Project Llyfr Esgobol Bangor
Delweddau digidol
Ymddiheuriadau am broblem dros dro sy’n effeithio ar y delweddau o'r llawysgrif ar hyn o bryd.
Er hynny, mae’n hawdd iawn eu gweld trwy http://www.diamm.ac.uk/.
Ewch at y safle hon, a chliciwch ar ‘Register’ ar y dde ar frig y sgrin.
Ar ôl cofrestru, ewch at ‘Advanced Search’, rholio i lawr at ‘City’ yn y bocs cyntaf, rhoi ‘Bangor’ i mewn yn yr ail focs, ac wedyn ‘Search’.
Cliciwch ar yr eicon i’r dde o’r geiriau ‘Bangor Pontifical’, ac wedyn y tab ‘Image List’ i weld yr holl ddelweddau.
Atgynhyrchir y delweddau isod drwy ganiatâd y Digital Image Archive of Medieval Music (DIAMM).
Gellir gweld pedair delwedd yma hefyd, sef ‘Casglu’r Tlysau’ (y wefan ar gyfer treftadaeth a diwylliant Cymreig), sy’n cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.