Iechyd
I gael mwy o wybodaeth am faterion sy’n ymwneud ag Iechyd Myfyrwyr, gweler ein Llyfryn Gofal Iechyd Myfyrwyr ar-lein.
Mae angen i’r holl fyfyrwyr gofrestru â Meddyg Teulu lleol a dylent wneud hynny cyn gynted ag y bo modd yn ystod eu tymor cyntaf ym Mangor. Isod, ceir manylion y meddygfeydd lleol a’r gwasanaethau iechyd arbennig i fyfyrwyr;
Sut i gofrestru gyda meddyg teulu
Rydych yn rhydd i ddewis y feddygfa y dymunwch gofrestru ynddi ac, wrth gwrs, os ydych eisoes yn byw yn lleol, efallai y dewiswch ddal yn gofrestredig â’ch meddyg persennol. Awgrymwn yn gryf eich bod yn cofrestru gyda ni gynted ag y bo modd ar ô lichi gyrraedd. Mae dolen ichi gofrestru yma:
https://bodnantmedicalcentre.co.uk/
Mae cofrestru’n fuan gyda’r feddygfa’n arbennig o bwysig os ydych yn cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd neu os oes gennych gyflwr hir-dymor. Mae pob meddygfa, gan gynnwys Bodnant, angen tri diwrnod gwaith o rybudd i baratoi prescriptiwn o dan amgylchiadau arferol. Er yr ymdrechwn bob amser i fod o gymorth mewn sefyllfa argyfwng, mae prescripsiynau tymor hir bob amser yn haws eu trin os ceir digonedd o rybudd.
Y ffordd fwyaf hwylus i wneud cais am feddyginiaeth tymor hir yw unai’r system “e-consult” sydd i’w chael ar dudalen gartref gwefan y feddygfa, sef: https://bodnantmedicalcentre.co.uk Mae posib hefyd ichi ddod i dderbynfa’r feddygfa.
Bydd angen i chi drefnu apwyntiad gyda meddyg teulu neu nyrs, yn dibynnu ar y feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch, i gael eich presgripsiwn cyntaf. Mae angen trefnu'r apwyntiadau hyn ymlaen llaw; felly bydd angen i chi ddod â digon o'ch meddyginiaeth gyda chi i bara deufis ac yna trefnu apwyntiad cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd Bangor. Ni ddylech aros nes bod eich meddyginiaeth bron â dod i ben.
Bydd yn cymryd tua 8 wythnos i'ch nodiadau gyrraedd y Feddygfa. Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, bydd angen i chi ddod â phrawf o feddyginiaeth gyda chi.
Gallwch archebu eich meddyginiaeth naill ai drwy ddefnyddio’r cyfleuster ‘econsult’ sydd ar dudalen hafan gwefan Meddygfa Bodnant neu drwy anfon e-bost at: enquiries.w94010@wales.nhs.uk
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer dolen Ap GIG Cymru. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar-lein yma: https://bodnantmedicalcentre.co.uk Caniatewch 72 o oriau gwaith i brosesu pob presgripsiwn.
Mae angen trefnu apwyntiadau arferol ymlaen llaw. Gallwch archebu hyd at 6 wythnos ymlaen llaw, naill ai drwy ffonio’r feddygfa neu drwy ddefnyddio’r cyfleuster econsult sydd ar dudalen hafan gwefan Bodnant. Ar gyfer apwyntiadau brys bydd angen i chi ffonio am 8 y bore ar y diwrnod.
Ar gyfer unrhyw ohebiaeth â Bodnant trwy gyfrwng “e-consult”, cofiwch nodi eich bod yn fyfyriwr Prifysgol Bangor. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu ein gwasanaethau yn y modd mwyaf effeithlon posib.
Mae’r feddygfa hefyd yn darparu gwasanaethau iechyd rhywiol. Cyswllt â Bodnant am ragor o wybodaeth.
Fferyllfeydd
Wedi ichi dderbyn prescriptiwn o Ganolfan Feddygol Bodnant, mae croeso ichi fynd â hwnnw i unrhyw fferyllfa o’ch dewis chi, fydd wedyn yn rhoi’r feddyginiaeth ichi. Os ydych yn derbyn meddyginiaeth hir-dymor ar brescriptiwn, dylech drafod â’r fferyllfa beth yw’r ffordd sy’n gweddu orau i chi eu derbyn yn rheolaidd. Mae pob fferyllfa â ffordd wahanol o wneud pethau, felly sicrhewch bod eich fferyllfa’n gwbl eglur sut i’ch cynorthwyo’n briodol. Mae meddyginaieth yn gorffen yn ddisymwth yn achosi strach, felly awgrymwn yn gryf ichi gynllunio o flaen llaw a thrafod mewn da bryd.
Ardystio
Yn dilyn salwch, efallai y bydd y Coleg yn gofyn i chi ddangos Tystysgrif Feddygol i egluro eich absenoldeb.
Yn achos anhwylderau o lai na 7 niwrnod, mae ffurflenni hunan-ardystio ar gael gan unrhyw feddyg teulu yn yr ardal neu mae myfyrwyr yn gallu printio un eu hunain:
http://www.hmrc.gov.uk/forms/sc2.pdf
Clwy’r Pennau
Dylai myfyrwyr blwyddyn gyntaf edrych beth yw statws eu brechiad MMR gyda’u meddyg teulu gartref cyn iddynt ddechrau blwyddyn academaidd 2005–06.