Trin Ddogfennau

TREFNIADAU TRIN, TRAFOD A GOFALU AM DDOGFENNAU

Ymddiriedwyd i'r Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig y dasg o edrych ar ôl yr archifau dan ei gofal. Y ffordd orau i sicrhau bod y llawysgrifau hyn yn goroesi a'i bod yn dal yn bosib eu defnyddio yw i'r holl aelodau staff, gwirfoddolwyr a darllenwyr ymarfer y dulliau cywir o drin a thrafod deunyddiau'r archif a'r llyfrgell.

Gofynnir i ddefnyddwyr sy'n edrych ar ddeunydd gwreiddiol drin a thrafod dogfennau yn hynod o ofalus a dilyn y gweithdrefnau a restrir isod.

A wnewch chi ein helpu i sicrhau bod y casgliadau unigryw hyn yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  • Dylai'r dwylo fod yn lân cyn trafod eitemau yn y casgliad. Peidiwch â gwlychu eich bysedd i droi tudalennau.
  • Defnyddiwch bensiliau'n unig ar gyfer cymryd nodiadau. Ni chaniateir ysgrifbinnau na beiros mewn unrhyw ran o'r ystafell ddarllen
  • Peidiwch â phwyso ar ddogfennau a pheidiwch â gosod llyfrau nodiadau arnynt.
  • Ni ddylid gosod dogfennau ar y llawr.
  • Ni chaniateir dargopïo dogfennau heb ymgynghori ymlaen llaw â'r Archifydd
  • Cymerwch ofal wrth ailosod bwndeli o ddogfennau a chymerwch bob gofal posib i sicrhau eu bod yn y drefn wreiddiol. 
  • Rhowch wybod am unrhyw nam ar ddogfen neu unrhyw ddamwain sy'n digwydd iddi i staff yr Archifau.

Os nad ydych yn deall unrhyw un o'r cynghorion uchod, gofynnwch am gymorth ar bob cyfrif.

Offer ystafell ddarllen

Photo of equipment used in reading room, cushions, weights magnifying glass

I'ch helpu i drin deunydd gwreiddiol yn ofalus, mae'r cyfarpar canlynol yn yr ystafell ddarllen:

  • Pwysau : mae amrywiaeth o bwysau ar gael. "Nadredd" a ddefnyddir ar gyfer dal tudalennau i lawr a phwysau llechi gyda sylfeini ffelt i ddal corneli mapiau a chynlluniau i lawr.
  • Chwyddwydrau : mae chwyddwydrau yma i'ch cynorthwyo chi pan fydd dogfennau'n anodd eu darllen a'u dehongli.
  • Clustogau llyfrau : Mae'r rhain yn diogelu meingefn a cholynnau cyfrolau rhwym.
  • Menig cotwm : i'w defnyddio wrth drin llawysgrifau prin
  • Menig nitril : i'w defnyddio wrth drin ffotograffau heb eu diogelu

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?