Y Llawysgrif

Un llawysgrif litwrgïaidd gyflawn yn unig sydd wedi goroesi o esgobaeth ganoloesol Bangor. Dengys arysgrif ar y llyfr y cyfeirir ato fel ‘esgoblyfr Bangor’ mai ei berchennog gwreiddiol oedd Anian, esgob Bangor, y gellir bellach ei ddyddio’n hyderus i chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn y llyfr ceir testunau, cerddoriaeth a chyfarwyddiadau manwl ar gyfer defodau litwrgïaidd a weinyddir gan esgob: cysegru eglwysi, allorau a mynwentydd; gorseddu a chysegru archesgob; a bendithion arbennig a roddir yn ystod canon yr Offeren ac ar adegau penodol eraill. Mae hefyd yn cynnwys seremonïau sy’n offeiriadol yn hytrach nag yn esgobol yn unig: y defodau ar gyfer diarddel yr edifeirwyr ar Ddydd Mercher y Lludw a chymodi â hwy ar Ddydd Iau Cablyd, yr eneiniad olaf, cludo corff i’r eglwys, claddu a phriodi, ynghyd â grŵp o offerennau addunedol. Yn y llawysgrif ceir casgliad sylweddol o blaensiant, i gyd wedi eu copïo ar erwydd pedair-llinell, a cheir un addurniad tudalen-lawn ar ffo. 8v o esgob yn bendithio eglwys.

Oherwydd eu natur arbenigol mae cynnwys yr esgoblyfrau yn aml yn gyfyngedig. Nid oes nodiant cerddorol o gwbl yn rhai ohonynt gan na chenid mwyafrif yr eitemau cerddorol a geir mewn seremonïau esgobol (gyda rhai eithriadau megis rhagymadroddion) gan yr esgob ond gan y côr: nid oedd angen cynnwys nodiant llawn mewn gwirionedd. Felly mae’r amrediad cyflawn o eitemau côr mewn nodiant llawn ar gyfer pob seremoni a gopïwyd i lyfr Anian yn beth cymharol anarferol mewn esgoblyfr.

Yn yr un modd, efallai, mai angen a benderfynai gynnwys neu hepgor y seremonïau eu hunain. Yn aml cyfyngir cynnwys esgoblyfr i seremonïau a thestunau sy’n galw’n benodol am bresenoldeb esgob: cyflwyno, cysegru a bendithio. Mae esgoblyfr Anian yn fwy cynhwysfawr na llawer o lawysgrifau tebyg gan fod ynddo ddetholiad o seremonïau nad ydynt yn galw am esgob a welir mewn llyfrau litwrgïaidd eraill: yn aml gellir gweld testun a cherddoriaeth yr holl gyfryw seremonïau a restrir uchod yn y Llawlyfr, sef llyfr yr offeiriaid yn cynnwys gwasanaethau’r plwyf.

Aeth prif gopïwr esgoblyfr Bangor i’r drafferth o ysgrifennu enw’r perchennog gwreiddiol ar ddalen olaf y llyfr: Iste liber est pontificalis domini aniani bangor’ episcopi. Bu dau Esgob Anian yn y swydd yn fuan ar ôl ei gilydd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar ddeg: Anian I (1267–1305/6) ac Anian II, a adwaenid gan amlaf fel Anian Sais (1309–28). Fe’u gwahanwyd gan yr Esgob Gruffydd ab Iorwerth (1307–9). Yr oedd mwyafrif yr ysgolheigion cynharach o blaid Anian I fel perchennog gwreiddiol yr esgoblyfr, ond cadarnha ymchwil diweddarach i’r llyfr gael ei lunio pan oedd Anian Sais yn esgob, bron yn sicr rhwng 1310 a 1320 (gweler isod, tt.109–10). Fodd bynnag, mae’r cyfeiriadau diweddarach at Anian I ar y tudalennau rhwymo yn awgrymu y bu ganddo ef ran o bosib yn y digwyddiadau a arweiniodd at gynhyrchu’r esgoblyfr.

Ar y cyfan ychydig iawn o lyfrau litwrgïaidd canolesol a gopïwyd neu a ddefnyddiwyd yng Nghymru a geir yn y casgliad o destunau Prydeinig a oroesodd. Ond Yr hyn sy’n bwysig ar hyn o bryd yw sefydlu perthynas litwrgïaidd a cherddorol yr esgoblyfr ag Arfer Caersallog ar adeg yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar ddeg pan oedd yr Arfer honno yn dod yn normadol ym mwyafrif yr esgobaethau Prydeinig, gan gynnwys rhai Cymru.

Mae cynnwys y llawysgrif ar gael yma
Mae rhestr o eitemau cerddorol yn y llawysgrif ar gael yma