Mwy o wybodaeth
- Cliciwch yma i weld y catalog
Ein Casgliadau
Rydym yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â chasgliadau archifol eraill.
Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Gellir rhannu'r daliadau archifol yn 3 grŵp
Cofnodion y Coleg
Mae cofnodion y coleg yn ffurfio canran uchel iawn o ddaliadau Adran yr Archifdy. Mae eu ffurf yn amrywio’n fawr, o ohebiaeth, ffotograffau, cardiau post, effemera printiedig, rhaglenni, a chynlluniau, i doriadau papurau newydd, llyfrynnau, printiadau a chofnodion. Maent yn ymwneud â phynciau megis adeiladau’r Brifysgol, gwahanol gronfeydd, aelodau o’r staff, clybiau a chymdeithasau, cyngherddau, streiciau a phrotestiadau, neuaddau preswyl, cynadleddau, ysgoloriaethau ac yn y blaen. Maent yn dyddio o’r cyfnod cyn sefydlu’r brifysgol yn y 1880au, i’r 1980au.
Casgliadau Arbennig
Mae’r rhain yn cynnwys papurau ystadau a theuluoedd Sir Fôn, Sir Gaernarfon, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Sir Feirionnydd yn bennaf. Serch hynny, mae yma gasgliadau o bapurau gan athrawon a darlithwyr y Brifysgol, haneswyr, hynafiaethwyr, ffermwyr, gwŷr busnes a gweinidogion yr efengyl. Hefyd, papurau twrneiod a chyfreithwyr lleol, cofnodion i blanhigfeydd yn Jamaica ac India’r Gorllewin, a chofnodion hela. Maent yn dyddio o’r 12fed ganrif hyd heddiw. Cliciwch yma am restr o'r casgliadau arbennig a gwybodaeth.
Y Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor
Mae hwn yn gasgliad amrywiol o bapurau mewn gwahanol ffurfiau: cofnodion llenyddol, hanesyddol a hynafiaethol o gyrff crefyddol ac addysgol; cofnodion perchnogaeth tir ac eiddo; archifau personol a theuluol; cofnodion ffermio a chofnodion amaethyddol; cofnodion o natur wleidyddol; cofnodion achyddol ac yn y blaen. Maent yn dyddio o ddiwedd y 12fed ganrif hyd heddiw.