Dewislen
Iechyd Myfyrwyr
Cysylltwch â'ch meddyg teulu ar gyfer materion meddygol.
Mae eich clinig iechyd ymroddedig agosaf yn Ysbyty Gwynedd.
Covid-19
I gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Brifysgol a Chwestiynau Cyffredin ynghylch Covid-19 gwelwch y dudalen hon.
Hunan-ynysu? Mae'n rhywbeth y mae angen i lawer ohonom ei wneud ar hyn o bryd.
Os nad oes gennych ffrindiau sy'n gallu gwneud rhywfaint o siopa bwyd i chi, yna bydd angen i chi archebu danfoniad bwyd ar-lein. Mae Morrisons yn darparu gwasanaeth danfon i’ch drws i'r rhai sy'n hunan-ynysu - i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ffoniwch 0345 611 6111 a dewis opsiwn 5, bydd eich bwyd yn cael ei ddarparu'r diwrnod nesaf. Efallai yr hoffech hefyd holi archfarchnadoedd eraill fel Iceland, Asda a Tesco am eu trefniadau nhw.
Efallai bydd y canllawiau canlynol yn ddefnyddiol i chi.
Os ydych chi'n teimlo dan straen oherwydd y sefyllfa, gellwch e-bostio cynghori@bangor.ac.uk am sesiwn gymorth.
Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, rhowch wybod i'ch tiwtor personol, fel bod eich Ysgol academaidd yn ymwybodol.
Cofiwch hefyd fod staff ein tîm cefnogi myfyrwyr ar gael o hyd i'ch helpu chi, dim ond i chi anfon e-bost atom studentsupport@bangor.ac.uk ac fe ddown yn ôl atoch chi.
Cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Undeb y Myfyrwyr am ddiweddariadau ynghylch cefnogaeth gwirfoddoli i fyfyrwyr sy'n hunan-ynysu.
Buan y bydd y 14 diwrnod hynny'n mynd heibio.
Ydych chi wedi cael eich brech frech goch, clwy'r pennau rwbela?
Ydych chi wedi cael y ddau ddos llawn sydd wedi'i argymell?
Holwch eich meddygfa heddiw!
Gwiriwch gyda'ch rhieni/gwarcheidwaid os gafoch y brechiadau cyn mynd i'r ysgol? Maent fel arfer yn cael eu rhoi o 12/13 mis gydag ail ddos yn 3 - 4 oed.
Iechyd a Lles Myfyrwyr
Mae iechyd a lles ein myfyrwyr yn bryder sylfaenol i'r Brifysgol; ac rydym yn ceisio creu amgylchedd sy'n addas ar gyfer eich astudiaethau academaidd a'ch iechyd, lles a datblygiad personol.
Yn ystod eich amser yn y Brifysgol cewch gyfle i archwilio ystod o weithgareddau, efallai am y tro gyntaf, ynghyd â chyfleoedd i fwynhau bywyd cymdeithasol sy'n eich gweddu.
Mae Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol yn gweithio gyda'i gilydd i wella'ch lles.
- mae tiwtoriaid personol ar gael ym mhob ysgol academaidd i'ch helpu gydag unrhyw fater academaidd
- rydym yn cynnig sesiynnau sgiliau astudio i roi cymorth i chi o fewn yr amgylchedd dysgu
- mae gennym gynllun arweinwyr cyfoed llwyddiannus sydd wrth law i'ch helpu yn ystod wythnosau cyntaf yn y Brifysgol
- mae Gwasanaethau Myfyrwyr ar Undeb y Myfyrwyr ar gael i'ch helpu gydag ymholiadau penodol neu bryderon
- mae gennym gwasanaeth cynghori myfyrwyr yn hollol gyfrinachol
- mae gennym dîm o wardeiniaid yn darparu cefnogaeth o fewn y neuaddau preswyl
- mae Rhagolygon Bangor yno i'ch helpu i ddod o hyd i waith rhan amser, ac mae gennym gronfa caledi os ydych chi'n cael anawsterau ariannol
- mae gennym adnoddau iechyd arbennig i fyfyrwyr yn ein meddygfa leol
- mae ystod o glybiau a chymdeithasau ar gael i chi ymuno a hwy i brofi pethau newydd - gallwch gychwyn clwb eich hun os ydych chi eisiau ymuno a chlwb sydd eisoes ddim ar gael
- mae Undeb Athletau Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli amryw o ddiddordebau chwaraeon, gan gynnwys sesiynnau blasu ar gyfer chwaraeon newydd, ac mae Canolfan Brailsford yn darparu canolfan ar gyfer llu o weithgareddau chwaraeon ynghyd â chynnig adnoddau iechyd a ffitrwydd
- mae ein gwasanaethau diogelwch, gan gynnwys swyddog heddlu cymunedol ein hunain, yn sicrhau eich diogelwch personol
Edrychwch allan am yr ystod eang o weithgareddau Lles Myfyrwyr sy'n digwydd trwy'r flwyddyn - bydd y rhain yn cael ei hysbysu ar Fewnrwyd y Brifysgol.
Eich Adborth
Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch ag un o'r canlynol:
Enw | Swydd |
Maria Lorenzini | Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr |
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |
Danielle Barnard | Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr |