Gwybodaeth Cyswllt
Rwy'n Darlithydd mewn Addysg, ac yn Cyfarwyddwr y Rhaglen BA Addysg Gynradd gyda SAC. Rwyf wedi gweithio ym Mhrifysgol Bangor ers tair blynedd, wedi symud drosodd o fy rôl fel Pennaeth Cynorthwyol mewn ysgol uwchradd. Yn y rôl hon, roeddwn yn gyfrifol am gefnogi ANG, gweithio gyda Athrawon Cyswllt a'u hyfforddi ac roeddwn hefyd yn gyfrifol am addysg broffesiynol i staff yr ysgol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi cwblhau Meistr mewn Arweinyddiaeth Addysgol, ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar fy ngradd Doethurol gyda ffocws ymchwil ar effaith AGA ar gefnogi datblygiad ysgolion fel sefydliadau dysgu.
Rwy'n dysgu ar y TAR Gynradd, ADY ac Uwchradd, ar y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC, ac rwy'n goruchwylio myfyrwyr gradd Meistr ar eu traethodau hir.