Archif y Mis
Ebrill 2021
"Triplets: Comprising, The Baby's Opera, The Baby's Bouquet and the Baby's Own Æsop", 1899
Mae Triplets yn gasgliad o dair stori i blant yn cynnwys The Baby's Opera, The Baby's Bouquet, a’r Baby's Own Æsop. Cyhoeddwyd y llyfr yn 1899 gan George Routledge & Sons Limited. Mae'r llyfr yn cynnwys dyluniadau gwreiddiol mewn lliw gan y darlunydd Walter Crane ac argraffwyd gan Edmund Evans.
Enw’r llyfr cyntaf yw "THE BABY'S OPERA". Mae hwn yn llyfr hwiangerddi hyfryd i blant gyda darluniau lliw hardd. Mae’n cynnwys 35 o hwiangerddi gyda chlasuron fel Jack and Jill, Three Blind Mice, The Mulberry Bush, Hickory-Dickory-Dock a Little-Bo-Peep.
Enw’r ail lyfr yw “THE BABY’S BOUQUET”. Mae'n cynnwys hen hwiangerddi ac alawon, gan gynnwys caneuon o Brydain ac Ewrop fel The Little Man and Maid, Lucy-Locket, The Little Cock Sparrow, London Bridge, Pussy Cat, a The Three Little Kittens.
Enw'r trydydd llyfr yn y casgliad hwn yw “BABY'S OWN AESOP”. Mae’n cynnwys darluniau hyfryd o chwedlau Aesop, gyda’r chwedlau wedi eu crynhoi a'u gosod mewn limrigau i'r darllenwyr iau.
Daw'r copi hwn o gasgliad Owen Pritchard.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Shan Robinson
Cliciwch ar y dolennau isod i weld y dogfennau sydd wedi ymddangos fel "Archif y Mis" yn y gorffennol.
2020 |
|||
---|---|---|---|
Mawrth |
Ebrill |
||
Mai |
Mehefin |
Gorffennaf |
Awst |
Medi |
Hydref |
Tachwedd |
Rhagfyr |
2019 |
|||
---|---|---|---|
2018 |
|||
---|---|---|---|
Mai |
|||
2017 |
|||
---|---|---|---|
- |
|||
2016 |
|||
---|---|---|---|
- |
|||
2015 |
|||
---|---|---|---|
- |
2014 |
|||
---|---|---|---|