Archif y mis
Mae Archif y Mis yn denu sylw myfyrwyr a staff at yr amrywiaeth o ddeunydd sydd ar gael yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig. Yn benodol, mae’r ffotograffau o Fangor yn y gorffennol yn hynod o boblogaidd ac wedi bod yn sbardun i sawl sgwrs ar dudalennau Facebook y Brifysgol.
Pob mis, mae eitem yn cael ei dewis ar gyfer y slot misol. Mae’r ddogfen yn cael ei sganio a’i rhoi ar y we ochr yn ochr â thestun yn egluro cefndir hanesyddol yr eitem.
Tachwedd 2017
Llun : Wikimedia Commons
LLYTHYR MARIE CURIE
Cafwyd hyd i'r llythyr hwn, a lofnodwyd gan Marie Curie, ymhlith papurau'r Athro Edwin Augustus Owen, cyn-fyfyriwr, ac aelod staff amlwg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru.
Ar ôl astudio ym Mangor, aeth Edwin Owen ymlaen i Labordy Cavendish i weithio ar belydr-x ac ymbelydredd dan J.J. Thomson. Caiff ei ddarganfyddiad, sef bod ‘cyfernod amsugno màs deunydd ar gyfer pelydr-x yn amrywio'n groes fel pumed pŵer pwysau atomig y rheiddiadur’ ei adnabod fel cyfraith Owen. Ar ôl 1918, roedd yn gallu ymroi ei holl amser i ymchwilio i belydrau-x a ffiseg atomau. Penodwyd ef yn athro ym Mangor yn 1926. Yn fuan ar ôl ei benodiad, derbyniodd Wobr Rontgen ac erbyn ei farwolaeth yn 1973, roedd wedi cyhoeddi ymhell dros ddau gant o bapurau.
Ymddengys i'r llythyr hwn gan Marie Curie gael ei anfon at Edwin Owen yn 1925, cyn ei benodi'n aelod staff ym Mangor. O'i gyfieithu'n llac, mae'n ymddiheuro am fethu â derbyn gwahoddiad i'r 'Congress of Radiology' oherwydd ei bod wedi ymrwymo i ymweld â Gwlad Pwyl a Gwlad Tsiec ym mis Mehefin. Mae'n cynnig edrych ar y posibilrwydd gyda Dr Regaud o anfon cyfraniad am un o'r materion y bydd y gynhadledd yn ymdrin â nhw, ond teimla na all ysgrifennu unrhyw beth ei hun, o ystyried nad oedd llawer o amser cyn ei thaith.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Ann Hughes, Swyddog Archifau
Cliciwch ar y dolennau isod i weld y dogfennau sydd wedi ymddangos fel “Archif y Mis” yn y gorffennol.
2023 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Megefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2022 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2021 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2020 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2019 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2018 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2017 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2016 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2015 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2014 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2013 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Hydref | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |