Ble mae ein cyn-fyfyrwyr?
Mae nifer helaeth o'n cyn-fyfyrwyr wedi dilyn llwybrau llwyddiannus iawn ac yn adnabyddus am y eu cyfraniad i'r maes y maent yn gweithio ynddo. Mae rhai o'n graddedigion llwyddiannus wedi eu rhestru yma.Cliciwch ar y linciau i fynd â chi i fwy o wybodaeth ar wefannau allanol, ac i weld manylion ein myfyrwyr ôl-radd presennol, ewch yma.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a enillodd ei radd gyntaf a PhD o Ysgol y Gymraeg, Bangor.
Mair Parry Jones
Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Seneddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
Iolo ap Dafydd
Y newyddiadurwr sy’n cyflwyno Newyddion BBC Cymru
Morgan Jones
Cyflwynydd Sgorio a enillodd BA a PhD ym Mangor
Nia Roberts
Un o leisiau mwyaf cyfarwydd Radio Cymru
Ffion Dafis
Mae Ffion wedi cyflwyno amryw raglenni adloniant ar S4C ac wedi chwarae’r brif ran yng nghyfres ddrama S4C Amdani!
Mererid Wigley
Un o gyflwynwyr rhaglen amaeth S4C, Ffermio
Nia Tudur
Gohebydd gyda BBC Radio Cymru a wyneb cyfarwydd ar lwyfannau eisteddfodol
Dylan Wyn
Clywir bob pnawn o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar Radio Cymru
Meinir Gwilym
Y gantores boblogaidd a chyflwynwraig radio gyfarwydd
Caryl Parry Jones
Y gantores, y gyfansoddwraig a’r ddiddanwraig,
Arwel Gruffydd
Yr actor sydd wedi chwarae rhannau mor amrywiol â Chapten Trefor yn addasiad S4C o nofelau Daniel Owen, Treflan, a rhan Hamm yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Diweddgan gan Samuel Beckett.
Manon Elis
Yr actores, un o wynebau cyfarwydd y gyfres ddrama Rownd a Rownd ar S4C
Gwenno Hodgkins
Actores lwyfan brofiadol ac aelod o gast Tipyn o Stad ar S4C
Nia Lloyd Jones
Y gyflwynwraig radio a theledu
Gwerfyl Pierce Jones
Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru
Ann Beynon
Cyfarwyddwraig Cymru BT
John Ogwen
Yr actor enwog
Maureen Rhys
Yr actores enwog
R. Alun Evans
Y darlledwr a enillodd PhD o Ysgol y Gymraeg am ei astudiaeth o fywyd a gwaith yr arloeswr ym myd darlledu Cymraeg, Sam Jones
Robyn Lewis
Y cyn-Archdderwydd a enillodd PhD am ei eiriadur cyfraith arloesol