Archif y mis
Mae Archif y Mis yn denu sylw myfyrwyr a staff at yr amrywiaeth o ddeunydd sydd ar gael yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig. Yn benodol, mae’r ffotograffau o Fangor yn y gorffennol yn hynod o boblogaidd ac wedi bod yn sbardun i sawl sgwrs ar dudalennau Facebook y Brifysgol.
Pob mis, mae eitem yn cael ei dewis ar gyfer y slot misol. Mae’r ddogfen yn cael ei sganio a’i rhoi ar y we ochr yn ochr â thestun yn egluro cefndir hanesyddol yr eitem.
Ebrill 2018
“Weight of Everybody” : Llyfr nodiadau diddorol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
Daw'r ddelwedd yma o lyfr nodiadau sy'n cynnwys nifer o wahanol ffigurau ar hap dyddiedig rhwng 1850 a 1902, sydd ar ôl eu harchwilio'n fanylach yn ddata am daldra a phwysau gwahanol unigolion. Ymddengys bod llawer o'r cofnodion yn cyfeirio at aelodau o deulu Pennant, Castell Penrhyn, ond mae enwau nifer o unigolion pwysig mewn cymdeithas wedi eu cofnodi hefyd. Er enghraifft, ar y tudalennau cyntaf mae pwysau a thaldra Duges Caerloyw, Tywysoges Mary a Thywysog Adolphus wedi eu cofnodi ar gyfer y flwyddyn 1850. Mae'r rheswm pam y crëwyd cofnod o'r fath, dan y pennawd syml "Pwysau pawb", yn parhau i fod yn ddirgelwch, ynghyd ag enw'r awdur. O ystyried yr amrywiaeth o enwau a nodwyd yn y llyfr, mae'n hawdd dod i'r casgliad y cofnodwyd mesuriadau y rhan fwyaf o'r ymwelwyr â'r castell.
Nid yw'r gadair bwyso bellach i'w chanfod yng Nghastell Penrhyn, ond gweler yma lun o'r glorian a ddefnyddiwyd ar stad Goodwood, Gorllewin Sussex.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Lynette Hunter, Archifydd
Cliciwch ar y dolennau isod i weld y dogfennau sydd wedi ymddangos fel “Archif y Mis” yn y gorffennol.
2023 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Megefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2022 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2021 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2020 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2019 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2018 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2017 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2016 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2015 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2014 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2013 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Hydref | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |