Gwybodaeth Cyswllt
Ar hyn o bryd mae Abi yn arwain ar TAR Addysg Gynradd gyda SAC. Mae Abi yn ddwyieithog, ac yn arwain y carfannau Cymraeg a Saesneg.
Ar ôl bod yn ymarferydd cynradd am ugain mlynedd ar draws pob grŵp oedran, mae Abi wedi profi swyddi arweinyddiaeth, trefnu adrannau ac wedi arwain ar addysgu a dysgu, Anghenion Dysgu Ychwanegol a phrosiectau Addysg Athrawon Cychwynnol ar draws yr ysgol gyfan, ochr yn ochr ag arwain mewn sawl maes pwnc.
Yn dilyn yr angerdd hwn, dechreuodd Abi ar secondiad ym Mhrifysgol Bangor fel Darlithydd mewn Addysg, ac yna secondiad rhan-amser – gan gyfrannu yn y Lleoliad Ysgol Gynradd a'r Brifysgol i'r rhaglenni AGU, lle cyfrannodd at ddylunio a chyflwyno rhaglenni, hyfforddi mentoriaid a chefnogi lles myfyrwyr, ochr yn ochr ag addysgu a dysgu mewn Mathemateg, Lleoliad ac Astudiaethau Addysgegol ar draws rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig. Mae Abi yn dal i roi dysgwyr wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud, gan ei bod yn anelu at gefnogi a datblygu'r athrawon gorau ar gyfer yfory.
Projectau
-
01/11/2021 – 31/08/2026 (Wedi gorffen)