Mr Ed Kelly
Darlithydd Addysg (Addysgu ac Ysgoloriaeth, Addysg Gychwynnol Athrawon)
Rhagolwg
Rwy’n Ddarlithydd mewn Addysg yn Ysgol Addysg Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, lle rwy’n gweithio gydag athrawon dan hyfforddiant, addysgwyr wrth eu gwaith a phartneriaid ysgol i gryfhau addysg wyddoniaeth, addysgeg ddigidol ac arferion yn yr ystafell ddosbarth. Rwy’n addysgu ar ddarpariaeth israddedig, TAR ac ar lefel meistr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae fy null o ymdrin ag addysg athrawon yn ymarferol, yn gynhwysol ac wedi’i lywio gan ymchwil. Rwyf am i athrawon dan hyfforddiant ddeall theori addysgol, ond hefyd deimlo’n hyderus wrth ei rhoi ar waith i greu profiadau dysgu ystyrlon yn yr ystafell ddosbarth. Mae fy addysgu’n seiliedig ar fwy nag ugain mlynedd o brofiad ym meysydd gwyddoniaeth uwchradd, cemeg ac addysg awyr agored, gan gynnwys rolau blaenorol fel Pennaeth Cemeg, athro gwyddoniaeth ac athro addysg awyr agored. Mae’r cefndir hwn yn parhau i lywio fy niddordeb mewn gwyddoniaeth ymarferol, dysgu drwy brofiad a dysgu yn yr awyr agored, yn ogystal â datblygu gwybodaeth broffesiynol a hyder athrawon.
Fel Arweinydd Digidol Ysgol Addysg Gogledd Cymru, rwy’n arwain gwaith i gryfhau addysgeg ddigidol ar draws Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r fframwaith Gwybodaeth Dechnolegol, Addysgegol a Chynnwys (TPACK) i werthuso a datblygu cymhwysedd digidol athrawon dan hyfforddiant, integreiddio platfform Hwb Llywodraeth Cymru i addysg athrawon, a chefnogi cydweithwyr i ddefnyddio technoleg mewn ffordd bwrpasol, feirniadol a chynhwysol. Rwyf hefyd yn Brif Ymchwilydd ar gyfraniad Prifysgol Bangor i Gydweithfa Dylunio Dysgu Cymru, lle mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg, dylunio dysgu a dulliau digidol o gefnogi dysgu proffesiynol.
Mae cysylltu’r Brifysgol ag ysgolion, athrawon a sefydliadau proffesiynol yn rhan ganolog o fy ngwaith. Sefydlais Rwydwaith Athrawon Gwyddoniaeth Gogledd Cymru ac rwy’n cyfrannu at y rhaglen Hybu Addysg Wyddoniaeth yng Nghymru. Drwy’r gwaith hwn, rwy’n trefnu cynadleddau a chyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon cynradd, athrawon gwyddoniaeth uwchradd a thechnegwyr gwyddoniaeth. Rwyf hefyd yn cydweithio â sefydliadau gan gynnwys Cymdeithas Frenhinol Cemeg a’r Sefydliad Ffiseg er mwyn ehangu’r profiadau a’r rhwydweithiau proffesiynol sydd ar gael i athrawon dan hyfforddiant ac addysgwyr wrth eu gwaith.
Rwy’n Uwch Gymrawd Advance HE, yn Aelod o Gymdeithas Frenhinol Cemeg ac yn Wyddonydd Cofrestredig. Mae fy niddordebau ehangach yn cynnwys dylunio cwricwlwm cynhwysol, Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu, gwyddoniaeth ymarferol a microscale, dysgu yn yr awyr agored, asesu ac adborth, ac addysg athrawon ddwyieithog yng Nghymru.
Gwybodaeth Cyswllt
Darlithydd mewn Addysg
Ysgol Addysg Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor
Cyferiad: Athrolys, Ysgol Addysg Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK
ORCID iD: 0009-0007-2016-3375
https://orcid.org/0009-0007-2016-3375
Cymwysterau
- Profesiynol: Uwch Gymrawd - Advance HE (SFHEA)
Advance HE, 2026 - Profesiynol: Aelod o Gymdeithas Frenhinol Cemeg (MRSC)
Royal Society Of Chemistry, 2026 - Arall: Tystysgrif Ôl-raddedig (TystÔl): Addysgu mewn Addysg Uwch
2026 - Profesiynol: Cymrawd - Advance HE (FHEA)
Advance HE, 2024 - Profesiynol: Gwyddonydd Cofrestredig
Royal Society Of Chemistry, 2021 - MEd: Gradd Meistr mewn Addysg (EdM): Astudiaethau Addysg
2020 - Arall: Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR): Cemeg ac Addysg Awyr Agored
University of Wales, Bangor, 2007 - Arall: Meistr mewn Peirianneg, MEng: Peirianneg Fecanyddol
School of Geography, University of Leeds, UK, 2002
Addysgu ac Arolygiaeth
Rwy’n addysgu ar raglenni israddedig, TAR ac ar lefel meistr yn Ysgol Addysg Gogledd Cymru, gan gyfrannu at Addysg Gychwynnol Athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae fy addysgu’n cynnwys addysg gwyddoniaeth a thechnoleg, addysgeg ddigidol, astudiaethau proffesiynol ac addysgegol, cynllunio a gwireddu’r cwricwlwm, a goruchwylio traethodau hir. Rwy’n gweithio gydag athrawon dan hyfforddiant sy’n paratoi ar gyfer lleoliadau cynradd, uwchradd ac anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal ag addysgwyr wrth eu gwaith sy’n ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig.
Mae fy addysgu’n ymarferol, yn gynhwysol ac wedi’i gysylltu’n agos ag arferion proffesiynol. Fy nod yw helpu athrawon dan hyfforddiant i ddeall yr ymchwil a’r theori sy’n sail i addysg effeithiol, gan ddatblygu’r hyder i roi’r wybodaeth honno ar waith mewn ysgolion. Rwy’n aml yn modelu dulliau addysgu y gall myfyrwyr eu haddasu ar gyfer eu hystafelloedd dosbarth eu hunain, gan ddefnyddio arbrofion ymarferol, technolegau digidol, dysgu yn yr awyr agored a chyfleoedd i ddatrys problemau ar y cyd. Mae fy myfyrwyr yn gwerthfawrogi’n arbennig natur ymarferol a diddorol y sesiynau hyn, y cyfle i roi gweithgareddau ar waith eu hunain, a’r cysylltiadau clir rhwng dysgu yn y Brifysgol a’u gwaith mewn ysgolion.
Mae addysg wyddoniaeth yn ganolbwynt pwysig i’m haddysgu. Gan ddefnyddio fy mhrofiad helaeth o addysgu gwyddoniaeth ac addysg awyr agored, rwyf wedi helpu i gryfhau gwyddoniaeth ymarferol o fewn darpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon Bangor. Mae hyn yn cynnwys datblygu mannau dysgu ymarferol, modelu ymchwiliadau diogel a hygyrch, a chyflwyno dulliau megis gwyddoniaeth ar raddfa fach i athrawon dan hyfforddiant. Fy nod yw helpu athrawon y dyfodol i ddatblygu gwybodaeth bynciol gadarn a hyder addysgegol, gan gydnabod sut y gall ymholi ymarferol hybu chwilfrydedd, dealltwriaeth gysyniadol a chyfranogiad.
Fel Arweinydd Digidol yr Ysgol, rwy’n cefnogi datblygiad addysgeg ddigidol ar draws Addysg Gychwynnol Athrawon. Yn hytrach na chanolbwyntio ar becynnau meddalwedd unigol yn unig, rwy’n annog myfyrwyr i ystyried sut mae technoleg, addysgeg a gwybodaeth bynciol yn rhyngweithio. Rwy’n defnyddio’r fframwaith Gwybodaeth Dechnolegol, Addysgegol a Chynnwys (TPACK) i helpu athrawon dan hyfforddiant i werthuso eu cymhwysedd digidol, nodi meysydd i’w datblygu a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch defnyddio technoleg yn eu haddysgu. Rwyf hefyd yn cefnogi’r gwaith o integreiddio platfform Hwb Llywodraeth Cymru a’r adnoddau cysylltiedig i Addysg Gychwynnol Athrawon.
Mae cynhwysiant a hygyrchedd yn ganolog i’m haddysgu. Rwy’n gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i ddatblygu dulliau cynhwysol o gynllunio’r cwricwlwm, adnoddau dysgu ac asesu. Rwy’n annog athrawon dan hyfforddiant i ystyried hygyrchedd o ddechrau’r broses gynllunio, yn hytrach na’i drin fel addasiad diweddarach, ac i gydnabod sut y gall cynllunio meddylgar a hyblyg leihau rhwystrau a gwella’r dysgu i bawb. Rwyf hefyd wedi cyfrannu at rannu arferion effeithiol ym maes addysgu hygyrch a chynhwysol yn ehangach ar draws y Brifysgol.
Rwy’n cyfrannu at arwain modiwlau ac asesiadau ar draws darpariaeth israddedig ac ôl-raddedig. Mae fy nghyfrifoldebau’n cynnwys cynllunio’r cwricwlwm a meysydd llafur, datblygu deilliannau dysgu a thasgau asesu, paratoi myfyrwyr ar gyfer asesiadau, cymedroli, sicrhau ansawdd a darparu adborth datblygiadol. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn dulliau asesu dilys sy’n galluogi myfyrwyr i ddangos eu dealltwriaeth broffesiynol drwy ddulliau ymarferol, digidol ac ar fideo, pan fo’r rhain yn briodol i’r deilliannau dysgu arfaethedig.
Rwy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac yn cyfrannu at ddatblygu Addysg Gychwynnol Athrawon ddwyieithog. Fel dysgwr Cymraeg, rwyf wedi parhau i ddatblygu fy nefnydd proffesiynol o’r Gymraeg ac rwyf bellach yn addysgu ar amrywiaeth o fodiwlau cyfrwng Cymraeg. Mae’r profiad hwn wedi cryfhau fy niddordeb mewn addysgu dwyieithog, argaeledd a hygyrchedd adnoddau digidol cyfrwng Cymraeg, a pharatoi athrawon ar gyfer cyd-destun ieithyddol addysg yng Nghymru.
Rwy’n goruchwylio traethodau hir addysg ar lefel meistr ac yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu cwestiynau ymchwil, ymgysylltu’n feirniadol â llenyddiaeth, dewis dulliau priodol a chysylltu eu hymchwiliadau ag arferion addysgol. Mae fy niddordebau goruchwylio’n cynnwys addysg wyddoniaeth, addysgeg ddigidol, integreiddio technoleg, Addysg Gychwynnol Athrawon, arferion cynhwysol, datblygu’r cwricwlwm, dysgu ymarferol ac awyr agored, a dysgu proffesiynol athrawon.
Diddordebau Ymchwil
Mae fy ymchwil a’m hysgolheictod yn canolbwyntio ar ddatblygu addysg athrawon sy’n effeithiol, yn gynhwysol ac yn berthnasol yn broffesiynol. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn addysgeg ddigidol, addysg wyddoniaeth, dylunio dysgu, a’r ffyrdd y mae athrawon dan hyfforddiant yn datblygu’r wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen mewn ystafelloedd dosbarth cyfoes. Mae fy ngwaith yn gymhwysol ac wedi’i gysylltu’n agos â’m haddysgu, datblygu’r cwricwlwm a’m partneriaethau ag ysgolion.
Mae maes pwysig o’m gwaith yn ymchwilio i gymhwysedd digidol mewn Addysg Gychwynnol Athrawon. Rwy’n archwilio sut mae athrawon dan hyfforddiant yn datblygu’r hyder, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth feirniadol sydd eu hangen i ddefnyddio technoleg yn effeithiol yn eu haddysgu. Dechreuodd y gwaith hwn drwy werthuso cymhwysedd digidol ar draws rhaglenni TAR Prifysgol Bangor, ac ers hynny mae wedi llywio newidiadau i addysgu, asesu a chynllunio’r cwricwlwm ar draws darpariaeth israddedig ac ôl-raddedig. Rwy’n parhau i werthuso datblygiad digidol myfyrwyr ar wahanol gamau o’u rhaglenni, gan ddefnyddio’r canfyddiadau i wella addysg athrawon a chefnogi myfyrwyr i nodi eu hanghenion datblygiad proffesiynol eu hunain.
Fi yw’r Prif Ymchwilydd ar gyfraniad Prifysgol Bangor i Gydweithfa Dylunio Dysgu Cymru, menter ryngbrifysgol sy’n archwilio dylunio dysgu, technolegau sy’n dod i’r amlwg a dulliau digidol o addysgu a dysgu proffesiynol. Mae fy niddordebau yn y gwaith hwn yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, myfyrio drwy fideo, dysgu drwy ddefnyddio sgrin werdd, fideo 360 gradd, a defnyddio technolegau digidol i gefnogi asesu ac adborth. Mae’r gwaith hwn yn fy ngalluogi i gydweithio â chydweithwyr ar draws sefydliadau a chyfrannu at ddatblygu a rhannu arferion effeithiol yng Nghymru.
Mae maes arall o’m hysgolheictod yn ymwneud ag addysgeg ddigidol gynhwysol a chynllunio cwricwlwm hygyrch. Mae gennyf ddiddordeb yn y modd y gall technolegau digidol a dulliau hyblyg o ddysgu ac asesu leihau rhwystrau, ehangu cyfranogiad a galluogi myfyrwyr i ddangos eu dysgu mewn ffyrdd ystyrlon. Rwyf wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i archwilio a rhannu dulliau o ddefnyddio technoleg hygyrch ac addysgu cynhwysol.
Mae fy niddordebau ymchwil hefyd yn cynnwys addysg wyddoniaeth ymarferol a’r berthynas rhwng addysg athrawon yn y Brifysgol ac arferion yn yr ystafell ddosbarth. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwyddoniaeth ymarferol sy’n ddiogel, yn hygyrch ac yn gynaliadwy, gan gynnwys dulliau ar raddfa fach, ac yn y modd y gall dysgu ymarferol ac awyr agored ddatblygu gwybodaeth bynciol, hyder a chwilfrydedd. Drwy fy ngwaith gydag athrawon dan hyfforddiant, addysgwyr wrth eu gwaith a sefydliadau proffesiynol, rwy’n ceisio sicrhau bod ysgolheictod yn llywio addysg athrawon a dysgu proffesiynol ar draws y sector ysgolion.
Mae fy niddordebau ymchwil a goruchwylio sy’n datblygu yn cynnwys:
- Cymhwysedd digidol ac integreiddio technoleg mewn Addysg Gychwynnol Athrawon
- Gwybodaeth Dechnolegol, Addysgegol a Chynnwys
- Deallusrwydd artiffisial mewn addysgu, asesu ac adborth
- Addysgeg ddigidol gynhwysol a chynllunio cwricwlwm hygyrch
- Addysg wyddoniaeth ymarferol, ar raddfa fach ac yn yr awyr agored
- Dylunio dysgu a myfyrio proffesiynol drwy fideo
- Dysgu proffesiynol athrawon a phartneriaethau rhwng ysgolion a phrifysgolion
- Addysg ddigidol ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg
Gweithgareddau
2026
- CELT: Accessible Technology & UDL in Education – raising the bar for accessibility for all
1 Chwef 2026
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - Physics Education (Cyfnodolyn)
2026 →
Gweithgaredd: Adolygu cyhoeddiadau cymheiriaid (Aelod o fwrdd golygyddol)
Projectau
-
Welsh Collaboration for Learning Design (WCLD) 2026-2027 (lead = 4769712)
01/04/2026 – 16/09/2026 (Wedi gorffen)
Gwybodaeth Arall
Rhan ganolog o’m rôl yw meithrin partneriaethau rhwng y Brifysgol, ysgolion a sefydliadau proffesiynol. Sefydlais Rwydwaith Athrawon Gwyddoniaeth Gogledd Cymru i greu cyfleoedd i athrawon ar draws y rhanbarth rannu arferion effeithiol, ymgysylltu ag ymchwil addysgol a datblygu cysylltiadau proffesiynol. Mae’r rhwydwaith hefyd yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng Prifysgol Bangor a’r gymuned addysg wyddoniaeth ehangach.
Rwy’n cyfrannu at y rhaglen Hybu Addysg Wyddoniaeth yng Nghymru, gan weithio gyda sefydliadau partner i gefnogi datblygiad addysg wyddoniaeth ar draws Gogledd Cymru. Drwy’r gwaith hwn, rwyf wedi trefnu cynadleddau a digwyddiadau dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon cynradd, athrawon gwyddoniaeth uwchradd a thechnegwyr gwyddoniaeth. Mae’r gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar syniadau ymarferol y gall addysgwyr eu haddasu ar gyfer eu lleoliadau eu hunain, gan greu cyfleoedd ar yr un pryd i ysgolion, cyrff proffesiynol ac arbenigwyr pwnc y Brifysgol gydweithio.
Rwy’n gweithio’n agos gyda sefydliadau allanol i gyfoethogi’r profiadau sydd ar gael i athrawon dan hyfforddiant ac addysgwyr wrth eu gwaith. Mae fy nghydweithwyr wedi cynnwys Cymdeithas Frenhinol Cemeg, y Sefydliad Ffiseg, Science & Plants for Schools, Technocamps, CBAC, yr RSPB, Sŵ Fynydd Gymreig a sefydliadau addysgol a gwyddonol eraill. Mae’r partneriaethau hyn yn cynnig mynediad at wybodaeth arbenigol, adnoddau addysgu a rhwydweithiau proffesiynol ehangach, gan helpu i gysylltu Addysg Gychwynnol Athrawon â datblygiadau ar draws y sectorau addysg a gwyddoniaeth.
Fel Hyrwyddwr Hwb Prifysgol Bangor, rwy’n cefnogi’r gwaith o integreiddio platfform Hwb Llywodraeth Cymru i Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae hyn yn cynnwys cefnogi mynediad i staff a myfyrwyr, trefnu datblygiad proffesiynol a helpu cydweithwyr i ddefnyddio’r adnoddau digidol sydd ar gael i ysgolion yng Nghymru yn effeithiol. Rwyf hefyd yn cyfrannu at fentrau dysgu digidol ar draws y Brifysgol ac yn cynrychioli Bangor mewn gwaith cydweithredol sy’n ymwneud â thechnoleg addysgol a dylunio dysgu.
Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol cydweithwyr o fewn y Brifysgol a’r tu hwnt iddi. Rwyf wedi trefnu hyfforddiant staff mewn technolegau digidol ac arferion cynhwysol, wedi cyfrannu at ddatblygu mentoriaid mewn ysgolion, ac wedi hwyluso cyfleoedd i addysgwyr rannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Rwyf hefyd yn cyfrannu at weithgareddau recriwtio, diwrnodau ymgeiswyr a diwrnodau agored, gan ddefnyddio sesiynau ymarferol a rhyngweithiol i gyflwyno darpar fyfyrwyr i addysg athrawon ym Mangor.
Mae fy nghydnabyddiaeth broffesiynol a’m haelodaeth yn cynnwys:
- Uwch Gymrawd Advance HE
- Cymrawd Advance HE
- Aelod o Gymdeithas Frenhinol Cemeg (MRSC)
- Gwyddonydd Cofrestredig (RSci)
- Aelod o’r Association for Science Education
Rwyf hefyd wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol parhaus ac yn ymgysylltu’n rheolaidd â chynadleddau, rhwydweithiau proffesiynol a chyfleoedd datblygu ym meysydd addysg wyddoniaeth, addysgeg ddigidol, addysgu cynhwysol ac addysg athrawon.
Dechreuodd fy nhaith i fyd addysg athrawon gyda chefndir mewn peirianneg fecanyddol, cyn dilyn gyrfa ym maes addysgu gwyddoniaeth ac addysg awyr agored. Mae’r profiadau hyn wedi ffurfio fy nghred y dylai dysgu effeithiol fod yn weithredol, yn bwrpasol ac yn gysylltiedig â chyd-destunau’r byd go iawn. Maent yn parhau i lywio fy nefnydd o ymchwiliadau ymarferol, dysgu drwy brofiad ac amgylcheddau awyr agored mewn Addysg Gychwynnol Athrawon.
Rwyf wedi byw a gweithio yng Ngogledd Cymru ers blynyddoedd lawer ac wedi addysgu mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol ar draws y rhanbarth. Rwy’n ddysgwr Cymraeg ymroddedig ac wedi symud ymlaen o ddysgu Cymraeg fel iaith ychwanegol i addysgu ar amrywiaeth o fodiwlau prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r daith hon wedi rhoi diddordeb personol a phroffesiynol cryf i mi mewn addysg ddwyieithog ac mewn sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant yn cael eu paratoi ar gyfer cyd-destun ieithyddol a diwylliannol addysg yng Nghymru.
Y tu allan i’m gwaith yn y Brifysgol, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth, addysg awyr agored a gweithgareddau awyr agored. Mae fy nghefndir yn cynnwys cymwysterau a phrofiad mewn meysydd megis mynydda, chwaraeon padlo, dringo, hwylio, beicio mynydd ac arweinyddiaeth awyr agored. Mae’r profiadau hyn yn parhau i ddylanwadu ar fy null o ymdrin ag addysg, yn enwedig fy niddordeb mewn dysgu drwy ymholi, her, cydweithio a phrofiad uniongyrchol.