Archif y mis
Mae Archif y Mis yn denu sylw myfyrwyr a staff at yr amrywiaeth o ddeunydd sydd ar gael yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig. Yn benodol, mae’r ffotograffau o Fangor yn y gorffennol yn hynod o boblogaidd ac wedi bod yn sbardun i sawl sgwrs ar dudalennau Facebook y Brifysgol.
Pob mis, mae eitem yn cael ei dewis ar gyfer y slot misol. Mae’r ddogfen yn cael ei sganio a’i rhoi ar y we ochr yn ochr â thestun yn egluro cefndir hanesyddol yr eitem.
Tachwedd 2016
Llun yn dangos Belmont, cartref Syr Henry Lewis, ychydig wythnosau cyn ei ddymchwel ym 1967.
Roedd Lewis, masnachwr blawd wrth ei waith, yn ffigur amlwg ym Mangor a bu ganddo amrywiaeth o swyddi mewn gwleidyddiaeth leol, bu'n gwasanaethu ar gyngor y ddinas am ddeg ar hugain o flynyddoedd, a bu'n faer rhwng 1900 a 1902.
Oherwydd ei fod yn ddyn egwyddorol ac yn gymdeithasol ymwybodol, roedd yn cymryd rhan flaenllaw ym materion cymdeithasol ei gyfnod. Roedd Nora, ei ferch, yn rhan o'r mudiad swffragét. Ffaith a wnaeth, yn ddiau, ddylanwadu ar benderfyniad Lewis i groesawu Mrs Pankhurst i Belmont a chynnal nifer o bartïon yn ei ardd i gefnogi ei hachos. Gellir darllen erthyglau am hyn yn ei gylchgrawn, a gedwir yng nghasgliad Belmont yn archifau Prifysgol Bangor.
Ar ôl dioddef addysg ansefydlog a oedd yn aml yn anhapus yn ei fachgendod, roedd Lewis yn hynod ymwybodol o ddiffygion y system addysg leol, a bu ei diwygiad yn un o brif ddiddordebau ei fywyd. Gwasanaethodd fel cadeirydd ysgolion elfennol Bangor a chadeirydd corff llywodraethu Ysgol Friars, ac ef oedd un o sylfaenwyr yr ysgol i ferched ym Mangor.
Dewiswyd fel ysgrifennydd y pwyllgor a ffurfiwyd i gyflwyno achos dinas Bangor fel lleoliad Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, a chwaraeodd Lewis ran annatod yn y gwaith o sefydlu'r coleg.
Syr Henry Lewis
Pan ddaeth yn amlwg bod safle gwreiddiol y brifysgol - adeilad yr hen Benrhyn Arms - yn anaddas fel lleoliad i adran y celfyddydau a'r adran wyddoniaeth gyda'i gilydd, roedd dyfodol y brifysgol yn cael ei gwestiynu. Bu Lewis, a oedd yn cydnabod gwerth cymdeithasol a diwylliannol y brifysgol, yn ymladd i argyhoeddi cynghorwyr y ddinas i ddarparu chwe erw o dir, ond hefyd i brynu llain ychwanegol o dir - safle Penrallt - gan yr Arglwydd Penrhyn, gan alluogi'r brifysgol i ehangu a sicrhau y byddai'n aros yn y ddinas yn y dyfodol.
Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Callum Parry
Cliciwch ar y dolennau isod i weld y dogfennau sydd wedi ymddangos fel “Archif y Mis” yn y gorffennol.
2023 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Megefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2022 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2021 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2020 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2019 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2018 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2017 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2016 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2015 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2014 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2013 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Hydref | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |