Project Llyfr Esgobol Bangor
Ymchwil Gyfredol
Litwrgi a Cherddoriaeth
Prif Diddordebau Ymchwil Dr Sally Harper, Cyfarwyddwyr y Project, yn cynnwys Litwrgi a sefydliadau crefyddol, gyda phwyslais arbennig ar gerddoriaeth a diwylliant yng Nghymru’r Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar.
Am astudiaeth lawn o’r Pontffical, gweler Sally Harper, ‘Esgoblyfr Bangor: Esgoblyfr Arfer Caersallog’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 2 (1997), 65–89. Mae’r erthygl ar gael yma.
Am y cyd-destun ehangach, gweler Sally Harper, Music in Welsh Culture before 1650: A Study of the Principal Sources (Aldershot, 2007), 231–248.
Mae Thomas Kozachek yn nodi y gellir dosbarthu esgoblyfrau Prydeinig yn ôl tri phrif gam ‘esblygiad’, ac mae llyfr Anian yn perthyn i’r cam olaf ‘Eingl-Normanaidd’, sy’n ymgorffori dylanwadau o lyfrau Normanaidd a Rhufeinig. Gweler
Thomas Kozachek, ‘The repertory of chant for dedicating churches in the Middle Ages: music, liturgy and ritual’ (traethawd PhD, Prifysgol Harvard, 1995).
Gweler yr adnoddau isod am gyfeiriadau cyffredinol sy’n trafod Litwrgi Canoloesol a Datblygiad yr Esgoblyfr fel genre:
Medieval Liturgy Bibliography
MedievalLiturgy.com
Pontificalia: A Repertory of Latin Manuscript Pontificals and Benedictionals compiled by Richard Kay
Hanes Celf
Cydnabuwyd ers peth amser fod gan yr unig addurniad yn yr esgoblyfr gysylltiad clòs â llawysgrifau Ysgol Sallwyr y Frenhines Mari [‘Queen Mary Psalter School’] fel y gelwid hi, a gynhyrchwyd i gyd rhwng 1310 a 1330 gan grŵp o arlunwyr hynod dan arweiniad y ‘Queen Mary Master’ Esgorodd astudiaeth o lawysgrifau grŵp y Frenhines Mari gan Lynda Dennison a Michael A. Michael yn y 1980au cynnar ar dystiolaeth gadarn fod llawer o’r llyfrau wedi eu cynhyrchu, nid yn Llundain ond gan arlunwyr yn gweithio yn East Anglia neu’r cyffiniau. Gweler isod am rai o’r astudiaethau pwysicaf:
Lucy F. Sandler, Gothic Manuscripts 1285–1385 (A Survey of Manuscripts Illuminated in the British Isles, I) (London, 1986).
Lynda Dennison, ‘Liber Horn, Liber Custumarum and Other Manuscripts of the Queen Mary Psalter Workshops’, in L. Grant (ed.), Medieval Art, Architecture and Archaeology in London (British Archaeological Conference Transactions for the year 1984), 118–31.
R. Marks and N. Morgan, The Golden Age of English Manuscript Painting 1200-1500, New York, 1981 (repr. 1996).
A.D. Stanton, The Queen Mary Psalter: A Study in Affect and Audience (Philadelphia, 2001)
G. Warner, Queen Mary´s Psalter (London, 1912)
Michael A. Michael, ‘The Harnhulle Psalter-Hours: An Early Fourteenth-Century English Illuminated Manuscript at Downside Abbey’, Journal of the British Archaeological Association, 134 (1981), 81–99.
Norton, C., Park, D., and Binski, P., Dominican Painting in East Anglia: The Thornton Parva Retable and the Musee de Cluny Frontal, Woodbridge 1987
Llawysgrifau Eraill o Gymru
National Library of Wales MS 20541E: The Penpont Antiphonal, gol. O. T. Edwards, Institute of Medieval Music Facsimile rhif 22 (Ottawa, 1997).
Owain Tudor Edwards, Matins, Lauds and Vespers for St David’s Day: The Medieval Office of the Welsh Patron Saint in National Library of Wales MS 20541 E (Woodbridge, 1990).
Daniel Huws, ‘St David in the Liturgy: A Review of Sources’, yn St David of Wales: Cult, Church and Nation, gol. J. W. Evans a J. M. Wooding (Woodbridge, 2007).
Er bod yr erthgyl isod braidd yn ddydiedig erbyn hyn, mae’n cynnwys rhai sylwadau ar y cyd-destun Cymreig:
T. Morris, ‘The Liber Pontificalis Aniani of Bangor’, Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn (1962), 55–78.