Dr Cynog Prys
Uwch Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (Cyfrwng Cymraeg)
Gwybodaeth Cyswllt
Trosolwg
Mae Dr Cynog Prys yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ble mae’n arbenigo ym meysydd cymdeithaseg, polisi cymdeithasol a chynllunio ieithyddol. Mae ganddo Ddoethuriaeth o Brifysgol Bangor (2011), ac MEd o Brifysgol Rio Grand, Ohio (2005), ynghyd a gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (Prifysgol Bangor,2003). Mae hefyd yn Uwch Gymrawd or Higher Education Acadamy. Enillodd ei gyfres o e-lyfrau Cymdeithaseg, Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Prys a Hodges) wobr genedlaethol am Adnodd Dysgu Rhagorol y Flwyddyn 2023, gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ei brif faes ymchwil academaidd yw astudio’r defnydd o Gymraeg ym mywyd bob dydd, gyda'i ymchwil yn canolbwyntio ar y defnydd o Gymraeg gan y cyhoedd mewn amrywiaeth o barthau gwahanol, gan gynnwys y gymuned, ym maes iechyd, y trydydd sector, a’r economi. Yn ogystal a’r meysydd hyn mae’n arbenigo ar y defnydd o ieithoedd lleiafrifol o fewn y parth digidol, gyda’i ddiddordeb presennol yn ffocysu ar deall beth fydd oblygiadau datblygiad ddeallusrwydd artiffisial i siaradwyr ieithoedd lleiafrifol. Mae Cynog yn cyhoeddi gwaith ymchwil yn gyson mewn cyfnodolion rhyngwladol, a mae ei waith yn ymddangos o dogfennau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. Gweler ei restr gyhoeddiadau am wybodaeth bellach.
Y Gymraeg yn y Gymdeithas Sifil
Cynhigiodd doethuriaeth Cynog ddadansoddiad ansoddol o brofiadau gwasanaethau iaith Gymraeg defnyddwyr a darparwyr mudiadau trydydd sector yng Ngwynedd ac Sir Gaerfyrddin (2011). Ers hynny mae’r defnydd o Gymraeg o fewn y gymdeithas sifil wedi bod yn ffocws ar ei waith academaidd, wrth iddo gyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwil a chyhoeddiadau academaidd yn astudio’r defnydd o Gymraeg o fewn y gymuned. Yn fwyaf diweddar mae ei waith wedi ffocysu ar y berthynas rhwng y Gymraeg a ffactorau economaidd. Yn 2024 dyfarnwyd grant o Gronfa Her ARFOR iddo i ddatblygu Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog i gynorthwyo cyflogwyr i recriwtio staff gyda sgiliau Cymraeg. Nod hynny yw i gefnogi cyflogwyr i fynd I'r afael a heriau recriwtio, ac hefyd cefnogi cymunedau iaith Gymraeg drwy baru siaradwyr Cymraeg gyda swyddi Cymraeg, o fewn cymunedau ble mae gofid am allfudo oedolion sydd a sgiliau yn yr iaith Gymraeg.
Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol
Mae Cynog wedi edrych ar y defnydd o Gymraeg yn y byd digidol ers dros 10 mlynedd. Cychwynnodd ei ddiddordeb wrth iddo weithio ar brosiect ymchwil yn edrych ar y defnydd o Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol (gweler er enghraifft gwaith Cunliffe et al 2013). Ers hynny mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil, yn ogystal a goruchwylio doethuriaethau, ym maes iaith a thechnoleg, gan gynnwys gwaith yn edrych ar y modd y mae’r Gymraeg yn cael ei ddefnyddio ar apigau a phlatfformau digidol. Rhwng 2020 a 2023 roedd yn Is Gadeirydd y grwp Hawliau Ieithyddol, rhwydwaith ymchwil Ewropeaidd Language in the Human-Machine Era. Cyfrannodd i, a chydlynodd, nifer o weithdai, cynadleddau a digwyddiadau Ewropeaidd ym maes hawliau ieithyddol yn yr oes ddigidol.
Gweler The Dawn of the Human-Machine Era: A forecast of new and emerging language technologies am enghraifft o waith y rhwydwaith.
Yn fwy diweddar mae’n aelod o grwp gwaith UniNet (NPLD) ar Deallusrwydd Artiffisial ac Ieithoedd Lleiafrifol. Cyflwynwyd papur a gyd-awdurodd ganddo yng Nghynhadledd yr Network to Promote Linguistic Diversity 20024, sef AI and Minority Language Use.
Comisiynau a Phrosiectau Ymchwil
Mae gan Cynog hefyd brofiad eang o gyhoeddi adroddiadau wedi ei comisiynu i gyllidwyr allanol i’r Brifysgol, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, S4C, BBC Cymru, Mentrau Iaith Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac sefydliadau eraill. Yn ogystal a hynny mae wedi gweithio gyda cwmnïau darlledu gan gynnwys Cwmni Da ac Rondo Media. Cysylltwch gydag ef os hoffech drafod comisiwn am ddarn o waith ymchwil.
Mae hefyd yn goruchwylio nifer o fyfyrwyr doethuriaeth ac myfyrwyr MA ym maes cynllunio ieithyddol. Mae rhain y cynnwys myfyrwyr PhD yn y meysydd canlynol:
- Deallusrwydd Artiffisial ac Addysg Gymraeg – Beca Owen (Prif Oruchwylydd, noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
- Yr Economi a’r Iaith Gymraeg – Elen Bonner (Prif Oruchwylydd, Ysgoloriaeth Martin Rhisiart, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
- Ffactorau sy’n dylanwadu ar lwyddiant caffael iaith yn y gweithle - Dafydd Apolloni (ail oruchwylydd, noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
- Taith iaith: profiadau siaradwyr ifanc o bod yn siaradwyr Gymraeg - Charlotte Amesbury (ail oruchwylydd)
- Y Gymraeg o fewn y byd digidol: Profiadau ac agweddau siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd o ddefnyddio apiau Cymraeg neu ddwyieithog - Shân Prichard (Prif Oruchwylydd, Ysgoloriaeth KESS/Cwmni Da).
- Rheolaeth Strategol ar hyfforddiant iaith mewn gweithleoedd sector cyhoeddus – Ifor Gruffudd.
- Ffactorau yn arferion a dewisiadau gwylio cynulleidfa S4C (Ysgoloriaeth KESS/S4C).
Adnoddau Addysgiadol Digidol
Yn ogystal â hynny mae ganddo brofiad helaeth o gynhyrchu adnoddau addysgiadol iaith Gymraeg, gan gynnwys Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Coleg Cymraeg Cenedlaethol) a phrosiect Deunyddiau Dysgu Digidol (Coleg Cymraeg Cenedlaethol/HEFCW). Enillodd eu Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg wobr genedlaethol am Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol yn Wobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2023. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn defnyddio technolegau digidol yn ei addysgu er mwyn cyfoethogi’r profiad myfyrwyr a disgyblion, yn enwedig yn y byd addysg cyfrwng Cymraeg.
Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Prys a Hodges)
https://www.porth.ac.uk/en/group-collection/paac-pecyn-adnoddau-amlgyfrwng-cymraeg
Project Deunyddiau Dysgu Digidol (HEFCW/Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Prys PI)
Cymdeithaseg: Astudio Gymru Gyfoes
https://www.porth.ac.uk/en/collection/cymdeithaseg-astudio-cymru-gyfoes
Cymdeithaseg: Theori Gymdeithasegol
https://www.porth.ac.uk/en/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol
Darlledu
Mae Cynog yn cyfrannu yn gyson i'r cyfryngau darlledu yng Nghymru gan ymddangos ar y radio dros 40 o weithiau ar BBC Radio Cymru yn tafod materion cyfoes, gan gynnwys materion sy’n ymwneud a’r iaith Gymraeg, rôl diwylliant a normau cymdeithasol ar ymddygiad, a newid cymdeithasol, yn enwedig o fewn y byd digidol. Yn ogystal a radio, mae hefyd yn cyfrannu i raglenni S4C, yn ogystal a’r cyfryngau print.
Dyma ddetholiad o’i eitemau mae wedi cyfrannu atynt.
AI: Y Gwalch neu’r Gwych
https://www.bbc.co.uk/programmes/m0023fs4
Codi bawd ac ysgwyd llaw (Podlediad Aled Hughes, BBC Radio Cymru)
https://www.bbc.co.uk/programmes/p09ysqqh
Cyhoeddiadau
2024
- E-gyhoeddi cyn argraffuDefining economic impact on minority languages: The Case of Wales
Bonner, E., Prys, C., Mitchelmore, S. & Hodges, R., 21 Maw 2024, (E-gyhoeddi cyn argraffu) Yn: Journal of Multilingual and Multicultural Development. 17 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydLanguage, Education and COmmunity in a Digital Age: A Welsh Digital Resources Case Study
Hodges, R. & Prys, C., 16 Ebr 2024, Heritage Languages in the Digital Age: The Case of Autochthonous Minority Languages in Western Europe. Ahrendt, B. & Reershemius, G. (gol.). Multilingual Matters, t. 103-127
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydMigration through a language planning lens: A typology of Welsh speakers' migration decisions
Bonner, E., Prys, C., Hodges, R. & Mitchelmore, S., 7 Awst 2024, Yn: Current issues in language planning. 25, 4, t. 394-415 22 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2023
- CyhoeddwydAddysg: Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg
Prys, C. & Hodges, R., 24 Maw 2023, (Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg)
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr - CyhoeddwydAnghydraddoldebau Cymdeithasol: Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg
Prys, C. & Hodges, R., 24 Maw 2023, Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr - CyhoeddwydDefnyddio'r Gymraeg mewn Cymunedau yn Ynys Mon
Hodges, R., Prys, C., Bonner, E. (Cyfrannwr), Orrell, A. (Cyfrannwr) & Gruffydd, I. (Cyfrannwr), 28 Gorff 2023, 85 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad Comisiwn - CyhoeddwydStrategic management of Welsh language training on a macro and micro level
Gruffydd, I., Hodges, R. & Prys, C., Medi 2023, Yn: Current issues in language planning. 24, 4, t. 380-399 20 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydWell-being and language: language as a well-being objective in Wales
Prys, C. & Matthews, D., Medi 2023, Yn: Current issues in language planning. 24, 4, t. 400-419
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2022
- CyhoeddwydCyfrifiad 2021: Pam bu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg?
Prys, C. & Hodges, R., 9 Rhag 2022, BBC Cymru Fyw.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl - CyhoeddwydNumber of Welsh speakers has declined – pandemic disruption to education may be a cause
Hodges, R. & Prys, C., 15 Rhag 2022, The Conversation.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl
2021
- CyhoeddwydRhetoric and reality: critical review of language policy and legislation governing official minority language use in health and social care in Wales
Prys, C., Hodges, R. & Roberts, G., 13 Awst 2021, Yn: Linguistic Minorities & Society Journal/Revue Minorités linguistiques et société. 15-16, t. 87-110
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydSocial Exclusion Among Official Language Minority Older Adults: A Rapid Review of the Literature in Canada, Finland and Wales
Nyqvist, F., Häkkinen, E., Bouchard, L. & Prys, C., 1 Medi 2021, Yn: Journal of Cross-Cultural Gerontology. 36, t. 285-307
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2020
- CyhoeddwydCynllunio ieithyddol a pholisi iaith
Prys, C. & Hodges, R., 15 Rhag 2020, Cyflwyniad i ieithyddiaeth. Coleg Cymraeg Cenedlaethol, t. 163-169 7 t.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - CyhoeddwydPecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Cyflwyniad i Gymdeithaseg
Prys, C., Hodges, R. & Aaron, H. (Darlunydd), 1 Gorff 2020, 1 gol. Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 30 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2019
- CyhoeddwydGwerthusiad Proses o'r Rhaglen Cymraeg i Blant: Process Evaluation of the Cymraeg for Kids Programme
Lewis, S., Thomas, H., Grover, T., Glyn, E., Prys, C., Hodges, R. & Roberts, E., 12 Chwef 2019, Welsh Government.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad Comisiwn - CyhoeddwydTeasing apart factors influencing executive function performance in bilinguals and monolinguals at different ages: Teasing apart factors
Gathercole, V., Thomas, E., Vinas-Guasch, N., Kennedy, I., Prys, C., Young, N., Roberts, E., Hughes-Parry, E. & Jones, L., 12 Meh 2019, Bilingualism, Executive Function, and Beyond: Questions and insights. Sekerina, I., Spradlin, L. & Valian, V. (gol.). Amsterdam/Philadelphia: John Benjamins, Cyfrol 57 . t. 295-336 42 t. (Studies in Bilingualism; Cyfrol 57).
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydThe community as a language planning crossroads: macro and micro language planning in communities in Wales
Hodges, R. & Prys, C., 27 Mai 2019, Yn: Current issues in language planning. 20, 3, t. 207-225
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2018
- CyhoeddwydPecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Dulliau Ymchwil
Prys, C., Hodges, R. & Aaron, H. (Darlunydd), 2018, 44 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydPecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Y Teulu
Prys, C., Hodges, R. & Aaron, H. (Darlunydd), 1 Hyd 2018, Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 37 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2017
- CyhoeddwydPecyn Cymorth Hybu'r Gymraeg yn y Gymuned: A Toolking for Promoting the Welsh Language in the Community
Hodges, R. & Prys, C., 7 Awst 2017, ISSUU. 152 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad Comisiwn
2016
- CyhoeddwydTeasing apart factors influencing Executive Function performance in bilinguals and monolinguals at different ages
Gathercole, V. C. M., Thomas, E. M., Viñas Guasch, N., Kennedy, I., Prys, C., Young, N. E., Roberts, E. J., Hughes, E. K. & Jones, L., Hyd 2016, Yn: Linguistic Approaches to Bilingualism. 6, 5, t. 605-647
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2015
- CyhoeddwydWelsh Language Use in the Community: A research study undertaken as part of the Evaluation of the Welsh Ministers' Welsh Language Strategy: A living language: a language for living
Hodges, R., Prys, C., Orrell, A., Williams, S. & Williams, E., 7 Hyd 2015, Welsh Government. 172 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad Comisiwn
2014
- CyhoeddwydDoes language dominance affect cognitive performance in bilinguals? Lifespan evidence from preschoolers through older adults on card sorting, Simon, and metalinguistic tasks
Kennedy, I. A., Young, N. E., Gathercole, V. C., Thomas, E. M., Kennedy, I., Prys, C., Young, N., Viñas Guasch N., [. V., Roberts, E. J., Hughes, E. K. & Jones, L., 5 Chwef 2014, Yn: Frontiers in Psychology: Developmental Psychology. 5
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydThe Welsh language and volunteering: Y Gymraeg a Gwirfoddoli
Prys, C., Hodges, R., Mann, R., Collis, B. & Roberts, R., 2 Hyd 2014, Welsh Government.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad Comisiwn
2013
- CyhoeddwydExploring Welsh speakers’ language use in their daily lives: Ymchwilio i ddefnydd iaith siaradwyr Cymraeg yn eu bywyd bob dydd
McAllister, F., Blunt, A., Prys, C., Evans, C., Jones, E. & Evans, I., 2 Gorff 2013, Welsh Government. 123 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad Comisiwn - CyhoeddwydInvestigating the differential use of Welsh in young speakers’ social networks: a comparison of communication in face-to-face settings, in electronic texts and on social networking sites
Cunliffe, D., Morris, D., Prys, C., Jones, E. H. (Golygydd) & Uribe-Jongbloed, E. (Golygydd), 1 Ion 2013, Social Media and Minority Languages. 2013 gol. t. 75-86
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - CyhoeddwydYoung Bilinguals' Language Behaviour in Social Networking Sites: The Use of Welsh on Facebook
Cunliffe, D., Morris, D. & Prys, C., 1 Ebr 2013, Yn: Journal of Computer-Mediated Communication. 18, 3, t. 339-361
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2012
- CyhoeddwydSocial networks and minority languages speakers: the use of social networking sites among young people
Morris, D., Cunliffe, D. & Prys, C., 1 Ion 2012, Yn: Sociolinguistic Studies. 6, 1, t. 1-20
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2010
- CyhoeddwydThe Use of Welsh in the Third Sector in Wales
Prys, C., 1 Awst 2010, Yn: Contemporary Wales. 23, 1, t. 184-200
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2006
- CyhoeddwydDevelopment of a Welsh Language Version of the EQ-5D Health-Related Quality of Life Measure. Stage One: Transition.
Muntz, R., Edwards, R. T., Tunnage, B., Prys, C. & Roberts, G. W., 1 Ion 2006, Yn: Psychologist in Wales. 18, t. 21-25
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Gweithgareddau
2024
- Prosiect Heriau Recrwitio Gweithu Dwyieithog - Gweithdai Cyd-gynhyrchu
Cyfres o weithdai cyd-gynhyrchu gyda chyflogwyr y sector gyhoeddus, breifat a'r drydydd sector o siroedd Ceredigion, Sir Gâr, Gwynedd a Môn yn trafod heriau ac arfer da wrth recriwtio gweithlu â sgiliau yn y Gymraeg. Fel rhan o brosiect a gyllidwyd gan Gronfa Her Arfor.
Gorff 2024 – Medi 2024
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr)
2020
- Language, Education and Community in the Digital Age: A Welsh Case Study
Invited speaker to present at an international conference, Minority Languages in the Digital Age. Usage, Maintenance and Teaching, Grieswald, Germany
11 Rhag 2020
Cysylltau:
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - O Covid 19 i BLM: Anghydroddoldebau Cymdeithasol yng Nghymru
Cyflwyniad Gwyl Gwyddorau Cymdeithas, ESRC Festival of Social Sciences
12 Tach 2020
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2017
- Shifft ieithyddol mewn chwe chymuned yng Nghymru, WISERD, Bangor, Gorffennaf 2017
Papur yn cyflwyno prif ganlyniadau ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o'n hastudiaeth ymchwil, Defnyddio'r Gymraeg yn y Gymuned, 2015
5 Gorff 2017
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Panel discussion: Language, community and civil society in Wales today, AHRC Research Network - Language Revitalization and Social Transformation 22-23 May (2017), Aberystwyth University,
Panel discussion: Language, community and civil society in Wales today, AHRC Research Network - Language Revitalization and Social Transformation 22-23 May (2017), Aberystwyth University
22 Mai 2017
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)
2013
- TU HWNT I’R DOSBARTH – Dyfodol Cynllunio IeithyddolBEYOND THE CLASSROOM – the future of Language Planning
Symposiwm Cynllunio Ieithyddol rhyngwladol yn trafod yr angen i gynnwys strategaethau cynllunio ieithyddol holistig y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth er mwyn hyrwyddo defnydd cymdeithasol fwy eang o ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg
An International Language Planning Symposium discussing the need to include holistic language planning strategies beyond the classroom to faciliate wider social use of minoritized languages such as Welsh
8 Maw 2013
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
Projectau
-
01/01/2024 – 15/01/2025 (Wrthi'n gweithredu)
-
KESS II MRes with Rondo Media- BUK2E075
01/03/2022 – 31/03/2024 (Wedi gorffen)
-
KESS II PhD upgrade Project with Cwmni Da
01/10/2015 – 01/08/2022 (Wedi gorffen)
Cysylltau:
-
KESS II PhD upgrade Project with S4C
01/10/2015 – 31/08/2023 (Wedi gorffen)
-
Research into Volunteering and the Welsh Language in Wales
01/08/2013 – 31/07/2014 (Wedi gorffen)
Cysylltau: