Amdanom Ni

Amdanom Ni

Mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn rhan annatod o Wasanaethau Digidol, Prifysgol Bangor.

Enillodd y gwasanaeth achrediad gwasanaeth archifau yn 2016 ac eto, yn fwy diweddar am yr eildro yn 2023. Drwy ennill achrediad, mae’r gwasanaeth archifau’n dangos eu bod yn bodloni safon y DU ar gyfer rheoli casgliadau a mynediad i gasgliadau, gan ddangos gwytnwch a’r gallu i reoli amgylchiadau newidiol yn llwyddiannus.

 

Gweledigaeth a Chenhadaeth

Gweledigaeth yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw cael eu cydnabod fel un o’r archifau prifysgol gorau yng Nghymru – gan gefnogi ymchwil, addysgu a dysgu, cymryd rhan mewn mentrau cydweithredol a darparu amgylchedd cynhwysol i ymchwilwyr. Cenhadaeth yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw casglu, cadw a darparu mynediad i'r casgliadau unigryw a gedwir gan y Brifysgol.

Nod yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw gwneud cyfraniad allweddol at wella rhagoriaeth ymchwil, profiadau dysgu, profiad myfyrwyr ac amgylchedd dwyieithog – y pedair piler sy’n sail i strategaeth y Brifysgol.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?