Ymholiadau
Mae ymholiadau syml yn cael eu hateb yn rhad ac am ddim gan staff a gwirfoddolwyr yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig.
Mae gwasanaeth ymchwil hefyd ar gael mewn rhai amgylchiadau ar gyfer ymholiadau cymhleth a phan nad oes modd i’r unigolyn ymweld â’r adran neu gynnal yr ymchwil mewn modd arall.
Ffioedd gwasanaeth ymchwil : £15 fesul hanner awr (cyfanswm o 2 awr)
Os hoffech wneud ymholiad, ffoniwch ar (01248) 383276 neu ebostiwch archifau@bangor.ac.uk