Adborth
Rydym yn croesawu adborth ar bob agwedd o’n gwaith er mwyn gwella ein gwasanaeth. Fodd bynnag, os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y gwasanaeth rydym wedi'i ddarparu, cysylltwch â ni i drafod eich cwyn neu ysgrifennwch atom i nodi ym mha ffordd rydych yn anhapus â'r gwasanaeth a ddarparwyd.
Os hoffech roi eich adborth i ni, cysylltwch ag unrhyw aelod o staff yn uniongyrchol, ffoniwch ar (01248) 383276 neu ebostiwch archifau@bangor.ac.uk.