Project Llyfr Esgobol Bangor
Newyddion y project
Cardiau Nadolig
Mae cardiau Nadolig sydd â chysylltiad arbennig gyda Llyfr Esgobol ar werth yn Eglwys Gadeiriol Bangor a Phrifysgol Bangor y Nadolig hwn. Yn y cardiau mae mân-ddarlun o esgob yn cysegru eglwys, a darlun dudalen agoriadol wedi ei haddurno ar gyfer offeren arbennig i ddathlu tymor y Nadolig.Mae'r cardiau ar werth yn Eglwys Gadeiriol Bangor a gan Keith Beasley yn yr Ysgol Cerddoriaeth (e bost k.beasley @ bangor.ac.uk; Est. 2490) am £ 3.99 am 10. Bydd unrhyw elw’n cael ei rannu rhwng yr Eglwys Gadeiriol a phroject Llyfr Esgobol Bangor, sy'n cynrychioli’r cydweithio arbennig rhwng y Brifysgol a'r Eglwys Gadeiriol.
Penodi Cymrawd Farmington
Mae’n bleser gennym gyhoeddi penodiad Cymrawd Farmington, sef Mark Peter Hall Brown. Mae Mark yn athro o Fae Colwyn ac, yn ystod gwanwyn 2012, bydd yn gweithio ar adnodd addysgu arbennig sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r Llyfr Esgobol a’r Eglwys Gadeiriol. Bydd y Project Cyfnod Allweddol 2 hwn yn tynnu ar Faes Llafur yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer Addysg Grefyddol, a’i brif ddeilliant fydd adnodd rhyngweithiol ar y we ar gyfer athrawon a disgyblion, i’w ddefnyddio mewn ysgolion a hefyd fel paratoad ar gyfer ymweliadau â’r Eglwys Gadeiriol ei hun. Bydd Mark yn gweithio gyda chymorth Dr Geraint Davies (Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon, Y Drindod Dewi Sant) Canolfan y Santes Fair, a staff sy’n gysylltiedig ag Eglwys Gadeiriol Bangor a Phroject y Llyfr Esgobol ei hun. Daeth y Gymrodoriaeth yn bosibl trwy gefnogaeth hael gan Sefydliad Farmington, a sefydlwyd i gefnogi, annog a gwella Addysg Grefyddol mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Newyddion ar Lyfr Esgobol Cofentri
Erbyn hyn, mae cyfres lawn y delweddau digidol o Lyfr Esgobol Cofentri a Chaerlwytgoed o’r 13eg ganrif (Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt MS Ff.vi.9) i’w gweld yn uniongyrchol trwy’r wefan hon (cliciwch yma i’w chyrchu). Mae Llyfr Esgobol Cofentri yn perthyn yn agos i lawysgrif Bangor, ac ar hyn o bryd yn bwnc traethawd hir doethurol sydd ar y gweill o fewn yr Adran Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bryste.
Defod Ladin yn Eglwys Teilo Sant, Sain Ffagan
Defnyddiwyd un o’r bendithiadau o Lyfr Esgobol Bangor ym Mehefin mewn defod Ladin arbennig i gysegru urddwisgoedd a gwrthrychau litwrgaidd a oedd wedi’u creu i’w defnyddio yn eglwys ganoloesol Teilo Sant, Sain Ffagan, Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae’r holl eitemau hyn (yn cynnwys organ ysblennydd, llech gusan, costreli, a thuser) yn seiliedig ar wrthrychau canoloesol gwreiddiol, a bu o leiaf ddwsin o grefftwyr yn ymwneud â’r gwaith o’u cynhyrchu ers ychydig fisoedd. Maent wedi’u comisiynu fel rhan o’r Profiad o Addoli mewn Eglwys Gadeiriol ac Eglwys Blwyf, project ymchwil dan arweiniad Canolfan Ryngwladol Bangor ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig, i’w defnyddio mewn perfformiadau o litwrgïau canoloesol. Roedd angen bendithio pob eitem cyn ei defnyddio yn yr Eglwys, a buwyd yn archwilio bendithiadau canoloesol addas gyda chysylltiadau â Chymru. Dewiswyd bendith ar gyfer urddwisgoedd o lawysgrif Bangor (f.154), tra cafwyd bendith fwy cyffredinol o Lyfr Esgobol cyffelyb Edmund Lacy (Esgob Caer-wysg 1420 hyd at 1455) i fendithio’r organ a gwrthrychau eraill. Y Canon Jeremy Davies, precentor Eglwys Gadeiriol Caersallog, a arweiniodd y ddefod Ladin, a oedd yn cynnwys plaengan a ganwyd gan staff ac ôl-raddedigion Bangor, a darnau ar gyfer organ a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr Eingl-Gymreig Philip ap Rhys (m.1566).
Yr Esgob a'i Lyfr
Cynhelir gwasanaeth cysegru a bendithio arbennig, 'Yr Esgob a'i Lyfr', yng Nghadeirlan Bangor brynhawn Sul 6 Chwefror am 3.15 o’r gloch i ddathlu dychweliad Llyfr Esgobol Bangor. Mae’r arian a godwyd gan y Gadeirlan a’r Brifysgol, yn sgil Project Llyfr Esgobol Bangor, a lansiwyd yn 2009 fel rhan o ddathliadau’r canmlwyddiant a chwarter, wedi ein galluogi i drwsio a digideiddio'r llawysgrif. Mae’r Llyfr Esgobol i Fangor wedi dychwelyd o’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a chaiff ei groesawu’n ôl i’r Gadeirlan yn awr. Caiff ei dderbyn gan Ddeon Bangor, y Tra Pharchedig Alun Hawkins, a’i fendithio gan Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John.
Cynlluniwyd y gwasanaeth yn arbennig gan Ganolfan Ryngwladol Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig Prifysgol Bangor ar y cyd â Chadeirlan Bangor. Bydd Côr y Gadeirlan, schola o ferched o’r Brifysgol a chantor proffesiynol yn canu yn ystod y gwasanaeth. Mae llawer o’r alawon plaengan o Lyfr Esgobol Bangor wedi eu trawsgrifio o’r newydd ar gyfer y gwasanaeth, a dim ond yn Llyfr Esgobol Bangor y mae dau ohonynt ar gael. Cliciwch i glywed yr antiffon unigryw, In civitate domini ('Yn ninas yr Arglwydd'), cenir gan Joseph Harper.
Bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnwys darlleniadau o fywyd Sant Deiniol (m. 584), nawddsant y Gadeirlan, a adeiladwyd ar safle ei fynachlog. Caiff y Llyfr Esgobol ei fendithio gyda geiriau bendith o’r Canol Oesoedd, a gyfieithwyd ac addaswyd o lawysgrif oedd yn eiddo i Edmund Lacy, Esgob Caerwysg rhwng 1420 a 1455.
Dyma gyfle prin i weld Llyfr Esgobol Bangor yn yr adeilad sy’n gysylltiedig â’r llyfr ers bron i 700 mlynedd, a chael clywed ei eiriau a’i gerddoriaeth mewn cyd-destun cyfoes. Croeso i bawb, a bydd paned ar gael ar ôl y gwasanaeth.
Llyfr Esgobol Bangor ar BBC Radio 3
Roedd Tom Service ym Mangor yn ystod Mis Rhagfyr yn trafod cerddoriaeth yng Nghymru, gan gynnwys eitem ar Broject Llyfr Esgobol Bangor (gweler 'A Welsh Christmas': BBC Radio 3 'Music Matters', 18 Rhagfyr 2010). Ar ben hynny, fe ysgrifennodd am yr Esgoblyfr yn ei Guardian blog wythnosol.
Darlith y Gronfa Gelf : Dr Lynda Dennison
Dethlir cynnydd y project eleni yn Narlith y Gronfa Gelf (Dydd Mercher, 27 Hydref, 6.30 pm). Bydd Dr Lynda Dennison FSA, aelod o’r Cambridge Illuminations Project, yn defnyddio’r delweddau wedi’u digideiddio yn ystod ei thrafodaeth ar y pwnc ‘A Rare Survival: the Bangor Pontifical and its relationship to East Anglian and London Manuscript Production in the first quarter of the Fourteenth Century’. Mae croeso cynnes i bawb.
Cam Un wedi’i orffen!
Mae Project Esgoblyfr Bangor newydd gyrraedd ei garreg filltir gyntaf bwysig, union flwyddyn ar ôl lansio’r cynllun. Yn ystod y cam cyntaf, a gyllidwyd â grant gan y Cynulliad, gwnaed gwaith cadwraeth ar yr Esgoblyfr a’i ailrwymo a digideiddiwyd ei 340 o dudalennau. Tynnwyd lluniau o’r llawysgrif gan y Digital Image Archive of Medieval Music (DIAMM) y gwanwyn diwethaf, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, a gall gwylwyr yn awr edrych ar y delweddau rhagorol a hynod glir yma. Dychwelwyd y llawysgrif ei hun i Archifau’r Brifysgol yr wythnos ddiwethaf o’r Uned Gadwraeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle roedd wedi cael ei hadfer yn llwyr a darparu clawr croen gafr newydd yn y dull canoloesol iddi (gweler http://nlwales.blogspot.com/2010/10/bangor-pontifical.html). Caiff ei dychweliad ei ddathlu’n gyhoeddus mewn gwasanaeth cyflwyno arbennig yn Eglwys Gadeiriol Bangor ddydd Sul, 6 Chwefror 2011 ym mhresenoldeb Esgob presennol Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John.
Julian Thomas, Pennaeth yr Uned Gadwraeth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wrth ei waith yn ailrwymo'r Esgoblyfr
Myfyriwr PhD
Mae’n bleser gennym gyhoeddi hefyd ethol myfyriwr PhD newydd, Chrisopher Edge o Sheffield (a gyllidir gan un o fwrsariaethau dathlu’r Canmlwyddiant a Chwarter). Bydd ei broject ymchwil yn cynnwys trawsgrifio a dadansoddi’r nodiant cerddoriaeth helaeth a geir yn y Llyfr Esgobol.
Gweithdy 'Medievalism Transformed'
Gyda chymorth aelodau o dîm Project Llyfr Esgobol Bangor, cynhaliwyd gweithdy dan arweiniad myfyrwyr yn y 6ed Gynhadledd Ôl-radd Ryngwladol Medievalism Transformed , a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ar 11 Mehefin 2010. Y thema oedd ‘Darllenwyr, Gwrandawyr a Pherchenogion Llyfrau yn yr Oesoedd Canol a Thu Hwnt.’ Roedd tîm y Project Llyfr Esgobol yn hynod falch bod lluniau digidol o Lyfr Esgobol Bangor wedi cael eu defnyddio fel sail gweithdy rhyngddisgyblaethol ar balaeograffeg a chodiocoleg lle bu myfyrwyr hanes celf, cerddoriaeth a llenyddiaeth yn archwilio’r testun, y gerddoriaeth a’r lluniau a geir ar dudalennau’r Llyfr Esgobol. Mae eu sylwadau’n gyntaf ymysg llawer i olwg newydd y bydd y broses ddigideiddio yn ei rhoi ar y llyfr pwysig hwn. Gwnaed y gwaith ffotograffiaeth hynod fanwl yn gynharach eleni gan y Digital Image Archive of Medieval Music (DIAMM), a hynny trwy grant hael gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cam 1 ar y gweill, diolch i grant gan Llywodraeth y Cynulliad
Mae’n bleser gan dîm y Project gyhoeddi bod Cam 1 Project Llyfr Esgobol Bangor wedi cychwyn yn swyddogol ar 1 Chwefror 2010, a bod y gwaith, erbyn hyn, ar y gweill. Mae’r cam cyntaf hwn wedi’i gyllido yn ei grynswth gan grant Archifau hael a ddyfarnwyd gan CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, adran bolisi o fewn Llywodraeth y Cynulliad sy’n golygu buddsoddiad sylweddol gan y Cynulliad yn natblygiad gwasanaethau amgueddfeydd, archifau a llyfrgell lleol i ateb anghenion yr 21ain ganrif. Mae staff CyMAL wedi cynnig cyngor a chefnogaeth amhrisiadwy i dîm y project dros gyfnod o sawl mis, ac rydym yn dymuno diolch yn benodol i Sarah Horton (archifydd CyMAL), Sarah Paul (ymgynghorydd casgliadau CyMAL) ac Iwan Jones (ymgynghorydd CyMAL) am eu cymorth. Mae Cam 2 â dau brif amcan, sef triniaeth gadwraethol lawn ar gyfer y llawysgrif (yn cynnwys ail-rwymo a chreu clawr newydd) a darparu delweddau digidol o ansawdd uchel ar y llawysgrif yn ei chrynswth. Dyma’r cynnydd hyd yma:
1–2 Chwefror 2010. Dadrwymo’r Llyfr Esgobol yn Archif Prifysgol Bangor gan Mr Julian Thomas, Pennaeth yr Uned Gadwraeth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. (Recordiwyd rhan o’r broses hon ar fideo gan Huw Powell, Swyddog Datblygu’r Cyfryngau ar gyfer Gwasanaethau TG.)
3 Chwefror 2010: Digideiddio’r Llyfr Esgobol yn Archif Prifysgol Bangor gan Dr Julia Craig-McFeely, Cyfarwyddwr a Rheolwr y Project, Archif Delweddau Digidol Cerddoriaeth Ganoloesol (DIAMM).
9 Chwefror 2010: Cludo’r Llyfr Esgobol i’r Uned Gadwraeth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle bydd y gwaith cadwraethol yn dechrau.
Ebrill 2010 (dros dro): mynd â’r Llyfr Esgobol yn ôl i Archif Bangor, yn gyflawn â rhwymiad newydd.
Mae’n bleser hefyd cyhoeddi rhoddion hael diweddar tuag at gostau creu’r gwefan newydd:
Cronfa Marc Fitch: £2000 (Hydref 2009)
The Plainsong and Medieval Music Society: £1000 (Tachwedd 2009)
The Association for Manuscripts and Archives in Research Collections: £1000 (Rhagfyr 2009)
Bwrsariaeth Ymchwil PhD
Mae Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau’n cynnig bwrsariaeth yn canolbwyntio ar Lyfr Esgobol Bangor i ddathlu’r 125 Mlwyddiant. Croesewir ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr Cartref/UE a Rhyngwladol. Bydd y myfyriwr a benodir yn edrych yn fanwl ar Lyfr Esgobol Bangor, a hefyd o fewn cyd-destun ehangach Arfer Caersallog. Bydd ef neu hi’n cyfrannu at y digideiddiad a’r argraffiad ar y we trwy drawsgrifio’r cyfan o’r siant yn y llawysgrif; yn ymchwilio i ffynonellau a chyfatebiaethau’r eitemau litwrgaidd (siantau a thestunau), yn cynnwys amrywiadau melodig a thestunol; yn cyd-gasglu cyfieithiadau presennol o destunau Lladin a geir yn y Llyfr Esgobol, ac yn canfod y testunau y mae angen eu cyfieithu. Hanner dydd 30 Ebrill 2010 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Am fanylion llawn ynglŷn â thelerau ac amodau’r fwrsariaeth hon, gweler yma.