Bydd ystafell ddarllen yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yn cau i’r cyhoedd am y Nadolig ar y 17eg o Ragfyr 2020.
Fodd bynnag, oherwydd y cyfnod clo newydd sydd i ddechrau ar y 28ain o Ragfyr ni fyddwn yn ail-agor i’r cyhoedd tan ddiwedd y cyfyngiadau (hynny i’w gadarnhau gan Lywodraeth Cymru).
Bydd y gwasanaeth yn parhau i dderbyn ymholiadau ar bost archifau@bangor.ac.uk neu dros y ffon (01248) 383276 ac yn ymdrechu i’w hateb cyn gynted â phosib.
Croeso
Croeso i’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig sy’n rhan o Wasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor.
Rydym yn gyfrifol am gasglu ac am ofal tymor hir llawysgrifau, casgliadau archifol ac ystod eang o lyfrau prin a deunydd printiedig.
Ein hamcan yw sicrhau bod ein hadnoddau ar gael i bob ymchwilydd, yn rhad ac am ddim. Rydym yn brysur hyrwyddo ein casgliadau fel adnoddau gwerthfawr ar gyfer ymchwil a dysg ac yn cynnwys y gymuned gyfan yn ein gweithgareddau yn ogystal â staff a myfyrwyr oddi fewn i’r Brifysgol.
Mae ein casgliadau ar gael i’r cyhoedd ac mae modd eu gweld yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig sydd wedi ei leoli ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r Archifdy yn cynnwys ystafell ddarllen ar gyfer ymchwil tawel ac ystafell addysg ar gyfer ymweliadau gan grwpiau.
Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn Wasanaeth Archifau Achrededig.
Newyddion
ER COF AM Y RHAI O'R BRIFYSGOL A FU FARW : 1914-1918
Yn ystod y misoedd diwethaf bu staff yr Archifau a'r Casgliadau Arbennig yn gweithio ar broject i ddysgu mwy am gyn Fyfyrwyr a Staff Prifysgol Bangor a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Amcan y project oedd nodi pob un o'r naw deg saith o ddynion y mae eu henwau ar y Placiau Coffa Rhyfel y tu allan i Neuadd Pritchard Jones a rhoi wynebau a straeon i'r enwau:
Er cof am y rhai o'r Brifysgol a fu farw: 1914-1918
Oriau agor
Dyma ein horiau agor o'r 29ain o Fedi 2020 ymlaen :
Mawrth 10yb – 12yh a 1yh – 3yh
Iau 10yb – 12yh a 1yh – 3yh