HYSBYSIAD O’R BWRIAD I GAU’R ARCHIFDY DROS DRO OHERWYDD GWAITH ADEILADU ANORFOD
TREFNIADAU’R ARCHIFAU A CHASGLIADAU ARBENNIG DROS YR HAF
Bydd yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yn cau i ddarllenwyr ar y 17eg o Ebrill hyd at y 1af o Fedi. Gwneir hyn er mwyn amnewid y silffoedd yn y storfa am rai newydd ac i wella ein galluoedd storio. Daw’r gwaith yma yn sgil y wobr ddiweddar o arian allanol gan yr Arts and Humanities Research Council.
Fodd bynnag, bydd cyfle i ddarllenwyr wneud “cais arbennig” i weld llyfrau prin a rhai casgliadau archifol dros yr Haf (o’r 22ain o Fai ymlaen), ar sail apwyntiad yn unig.
Bydd angen i’r darllenwyr hynny archebu dogfennau o flaen llaw h.y. anfon rhestr o eitemau yr hoffent eu gweld erbyn y 28ain o Ebrill 2023.
Yn anffodus, nifer cyfyngedig o ddogfennau y gellir eu harchebu ac ni fydd modd i ni ystyried unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad hwn.
Rydym yn ymwybodol o'r ymyrraeth sydyn i'n gwasanaeth arferol ac yn ymddiheuro am yr hwyrni.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau mae modd i chi gysylltu efo ni ar archifau@bangor.ac.uk neu 01248 383276.
Croeso i’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig sy’n rhan o Gwasanaethau Digidol.
Rydym yn gyfrifol am gasglu ac am ofal tymor hir llawysgrifau, casgliadau archifol ac ystod eang o lyfrau prin a deunydd printiedig.
Ein hamcan yw sicrhau bod ein hadnoddau ar gael i bob ymchwilydd, yn rhad ac am ddim. Rydym yn brysur hyrwyddo ein casgliadau fel adnoddau gwerthfawr ar gyfer ymchwil a dysg ac yn cynnwys y gymuned gyfan yn ein gweithgareddau yn ogystal â staff a myfyrwyr oddi fewn i’r Brifysgol.
Mae ein casgliadau ar gael i’r cyhoedd ac mae modd eu gweld yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig sydd wedi ei leoli ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r Archifdy yn cynnwys ystafell ddarllen ar gyfer ymchwil tawel ac ystafell addysg ar gyfer ymweliadau gan grwpiau.
Mae'r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn archifdy achrededig ac yn cyrraedd safon y DU sy'n cydnabod perfformiad da ym mhob maes o ddarparu gwasanaeth archif.
Newyddion
ER COF AM Y RHAI O’R BRIFYSGOL A FU FARW : 1914–1918
Dysgwch fwy am gyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Bangor a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Er cof am y rhai o’r Brifysgol a fu farw: 1914–1918
Oriau agor
Trwy apwyntiad yn unig:
Llun - Gwener:
9.30yb – 12yh a 1.30yh – 4yh