Rhagolwg
Cyflwyniad
Yn enedigol o Ynys Môn, deuthum i Brifysgol Bangor yn 2009 i astudio am radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol. Wedi graddio yn 2012, cwblheais MA mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol, cyn ymgymryd â phrosiect PhD ar y cyd rhwng Ysgol Athroniaeth a Chrefydd ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, dan nawdd yr AHRC. Yn dilyn hynny, fe’m penodwyd yn Ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd.
Ymchwil Academaidd
Roedd fy ymchwil doethurol yn archwilio ymatebion crefyddol y Cymry yn yr Unol Daleithiau i fater caethwasiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd ffrwyth yr ymchwil ar ffurf monograff yn 2022: ‘Mae’r Beibl o’n tu’: ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868) (Gwasg Prifysgol Cymru).
Fel y dengys testun fy PhD, mae fy niddordebau academaidd yn eang ac yn rhyngddisgyblaethol, ac yn cynnwys: astudiaethau Beiblaidd; derbyniad y Beibl mewn hanes a’i rôl mewn materion cyfoes; crefydd, llenyddiaeth a chymdeithas; hanes caethwasiaeth a moeseg; Iddewiaeth a Christnogaeth, a’u deialog ryng-grefyddol; Siciaeth a Chonffiwsiaeth; Ecoleg a Chrefydd; Athroniaeth Hynafol; Problem Drygioni; Anghydffurfiaeth Gymreig a’r Cymry yn America; diwylliant print y bedwaredd ganrif ar bymtheg; a rôl crefydd yn cynnal hunaniaeth ethnig a chenedlaetholgar mewn cymunedau gwasgaredig.
O’r herwydd, mae’r modiwlau rydw i’n eu haddysgu’n amrywiol ac yn cynnwys moeseg, Iddewiaeth a Christnogaeth, a rôl crefydd mewn materion ecolegol cyfoes.
Gwaith Creadigol
Rydw i hefyd yn ysgrifennu’n greadigol ac ym mis Hydref 2018, cyhoeddais nofel yn darlunio profiadau’r Iddewon yn ystod yr Holocost, Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn). Cafodd Eira Llwyd ei enwi'n Llyfr y Mis ar gyfer mis Tachwedd 2018 gan Gyngor Llyfrau Cymru. Yn 2023, cyhoeddir nofel gennyf, Y Cylch (Gwasg y Bwthyn), sy’n archwilio’r modd y darlunnir gwrachod yn ein cymdeithas heddiw.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, bûm yn hynod ffodus o ennill y Fedal Ddrama am fy nrama Adar Papur, a chynhyrchwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2020; ac yn Eisteddfod Genedlaethol AmGen 2021, deuthum yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama am fy nrama, Cadi Ffan a Jan, a oedd yn archwilio ystrydebau gender yn y Gymru gyfoes.
Yng ngwanwyn 2022, aeth drama roeddwn wedi’i sgriptio, Ynys Alys (Cwmni'r Frân Wen), ar daith o amgylch Cymru.
Gwybodaeth Cyswllt
Addysgu ac Arolygiaeth
- Moeseg: Agweddau Crefyddol
- Cyflwyniad i Iddewiaeth a Christnogaeth
- Cyflwyniad i Athroniaeth Hynafol
- Gwrth-Semitiaeth
- Natur a Chrefydd y Gorllewin
- Crefydd, Cenedligrwydd a Rhywioldeb
- Yr Holocost: Ymatebion Crefyddol ac Athronyddol
- Crefydd yng Nghymru: O Baganiaeth i Jediaeth
- Iddewiaeth yn y Byd Modern
- Problem Drygioni
- Y Gaethfasnach Drawsatlantig
- Athroniaeth Crefydd yn yr 20fed Ganrif
- Astudiaeth Annibynnol
- Traethawd Hir
Cyfarwyddo MA/MRes
- Yn cyfarwyddo prosiectau MRes ym meysydd astudiaethau crefyddol ac athroniaeth.
Cyfarwyddo PhD
- Yn cyfarwyddo prosiectau'n cynnwys rhai am Heraclitus, a llenyddiaeth ffantasi.
- Yn fodlon cyfarwyddo prosiectau PhD ym meysydd astudiaethau crefyddol, llenyddiaeth a chrefydd, a hanes caethwasiaeth
Diddordebau Ymchwil
- Y Beibl a chaethwasiaeth.
- Anghydffurfiaeth Gymreig a diwylliant print crefyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
- Iddewiaeth a Christnogaeth a’u deialog ryng-grefyddol.
- Seioniaeth a Christnogaeth.
- Llenyddiaeth a Chrefydd.
Cyhoeddiadau
2022
- Cyhoeddwyd'Mae'r Beibl o'n tu': ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868)
Evans Jones, G., 15 Gorff 2022, 1 gol. Caerdydd: University of Wales Press. 354 t. (Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydMae’r Beibl o’n Tu: Ymatebion Crefyddol y Cymry yn America i Gaethwasiaeth (1838-1868)
Evans Jones, G. & Jones, A. L. (gol.), Medi 2022, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 368 t. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
2019
- CyhoeddwydThe Testament of Magneto: Depicting the Holocaust in a Graphic Novel
Evans Jones, G., 15 Tach 2019.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd‘'Does dim gwadu ar Etifeddiaeth’: Astudiaeth o’r modd yr ymdrinnir ag etifeddiaeth yn Ac Eto Nid Myfi a detholiad o straeon byrion John Gwilym Jones
Evans Jones, G., 1 Maw 2019, Yn: Gwerrdon. 28, t. 21-42 21 t., 2.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd“I ddwyn y gaethglud fawr yn rhydd”: Cysyniadau Beiblaidd a Diddymiaeth y Cymry Americanaidd
Evans Jones, G., 22 Gorff 2019.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
2018
- CyhoeddwydEira Llwyd
Evans-Jones, G., 1 Hyd 2018, Cyntaf gol. Caernarfon: Gwasg y Bwthyn. 104 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydGolygyddion Cymraeg America a Chaethwasiaeth
Evans Jones, G., 6 Mai 2018
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydY Canu Caeth: Llenyddiaeth Gymraeg a Chaethwasiaeth America
Evans Jones, G., 29 Ion 2018.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur
2017
- CyhoeddwydDryllio’r Hualau: Caethwasiaeth Fodern a’r Beibl
Evans Jones, G., 26 Chwef 2017
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall - CyhoeddwydIn Exile: Welsh-Americans and African-American Slaves (1838-1865)
Evans Jones, G., 12 Gorff 2017.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydY Seren yn y Groes: Effaith deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas rhwng yr Eglwys a’r Iddewon
Evans Jones, G., 1 Maw 2017, Yn: Gwerddon. 23, t. 58-84 3.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2016
- Cyhoeddwyd'Y Cenhadwr and Y Dyngarwr: Two Welsh-American Abolitionist Journals?'
Evans Jones, G., 1 Hyd 2016, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, Volume XXXV: 2015. 1af gol. Cambridge, MA: Harvard University Press, Cyfrol 35. t. 109-128
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd‘The “Children of Ham” and the “Race of Gomer”’
Evans Jones, G., 10 Medi 2016.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd‘“Gweledigaeth” y Bedyddiwr Cwsg: Treftadaeth lenyddol J. P. Harris (Ieuan Ddu)
Evans Jones, G., 10 Meh 2016.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
2015
- CyhoeddwydY Cenhadwr and Y Dyngarwr: Two Welsh-American Abolitionist Journals?
Evans Jones, G., 11 Hyd 2015.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydY Cenhadwr a’r Dyngarwr: Caethwasiaeth, Crefydd a’r Cymry yn America (1840-3)
Evans Jones, G., 25 Meh 2015.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
2014
- Cyhoeddwyd‘“Chwi gaethweision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistri daearol”: Caethwasiaeth a’r Beibl’
Evans Jones, G., 1 Awst 2014, Yn: Tu Chwith. 40, t. 83-91
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Gweithgareddau
2021
- Panel Trafod 'Cranogwen a Prosser Rhys'
Cadeirio Panel Trafod am 'Granogwen a Prosser Rhys'
24 Meh 2021
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Monologau Ffoaduriaid
24 Maw 2021
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Rhan o Banel Trafod 'Y Castell Siwgr' gan Angharad Tomos
24 Maw 2021
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2020
- Sgwrs am Wrth-Semitiaeth ar raglen Bwrw Golwg gyda John Roberts
1 Tach 2020
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Y Triongl Pinc: Pobl Hoyw a'r Holocost
20 Hyd 2020
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Sgwrs am faddeuant efo John Roberts ar y rhaglen Bwrw Golwg
30 Awst 2020
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Gweminar Dysgu ac Addysgu y Coleg Cymraeg
15 Gorff 2020
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Sgwrs am yr Holocost a'r X-Men ar raglen Dei Tomos
5 Gorff 2020
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Cynhadledd Ymchwil Rithiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cyflwyno Papur am yr Holocost a'r X-Men
1 Gorff 2020
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr) - Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus mewn Athroniaeth a Chrefydd
17 Meh 2020 – 22 Gorff 2020
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Cynhadledd Adolygu Hanes Safon Uwch
Cynhadledd Adolygu ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch Hanes. Trafodais yr Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd yn y bore ac yna Hawliau Dynol yn y prynhawn.
28 Chwef 2020
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr) - Eira Llwyd: Darlunio'r Holocost mewn Nofel
6 Chwef 2020
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - O Eira Llwyd i Adar Papur
Sgwrs am y broses greadigol mewn cyfryngau gwahanol.
22 Ion 2020
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2019
- John Gwilym Jones ac Etifeddiaeth
Sgwrs am John Gwilym Jones ac etifeddiaeth ar raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru.
17 Tach 2019
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Dathlu llwyddiant Gareth Evans-Jones
Sgwrs drwy wahoddiad yn ystod noson a drefnwyd gan bwyllgor Eisteddfod Marianglas i ddathlu llwyddiant Dr Gareth Evans-Jones, Prif Ddramodydd Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 2019
3 Hyd 2019
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Prif siaradwr) - XVIth International Congress of Celtic Studies
Cyflwyno Papur: ‘I ddwyn y gaethglud fawr yn rhydd’: Cysyniadau Beiblaidd a Diddymiaeth y Cymry Americanaidd.
22 Gorff 2019
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr) - O'r Stori Fer i'r Nofel Feicro
Sgwrs â Merched y Wawr Porthaethwy am lenydda mewn gwahanol gyfryngau.
20 Chwef 2019
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Y Cymry America a'r Caethion
Sgwrs am y Cymry yn yr Unol Daleithiau ynghylch caethwasiaeth y 19eg ganrif.
28 Ion 2019
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2018
- O Ynys Môn i Ynys Madog
Trafodaeth am dri Chymro a deithiodd i America a'u gweithgareddau llenyddol, gweinidogaethol, a gwleidyddol, yn enwedig yng nghyd-destun caethwasiaeth.
14 Rhag 2018
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Sgwrs gyda Newyddion 9 ynghylch prosiect Ail-Gysylltu/RE-Connect
Cyfweliad gyda Newyddion 9 am brosiect o'r enw Ail-Gysylltu/RE-Connect a fydd yn cynorthwyo athrawon a disgyblion wrth astudio Addysg Grefyddol ar lefel Safon Uwch, ac yn annog myfyrwyr i ystyried gyrfa fel athro/athrawes Addysg Grefyddol
12 Tach 2018
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - 'Y Cymry a'r Caethion'
Sgwrs a gyflwynwyd i Gymdeithas Hanes y Tair Llan, Llanwnda, Gwynedd.
9 Tach 2018
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Lansiad y gyfrol Eira Llwyd gan Gareth Evans Jones
Darlleniad yn lansiad y gyfrol Eira Llwyd gan Gareth Evans Jones (Gwasg y Bwthyn), yn Pontio, Bangor
18 Hyd 2018
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - 'I Ddwyn y Gaethglud Fawr yn Rhydd': Y Beibl, y Cymry, a Chaethwasiaeth yn America
22 Medi 2018
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Cynhadledd NAASWCH Prifysgol Bangor 2018
Cyflwyno papur: 'Dyn v. Duw: Cyfraith y Caeth Ffoedig a Gwasg Gymraeg America'
26 Gorff 2018
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr) - Ffair Addysg Uwch UCAS Sir Bedford
Cyflwyno seminar: ‘Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn y Brifysgol’.
28 Meh 2018 – 29 Meh 2018
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr) - Cyflwyniad i Fyfyrwyr Addysg Grefyddol Ysgol Brynrefail
Cyflwyniad am astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol
12 Meh 2018
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr) - Sgwrs ar Raglen Dei Tomos, Radio Cymru
Sgwrs ar Raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru: 'Golygyddion Cymraeg America a Chaethwasiaeth'
6 Mai 2018
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - Cyflwyniad i Fyfyrwyr Astudiaethau Crefyddol yn Ysgol Gyfun Llangefni
Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol.
1 Chwef 2018
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr) - 'Y Canu Caeth'
Sgwrs wadd gyda Chylch Llenyddol Bodffordd, Ynys Môn
29 Ion 2018
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2017
- Cyflwyniad i Fyfyrwyr Astudiaethau Crefyddol Ysgol David Hughes, Porthaethwy
Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol.
6 Rhag 2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr) - Cyflwyniad i Fyfyrwyr Astudiaethau Crefyddol Ysgol Tryfan, Bangor
Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol.
24 Tach 2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr) - Cyflwyniad i Fyfyrwyr Astudiaethau Crefyddol, Ysgol Uwchradd Bodedern
Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol.
20 Tach 2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr) - Darn o'r Haul: Dathlu Bywyd a Gyrfa Sian Owen, Marian-glas
Un o gyfranwyr sesiwn goffa'r diweddar Sian Owen, Marian-glas yn y Babell Lên, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017
7 Awst 2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr) - Cynhadledd 'The International Academic Forum (IAFOR) European Conference Arts & Humanities 2017'
Cyflwyno papur: 'In Exile: Welsh-Americans andAfrican-American Slaves (1838-1865)'
12 Gorff 2017
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr) - Dryllio’r Hualau: Caethwasiaeth Fodern a’r Beibl
Sgwrs a gyflwynwyd yng Nghapel Paradwys, Llanallgo, Ynys Môn
26 Chwef 2017
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
2016
- The 18th Biennial Conference for the International Society for Religion, Literature and Culture
Cyflwyno papur: ‘The “Children of Ham” and the “Race of Gomer”’
10 Medi 2016
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr) - Colocwiwm Canolfan Ymchwil Cymru
Cyflwyno papur: ‘“Gweledigaeth” y Bedyddiwr Cwsg: Treftadaeth lenyddol J. P. Harris (Ieuan Ddu)'
10 Meh 2016
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr)
2015
- The 35th Annual Harvard Celtic Colloquium
Cyflwyno papur: 'Y Cenhadwr and Y Dyngarwr: Two Welsh-American Abolitionist Journals?
11 Hyd 2015
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr) - Cynhadledd Ymchwil Amlddisgyblaethol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cyflwyno papur: 'Y Cenhadwr a'r Dyngarwr: Caethwasiaeth, Crefydd a'r Cymry yn America (1840-3)'
26 Meh 2015
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd (Siaradwr)
Gwybodaeth Arall
Dyletswyddau Gweinyddol
- Tiwtor Personol
- Swyddog Materion Cymraeg
- Swyddog Cyfathrebu Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
Cydnabyddiaethau/Llwyddiannau
- Ennill Grant gan Gymdeithas Awduron Prydain i lunio cyfrol o lên feicro (2021).
- Ennill Gwobr Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2019.
- Ennill Ysgoloriaeth Awdur Newydd gan Lenyddiaeth Cymru i weithio ar nofel (2017).
- Ennill Ysgoloriaeth Ieithoedd Celtaidd AHRC i gwblhau ymchwil y PhD (2014).
- Ennill Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen (2013).
- Ennill Ysgoloriaeth Mynediad i Radd Meistr (ATM) ar gyfer y cwrs MA (2012).
- Ennill Gwobr Dr John Robert Jones gan Brifysgol Bangor am fod yn un o ‘fyfyrwyr gorau’r flwyddyn’ (2012).
- Ennill Gwobr Syr John Morris-Jones gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor am ganlyniadau fy arholiadau gradd BA (2012).
- Ennill Gwobr Robert Richards gan Brifysgol Bangor am ansawdd fy nhraethawd hir israddedig am bwnc yn ymwneud â’r Gyfraith, Astudiaethau Crefyddol neu Hanes (2012).
- Ennill Gwobr Thomas L. Jones gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor am ganlyniadau arholiadau ail flwyddyn fy ngradd (2011).
- Ennill Gwobr R. T. Robinson gan Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Bangor, am safon fy ngwaith yn ystod blwyddyn gyntaf fy nghwrs gradd (2010).
Aelodaeth
- Cymrawd Cydymaith Academi Addysg Uwch.
- Aelod o Gyngor Cristnogion ac Iddewon (CCJ).
Golygyddol
- Cyd-olygydd Ysgrifau Beirniadol gyda Dr Elis Dafydd (Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd).