Gweithgareddau
2026
- Diwrnod Darganfod Ieithoedd – Cyfle cyffrous i ddisgyblion Blwyddyn 9 yng Ngogledd Cymru
Mae Diwrnod Darganfod Ieithoedd yn cynnig cyfle unigryw i ddisgyblion Blwyddyn 9 ledled Gogledd Cymru ddarganfod pwysigrwydd ieithoedd mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd, ac archwilio sut y gall sgiliau ieithyddol agor drysau i gyfleoedd yn y dyfodol, cyn iddynt wneud eu dewisiadau TGAU. Pwrpas y digwyddiad yw ehangu dealltwriaeth y disgyblion o sut y gall ieithoedd gefnogi eu huchelgeisiau addysgol a gyrfaol.
Mae’r digwyddiad hwn yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor a Gyrfa Cymru, a gynhelir drwy’r Prosiect Ieithoedd Rhyngwladol fel rhan o gynllun Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru.
Bydd y rhaglen yn dechrau gyda chyflwyniad ysbrydoledig gan David Binns, cyn Brif Weithredwr Sanako UK ac sy’n cynrychioli MFL Insights ar hyn o bryd.
Wedi hynny, bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn tair sesiwn gylchdro a arweinir gan Ysgol Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Bangor a’r Sefydliad Confucius Bangor. Bydd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn rhoi cyfle i’r disgyblion archwilio gwahanol ieithoedd, datrys posau, cyfnewid syniadau a rhoi eu creadigrwydd a’u sgiliau ieithyddol ar waith. Byddant hefyd yn cael cyfle i gwrdd â phobl sy’n gweithio mewn proffesiynau sy’n gysylltiedig ag ieithoedd a sgwrsio â myfyrwyr Prifysgol Bangor am eu profiadau.
Sesiynau:
• “Ai dyna ddywedon nhw mewn gwirionedd? Athroniaeth, crefydd a phroblemau cyfieithu camarweiniol”, gan Ysgol y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
• “Sesiwn Flasu Tsieinëeg”, gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
• “Ieithoedd a chyflogadwyedd: panel o fyfyrwyr” – cyfle i sgwrsio â myfyrwyr Prifysgol Bangor.
• Stondinau gwybodaeth, gan gynnwys partneriaid busnes ac arddangosfa Gymraeg gan Syniadau Mawr Cymru.
9 Tach 2026
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
2023
- Ymarferion sylwebu chwaraeon
14 Hyd 2023
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Trefnydd)