Traddodiad yr Ysgol

Ni fyddai'n bosib astudio'r Gymraeg fel pwnc academaidd modern oni bai am gyfraniad staff Ysgol y Gymraeg yn y gorffennol. Ni raid ond crybwyll dau enw i wneud hynny'n glir: Ifor Williams, golygydd Canu Aneirin, Canu Taliesin, Canu Llywarch Hen a Pedeir Keinc y Mabinogi; a Thomas Parry, golygydd Gwaith Dafydd ap Gwilym.

Dafydd Glyn Jones

Mae'r un ymrwymiad, wrth ymchwil a'r safonau academaidd uchaf, i'w weld yn y cyfnod diweddar gyda chyfraniad gorchestol i lwyddiant Geiriadur yr Academi, sef y geiriadur Saesneg-Cymraeg helaethaf erioed.

John Morris-Jones

John Morris-Jones oedd y cyntaf i’w benodi’n Athro’r Gymraeg ym Mangor, a hynny yn 1895. Roedd Syr John yn un o'n hysgolheigion pwysicaf a a hefyd yn fardd llwyddiannus. Un o'i fyfyrwyr enwocaf ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd Kate Roberts, awdures a orseddwyd yn 'Frenhines ein Llên'.

Academyddion, awduron a beirdd

Mae'r ffaith fod awduron creadigol fel R. Williams Parry a John Gwilym Jones yn gyn-aelodau o staff yr Ysgol, a Jason Walford Davies, Jerry Hunter, Angharad Price a Gerwyn Wiliams ymhlith ei staff presennol yn arwydd clir o ddau beth sydd wedi cerdded law-yn-llaw yn ei hanes o'r cychwyn cyntaf: ymrwymiad i'r Gymraeg fel disgyblaeth academaidd solat ac fel cyfrwng creadigol byw.

Mae Jason Walford Davies a Gerwyn Wiliams yn Brifeirdd coronog, ac mae Angharad Price a Jerry Hunter ill dau wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn ogystal â gwobr Llyfr y Flwyddyn. Yma ym Mangor hefyd y mae Peredur Lynch, y bardd caeth a'r beirniad Eisteddfodol adnabyddus.

Y mae Gwyn Thomas, sydd bellach yn Athro Emeritws, yn ymgorfforiad o'r ymrwymiad hwn i'r Gymraeg, gan ei fod yn un o bennaf ysgolheigion y Gymraeg a hefyd yn un o feirdd pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif.