy'

    13 Medi 2019

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Beirniadu Her Gyfieithu 2019

    Trefnir gan PEN Cymru. Yr her eleni yw cyfieithu dwy gerdd gan Julia Fiedorczuk o'r Bwyleg i'r Gymraeg.

    Gorff 2019

    Cysylltau:

    • https://waleslitexchange.org/en/news/view/her-gyfieithu-2019
    Gweithgaredd: Arall (Cyfrannwr)
  • Universität Wien: Darlithoedd a Seminarau

    Fe'm gwahoddwyd i gyflwyno dwy gyfres o ddarlithoedd a seminarau i gyflwyno'r iaith Gymraeg yn ei chyd-destun hanesyddol, diwylliannol ac ieithyddol.

    23 Ebr 2019 – 31 Mai 2019

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Ymchwilio a Dysgu mewn Sefydliad Allanol (Cyfrannwr)

2018

  • Viva PhD (Ysgol y Gymraeg)

    Cadeirio viva PhD (Ysgol y Gymraeg)

    11 Rhag 2018

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
  • Cyflwyniad y Gymraeg ar Daith, Ysgol Friers

    Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol, a drefnwyd ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    26 Tach 2018

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Cyflwyniad ar gwrs preswyl Glan-llyn

    Cyflwyniad i ddisgyblion chweched dosbarth o ysgolion led-led Cymru, ar gwrs Preswyl Glan-llyn a drefnwyd gan Ysgol y Gymraeg a'r Urdd

    21 Tach 2018

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Cyflwyniad Y Gymraeg ar Daith, Ysgol Tryfan

    Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol, a drefnwyd ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    7 Tach 2018

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Prif-ddarlith/Keynote: Harvard Celtic Colloquium

    'Good time(s), bad time(s): myths and metaphysics in some medieval literature'

    6 Hyd 2018

    Cysylltau:

    • https://twitter.com/CymraegBangor/status/1052583436786036737
    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Cyfrannwr)
  • Rhaglen Aled Hughes, Radio Cymru

    Sgwrs i drafod taith i Jerusalem i archif Martin Buber, cyfieithydd y Mabinogi i'r Almaeneg

    25 Ebr 2018

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Cyflwyniad ar Ail Gainc y Mabinogi i ddisgyblion Ysgol Tryfan

    18 Ebr 2018

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Prif siaradwr)
  • Gwers Wyddeleg enghreifftiol i diwtoriaid iaith.

    Cynhadledd Cymraeg i Oedolion, Plas Tan-y-Bwlch

    13 Ebr 2018

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Sgwrs wadd i Gymdeithas Hanes y Tair Llan

    'Amser a gofod: darllen llenyddiaeth ganoloesol y Gymraeg gyda Stephen Hawking'. Defnyddio theoriau gwyddonol diweddar ynghylch amser a gofod i ddarllen llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol.

    10 Ebr 2018

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Viva PhD Cymraeg/Athroniaeth a Chrefydd

    Arholwr Mewnol Ysgol y Gymraeg/Ysgol Athroniaeth a Chrefydd

    Chwef 2018

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)

2017

  • Y Gymraeg ar Daith, Bro Dinefwr

    Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol

    22 Tach 2017

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs (Siaradwr)
  • Y Gymraeg ar Daith, Aberaeron

    Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol

    17 Tach 2017

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs (Siaradwr)
  • Sesiwn 'Cyflwyno'r BA Cymraeg', Ysgol David Hughes

    Sesiwn awr yn disgrifio manteisio gradd mewn Cymraeg, o ran cyflogadwyedd, etc.

    10 Gorff 2017

    Cysylltau:

    • https://twitter.com/CymraegBangor/status/884381927138000896
    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyflwynydd)
  • Gwers Wyddeleg enghreifftiol

    Gwers iaith enghreifftiol i diwtoriaid iaith, Cynhadledd Cymraeg i Oedolion, Plas Tan-y-Bwlch

    Mai 2017

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)

2016

  • Darlith wadd: Cynhadledd Flynyddol Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru.

    'Buber, Benjamin, Cynddelw, Rhonabwy: amser, iaith a hanes yn llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd'.

    Tach 2016

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • Cynhadledd 'Dialog': cyflwyno ymchwil ar Martin Buber a'r Mabinogi

    'Cyfriniaeth, Seioniaeth a Phedair Cainc y Mabinogi'

    22 Hyd 2016

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • Papur yng Nghynhadledd Canolfan Ymchwil Cymru: ‘“Mi a wnn pwy wyt ti”: Cyfriniaeth Fodern Almaeneg-Iddewig yn Etifeddu'r Canol Oesoedd Cymraeg’

    Papur cynhadledd

    26 Meh 2016

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Darlith wadd ym Mhrifysgol Uppsala

    '"Fel y torraist ti fy nghalon": medieval and early-modern Welsh love poetry'. Darlith i fyfyrwyr lleol a dysgwyr o bell.

    Mai 2016

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • Gwers iaith enghreifftiol i diwtoriaid iaith y gogledd

    Plas Tan-y-Bwlch, Cynhadledd Cymraeg i Oedolion

    Ebr 2016

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
  • Rhaglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru. Trafodaeth ar amlieithrwydd mewn llenyddiaeth Gymraeg.

    'Amlieithrwydd mewn llenyddiaeth Gymraeg'

    Maw 2016

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • Seminar MA yn Adran y Saesneg (Astudiaethau Celtaidd), Prifysgol Gatholig Lublin, Gwlad Pwyl

    Agweddau cyfredol ar sosio-ieithyddiaeth y Gymraeg

    Ion 2016

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Rhyngwladol

    2016 – 2019

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Trefnydd)

2015

  • Darlith gyhoeddus yn Adran Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Poznań, Gwlad Pwyl

    Yr Athronydd yn Annwn: Martin Buber, Cyfriniaeth Iddewig a'r Mabinogi

    Rhag 2015

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
  • Seminar Ôl-radd Ysgol y Gymraeg

    'Yr Athronydd yn Annwn: Martin Buber, Cyfriniaeth Iddewig a'r Mabinogi'

    Rhag 2015

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs (Siaradwr)
  • Sgwrs i'r Fainc Sglodion (Cymdeithas Lenyddol Blaenau Ffestiniog)

    Bendigeidfran yn Berlin: y Mabinogi a rhai o athronwyr yr Almaen, c. 1914

    Rhag 2015

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • Darlith wadd ym Mhrifysgol Szczecin, Gwlad Pwyl

    'Martin Buber and the Mabinogi: a very tenuous Polish connection'. Welsh Days 2015.

    Hyd 2015

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • Ddarllen a thrafod cerddi Marko Pogačar, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Groasieg i'r Gymraeg

    Hyd 2015

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • Plus FM, Szczecin

    Cyfweliad yn Bwyleg ynghylch iaith a diwylliant Cymru

    Hyd 2015

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • International Congress of Celtic Studies

    'Mabinogi Martin Buber: y cyfieithiad cyntaf o'r Pedair Cainc i'r Almaeneg'

    Medi 2015

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr)
  • Darlith wadd, Humanities Center / Dept. of Celtic Languages and Literatures, Harvard University

    'Poetry, Language, Grammar, Death: Reading the Gogynfeirdd with Heidegger'

    26 Maw 2015

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
  • Viva PhD Hanes

    Arholwr Mewnol ar gyfer Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg

    2015

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)

2014

  • Darlith gyhoeddus yn Neuadd Ogwen, Bethesda, mewn cyfres a drefnwyd gan Brifysgol Bangor/Pontio

    'Zombies Gwyddelig, Moch yr Apocalyps a phroblemau eraill Cymry'r Mabinogi'

    Tach 2014

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
  • Darllen a thrafod cerddi Wioletta Grzegorzewska, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Bwyleg i'r Gymraeg

    Hyd 2014

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Societas Celto-Slavica, 7fed Colociwm

    'Mesur, Cynghanedd a Pherson: sylwadau ar strwythur rhai cerddi canoloesol'

    Medi 2014

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr)
  • Cwrs Preswyl Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Freiburg

    Dysgu (Cymraeg: Iaith a Llên) ar gwrs preswyl Astudiaethau Celtaidd

    Meh 2014

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs (Siaradwr gwadd)
  • Darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Poznań, Gwlad Pwyl.

    'Language and transcendence in the poetry of the Welsh Princes'

    Ebr 2014

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)

2013

  • Darllen a thrafod cerddi Bartek Majzel, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Bwyleg i'r Gymraeg

    Hyd 2013

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Ysgol Haf Astudiaethau Celtaidd

    Trefnu a chydlynu Ysgol Haf i fyfyrwyr o wledydd Ewrop a Tsieina

    Gorff 2013

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs (Trefnydd)
  • Gweithdy Athroniaeth Prifysgol Caerdydd

    Darlith wadd: ‘Athronwyr y tywysogion? Sylwadau ar iaith y Gogynfeirdd, y frawddeg enwol a'r apophatig’

    Meh 2013

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • Viva PhD

    15 Mai 2013

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
  • Papur yng nghyfres Seminarau Ymchwil Ysgol y Gymraeg

    ‘Y Canu Darogan, Peniarth 50 ac Amlieithrwydd’

    Mai 2013

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • Trafodaeth yn ystod gweithdy cyfieithu rhyngwladol

    Ion 2013

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)

2012

  • Darllen a thrafod cerddi Julia Fiedorczuk, wedi eu cyfieithu gennyf o’r Bwyleg i'r Gymraeg

    Hyd 2012

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Medieval Multilingualism in the British Isles

    ‘National Library of Wales, MS Peniarth 50: Welsh Political Prophecy and Multilingualism’

    Gorff 2012

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr)
  • NAASWCH International Congress on Welsh Studies, Bangor, 2012

    ‘Rhys Fardd a rhyddfrydwyr eraill yr Oesau Canol’

    Gorff 2012

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr)
  • Darlithydd gwadd ar amryw gyrsiau Astudiaethau Celtaidd

    Ebr 2012

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Viva PhD Cymraeg

    Arholwr mewnol (Ysgol y Gymraeg)

    2012

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)

2011

  • Viva Phd Cymraeg

    Arholwr Mewnol Ysgol y Gymraeg

    2011

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)

2010

  • Harvard University

    Athro ar Ymweliad (Visiting Professor)

    1 Awst 2010 – 30 Rhag 2020

    Gweithgaredd: Ymweld â sefydliad academaidd allanol (Ymchwilydd Gwadd)

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith

  • Staff
    • Dr Aled Llion Jones
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor