Project Llyfr Esgobol Bangor
Project Llyfr Esgobol Bangor
Mae trysor cudd a gwerthfawr Bangor ganoloesol – Llyfr Esgobol Bangor – am gael ei weld ar draws y byd fel menter dathliadau Canmlwyddiant a Chwarter y Brifysgol, drwy ganiatâd caredig ei berchennog, Eglwys Gadeiriol Bangor. Bydd gwefan newydd, gyfoes Llyfr Esgobol Bangor, a gaiff ei drefnu gan y Brifysgol, yn galluogi i ddarllenwyr, adref a thrwy derfynell yn yr Eglwys Gadeiriol ei hun, ‘droi tudalennau’ y llyfr gwych hwn yn ei gyfanrwydd, i weld manylder ei addurno cymhleth a’i nodiant cerddorol, a chlywed rhai o’r llafarganu a berfformir. Bydd yn dod â’r llawysgrif hynod yn fyw, llawysgrif a wnaed yn arbennig ar gyfer Anian, sef esgob Bangor rhwng 1309 a 1328.
Mae Llyfr Esgobol Bangor yn un o ddim ond ychydig o lyfrau gwasanaeth i oroesi o’r Gymru ganoloesol - ac un o ddim ond dau gyda nodiant plaengan sylweddol. Mae’n cynnwys yr amrediad llawn o seremonïau sy’n gofyn am bresenoldeb esgob, yn cynnwys cysegru eglwysi, allorau a mynwentydd, a bendithion arbennig - yn cynnwys rhai ar gyfer cloch, cartref newydd a chrys rhawn! Yn ddigon bach i gael ei gludo o gwmpas mewn bag llyfrau neu boced fawr, defnyddiwyd y Llyfr Esgobol gan olyniaeth o esgobion Bangor. Fe’i cedwir yn awr yn ddiogel yn Archif y Brifysgol, ond deuir ag ef i’r eglwys gadeiriol ar gyfer achlysuron arbennig, fel sefydlu esgob newydd.
Tîm y Project
Mae’r project yn golygu cydweithio rhwng Eglwys Gadeiriol Bangor, Archif y Brifysgol, a Choleg y Celfyddyau a’r Dyniaethau. Caiff ei arwain ar y cyd gan Dr Sally Harper (Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth a Chyfarwyddwr, Canolfan Uwch Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru), sydd wedi gweithio ar y Llyfr Esgobol dros nifer o flynyddoedd, a Dr Sue Niebrzydowski (Darlithydd Ymchwil mewn Saesneg Canoloesol), arbenigwr mewn llawysgrifeg. Cânt eu cefnogi gan Mr Einion Wyn Thomas (Archifydd y Brifysgol) a’r Athro Helen Wilcox (Cyfarwyddwr IMEMS, Sefydliad Ymchwil i Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth).
Datblygu’r Project: Camau 1-3
Yng Ngham Un y project, caiff y Llyfr Esgobol ei ffotograffu fel delweddau digidol cydraniad uchel (high resolution), a’i drwsio a’i ailrwymo gan dîm arbenigol yn yr Uned Triniaeth Cadwraeth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ystod Cam Dau, bydd y delweddau’n cael eu llwytho i fyny i’r wefan newydd, gyda nodweddion chwilio a deunydd esboniadol. Bydd y safle’n mynd yn ‘fyw’ gynted ag sy’n bosibl, ond bydd yn llawer iawn gwell yn ystod Cam Tri, pan fyddwn yn ychwanegu trawsgrifiadau paralel cyflawn o destun a cherddoriaeth, cyfieithiadau, sylwebaethau, ffeiliau sain o ychydig o alawon y plaenganau, a chyfres o declynnau dysgu rhyngweithiol ar gyfer myfyrwyr paleoddaearyddiaeth, hanes yr eglwys, cerddoriaeth, addoli a chelf.