Archif y mis
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i :
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.
Ionawr 2019
George Hartley Bryan (chwith) a'r awyren "Bamboo Bird" ar Draeth Coch, Ynys Môn (dde)
George Hartley Bryan F.R.S. (1864-1928)
Roedd George Hartley Bryan yn Athro Mathemateg Bur a Chymhwysol ym Mangor o 1896 tan iddo ymddeol yn 1926. Yn 1911 cyhoeddodd 'Stability in aviation; an introduction to dynamical stability as applied to the motions of aeroplanes', llyfr a osododd Bangor yn y rheng flaen lle'r oedd datblygiadau gwyddonol newydd yn y cwestiwn. Fe'i cyhoeddwyd o ganlyniad i'r ymchwil a wnaed ym Mangor a'r cyffiniau ar sefydlogrwydd gleiderau. Bu'n gweithio gyda William Ellis Williams, myfyriwr lleol a raddiodd mewn ffiseg a mathemateg (ac a ddaeth yn ddiweddarach yn Athro mewn Peirianneg Drydanol yn y Brifysgol) ac Edgar Henry Harper, aelod o staff, a fu'n cynorthwyo'r ymchwiliadau. Bu cydnabyddiaeth eang i bwysigrwydd gwaith Bryan at awyrennaeth ym 1914 pan gyflwynwyd medal aur y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol iddo - yr ail i'w rhoddi erioed (cyflwynwyd y gyntaf i'r Brodyr Wright).
Mae Papurau William Ellis Williams ar gadw yn adran Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.
Hawlfraint: Y llun trwy garedigrwydd Mrs. E.G. Williams.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Lynette Hunter, Archifydd
Cliciwch ar y dolennau isod i weld y dogfennau sydd wedi ymddangos fel “Archif y Mis” yn y gorffennol.
2022 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2021 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2020 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2019 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2018 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2017 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2016 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2015 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2014 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |
2013 | |||
---|---|---|---|
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Hydref | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr |