Hen Ddigwyddiadau
Eisteddfod Genedlaethol 2017
Cynhaliodd yr Archifau a Chasgliadau Arbennig ddigwyddiad i lansio'r Arddangosfa Hedd Wyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Ym mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod ar yr 11eg o Awst rhwng 10.30yb a 11.30yb ymunodd yr actorion, Huw Garmon a Judith Humphreys, yr Athro Gerwyn Williams a Gerald Williams, nai i Hedd Wyn, efo ni i dalu teyrnged i'r bardd.
Cafodd ymwelwyr â'r stondin, yn ystod y dydd, gyfle i weld dwy lawysgrif wreiddiol o gasgliad Hedd Wyn.
Arddangosfa 2017 - Hedd Wyn
Dyddiau Ymweld UCAS
Byddwn yn agor drysau'r Archifdy yn ystod i dyddiau agored canlynol :
Dydd Sadwrn, 4ydd o Chwefror 2017
Dydd Sadwrn, 25ain o Chwefror 2017
Dydd Mercher, 8fed o Fawrth 2017
Dydd Sadwrn, 1af o Ebrill 2017
DRYSAU AGORED 2016
Agorodd yr adran Archifau a’r Casgliadau Arbennig ei drysau ar ddydd Sadwrn y 24ain o Fedi er mwyn darparu gwledd o lawysgrifau ar gyfer ymwelwyr. Cafwyd cyfle i drafod yr amrywiaeth o gasgliadau archifol a gedwir gan y Brifysgol ac i weld ein harddangosfa eleni, “Ymwelwyr a theithwyr Gogledd Cymru”.
Cynhaliwyd y sesiwn Saesneg rhwng 10.00-11.00 a’r sesiwn Gymraeg rhwng 11.30-12.30.
Archifdaith - Uno'r gorffennol a'r presennol
Perfformiwyd Archifdaith yn Pontio ar y 31ain o Fawrth a'r 1af o Ebrill 2016.
Dros ddwy awr, bu'r artisitiaid Cai Tomos a Marc Rees yn adeiladu / dadadeiladu ffurfiau pernsaeniol / archaeolegol dychmygol er mwyn datgan ffeithiau hanesyddol drwy gyfres o ymdrechion coreograffig.
Roedd yn berfformiad a gosodwaith symudol a oedd yn uno'r gorffennol a'r presennol ar ffurf siwrne drwy ofodau cyhoeddus Pontio gan baentio'r gofod mewn hanes.
Mewn partneriaeth â Pontio, Llyfrgell ac Archifau a Chanolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor
Archwiliwch eich Archif
Ar y 18fed o Dachwedd 2015 cyflwynodd 3 myfyriwr 3 stori i gynulleidfa yn yr Archifdy fel rhan o'n gweithgareddau i hybu wythnos Archwiliwch eich Archif.
Y pynciau dan sylw oedd :
- Eisteddfod Bangor 1915
- Ymwelwyr, teithwyr a thwristiaeth
- Alawon gwerin
Sion Edward Jones ac Elen Ifan a gyflwynodd eu darganfyddiadau yn y digwyddiad Archwiliwch Eich Archif
Darlith Flynyddol yr Archifau a Chasgliadau Arbennig 2015
Eleni, Yr Athro Bill Jones o Brifysgol Caerfydd fydd yn traddodi'r ddarlith ar y testun "'Garibaldi', 'Dyn y Bala' ac 'Apostol Mawr Patagonia' : Y Wladfa a'r Wasg Gymreig yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg".
Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ar y 4ydd o Dachwedd 2015 am 6.00 y.h.
Mae'r ddarlith yn agored i bawb a mynediad yn rhad ac am ddim.
Drysau Agored 2015
Fore dydd Sadwrn, 26 o Fedi, cymerodd yr Archifau a'r Casgliadau Arbennig ran yn nigwyddiadau Drysau Agored 2015.
Cafodd ymwelwyr i'r adran gyfle i wrando ar yr Archifydd yn sôn am waith yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig ac i weld detholiad o’r llawysgrifau hynod sydd i’w canfod yn yr adran. Ar ôl sesiwn holi at ateb aethpwyd â phawb i weld ein harddangosfa ar “Y Cymry ym Mhatagonia”
Eisteddfod Genedlaethol 2015
Er mwyn codi ymwybyddiaeth am ein harddangosfa yn 2015 “Y Cymry ym Mhatagonia”, trefnodd yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig de parti “Patagonaidd” traddodiadol. Yn ystod y digwyddiad, rhannodd y Prif Weinidog, Mr Carwyn Jones, ei brofiadau diweddar ym Mhatagonia gyda ni. Roedd ei ymweliad yn cyd-fynd â dathliadau "Gwyl y Glaniad" - 150 o flynyddoedd er i'r fintai Gymraeg gyntaf lanio ym Morth Madryn.
Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y diwrnod, gan gynnwys yr Athro Gerry Hunter, Mari Emlyn, yr actores, a’r Ganolfan Ehangu Mynediad a ariannodd y digwyddiad yn rhannol.
Y Prif Weinidog, Mr Carwyn Jones, yn mwynhau paned o de gyda'r Archifydd, Elen Wyn Simpson
Arddangosfa 2015 - Y Cymry ym Mhatagonia
Mae'r Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau yn dathlu pen-blwydd y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn 150 o flynyddoedd oed gydag arddangosfa o ddeunydd amrywiol o’r Casgliadau Archifol a Llyfrau Prin.
Gan Archifau Prifysgol Bangor y mae’r casgliad mwyaf y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o ddeunydd yn ymwneud â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Cyfuniad o sawl peth a gasglwyd at ei gilydd o blith mwy na 1500 o eitemau yw Casgliad Patagonia a ddelir gan Archifau Prifysgol Bangor. Mae'n cynnwys llawysgrifau, llythyrau, ffotograffau, dyddiaduron, papurau newydd, llyfrau a chynlluniau'n ymwneud â gwladfa Gymreig Patagonia a sefydlwyd 150 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r dogfennau'n cyflwyno hanesion o lygad y ffynnon a thystiolaeth ffotograffig o fywydau arloeswyr ac ymsefydlwyr y wladfa, gan alluogi i ddarllenwyr fod ag empathi a dealltwriaeth o'r criw o Gymry a ymdrechodd am ryddid ieithyddol a chrefyddol gydag annibyniaeth wleidyddol 8000 o filltiroedd o'u mamwlad.
Ac yntau wedi cael hen ddigon ar y gormes roedd yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn ei ddioddef yn ei famwlad, penderfynodd Michael D Jones greu 'Cymru Newydd' ar draws y moroedd. Dewiswyd Dyffryn Camwy, ardal denau ei phoblogaeth ym Mhatagonia, ar gyfer y wladfa. Yn 1865, hwyliodd y Mimosa o Lerpwl am yr Ariannin gydag oddeutu 153 o ddynion, merched a phlant o Gymru ar ei bwrdd. Dioddefodd yr ymfudwyr cynnar galedi fel sychder a llifogydd yn y wladfa ond, er gwaethaf popeth, fe wnaethant ffynnu ac, yn rhyfeddol, hyd heddiw mae disgynyddion yr ymfudwyr gwreiddiol yn dal i fyw ym Mhatagonia ac yn siarad Cymraeg.
Gellir gweld yr arddangosfa o'r 18fed o Fai tan y 18fed o Ragfyr 2015 yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
Diwrnod Agored 2015
Ymwelwyr i Ddiwrnod Agored yr Archifdy yn edrych ar rai llyfrau prin yng nghwmni Shan Robinson, Cydlynydd Casgliadau Arbennig