Project Llyfr Esgobol Bangor
Sut gall y Project eich helpu
Yng Ngham Un y Project, caiff y Llyfr Esgobol ei ffotograffu fel delweddau digidol cydraniad uchel (high resolution), a’i drwsio a’i ailrwymo gan dîm arbenigol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ystod Cam Dau, bydd y delweddau’n cael eu llwytho i fyny i’r wefan newydd, gyda nodweddion chwilio a deunydd esboniadol. Bydd y safle’n mynd yn ‘fyw’ gynted ag sy’n bosibl, ond bydd yn llawer iawn gwell yn ystod Cam Tri, pan fyddwn yn ychwanegu trawsgrifiadau paralel cyflawn o destun a cherddoriaeth, cyfieithiadau, sylwebaethau, ffeiliau sain o ychydig o alawon y plaenganau, a chyfres o declynnau dysgu rhyngweithiol ar gyfer myfyrwyr paleoddaearyddiaeth, hanes yr eglwys, cerddoriaeth, addoli a chelf.