Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Er cof am y rhai o'r Brifysgol a fu farw:

1914-1918

 

Yn ystod y misoedd diwethaf bu Lynette Williams, Archifydd yr Archifau a'r Casgliadau Arbennig yn gweithio ar broject i ddysgu mwy am gyn Fyfyrwyr a Staff Prifysgol Bangor a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Amcan y project oedd nodi pob un o'r naw deg saith o ddynion y mae eu henwau ar Blaciau Coffa’r Rhyfel y tu allan i Neuadd Pritchard Jones a rhoi wynebau a straeon i'r enwau.


Gobaith Lynette oedd darganfod pwy oedd y dynion yma, o ble y daethon nhw, pwy y gwnaethon nhw wasanaethu a sut y buont farw. Roedd yr ymchwil yn heriol a bu'n rhaid iddi gloddio'n ddwfn yn adnoddau'r Archifau a'r Llyfrgell i ddysgu am fywydau'r unigolion yma. Cofrestrau'r Myfyrwyr oedd yr adnoddau cyntaf iddi ei ddefnyddio er mwyn dod o hyd i'r enwau sydd ar y placiau. Dim ond llythrennau blaen a chyfenwau sydd ar y cofgolofnau a rhaid oedd chwilio trwy filoedd o enwau yn y cofrestrau i sicrhau bod ganddi’r bobl iawn - mewn rhai achosion, roedd yn amhosibl oherwydd bod rhai o'r enwau mor gyffredin ac ychydig iawn o wybodaeth oedd gennym.


Yn ogystal, bu Lynette yn chwilio trwy gofnodion eraill y Brifysgol (cofnodion Pwyllgorau, Llawlyfrau'r Myfyrwyr, Blwyddlyfrau, ffotograffau'r Myfyrwyr, cofnodion y Staff, ac ati) a phapurau newydd lleol o'r cyfnod i ddarganfod manylion personol pellach. Defnyddiwyd cronfeydd data milwrol i ymchwilio i yrfaoedd milwrol a gwefannau sy'n cynnwys gwybodaeth o'r Cofgolofnau Rhyfel lleol i gwblhau'r ymchwil.


Wrth ymgymryd â'r ymchwil hwn, mi wnaethon ni hefyd nodi dynion nad oedd eu henwau ar y plac - rydym yn bwriadu ymchwilio i'r unigolion hynny a'u cynnwys yn y project yn y pen draw. Mae Lynette hefyd yn bwriadu ymchwilio i straeon Myfyrwyr a Staff y Coleg Normal a aeth i ryfel a cholli eu bywydau.


Mae Lynette yn dal i gasglu straeon y rhai a syrthiodd a gofynnwn i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdanyn nhw gysylltu â ni.

 

 

John Alexander Baxter

(1893-1918)

Ganed John Alexander Baxter ar y 30ain o Awst 1893 yn Essex ac yn ddiweddarach bu’n byw gyda’i deulu yn  Eastholme, Llanfairfechan ac wedyn yn Bryn Gwylan, Conwy. Roedd yn ddisgybl yn yr Ysgol Genedlaethol ac enillodd ysgoloriaeth i fynychu Ysgol Friars, Bangor ac wedyn yn 1910 aeth fel myfyriwr i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru lle y dewisodd gwrs amethyddol gan raddio gyda BSc yn 1914. Daeth yn Uwchgapten gyda’r 12fed Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, wedi iddo fod yn 2il Is-gapten a Chapten gan dderbyn y Groes Filwrol. Bu farw ar faes y gad ym Mhehefin 1918.

 

 

 

Ffynhonnell : Cofeb y dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918, William John Owen Afallon (1865-1941), Lerpwl, 1919-20.

 

Ffotograff o Dim Peldroed y Coleg, gan gynnwys enwau. 15 dyn - pob un (heblaw 1) wedi gwasanaethu yn y rhyfel. Bu farw 4 ohonynt

 

John Edwin Bayliss

(1892-1917)

 

Ganed John Edwin Bayliss yn y Rhyl ar y 17eg o Fawrth 1892, yn fab i John Francis Bayliss, cyfrifydd a dirprwy glerc y dref gyda Chyngor Tref y Rhyl, ac Amy, merch y diweddar Edwin Davis o Fryste. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Eglwys Lloegr yn Stryd Clwyd ac yna yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru lle cafodd radd dosbarth cyntaf BSc mewn cemeg. Wedi iddo dderbyn gwobr Deon Edwards yn 1914 cafodd ysgoloriaeth Prifysgol. Blwyddyn yn ddiweddarach cafodd swydd fel cemegydd yn ffatri Ffrwydron Nobel yn Ardeer yn yr Alban. Derbyniodd gomisiwn fel 2il Is-gapten yn Hydref 1914 a cafodd ddyrchafiad i’r swydd Is-gapten yn Awst 1915, Capten yn Nhachwedd 1916 ac Uwchgapten ym Mawrth 1917. Ar ôl derbyn hyfforddiant yn Iwerddon gwasanaethodd gyda’r Fyddin Alldeithiol [Expeditionary Force] yn Ffrainc a Fflandrys, gan gymeryd rhan ym mhrwydr Loos. Cyfeiriwyd ato yn “Dispatches” gan Syr Douglas Haig [London Gazette, 18 Mai 1917] ac fe’i wobrwywyd gyda’r Groes Filwrol  am  ddewrder amlwg ac ymroddiad i wasanaeth, gan iddo barhau i saethu gynnau’r Batri am oriau lawer mewn safle diamddifyn a derbyn sielio trwm.

Cafodd ei anafu yn Ypres ar y 29ain o Fedi 1917 a bu farw yng nghorsaf Rhif 61. ar yr un diwrnod. Ygrifennodd ei Gyrnol amdano : “Mae marwolaeth eich brawd druan wedi bod yn ergyd i mi. Roedd yn swyddog hynod  effeithiol a dewr, nad oeddym yn medru ei sbario”. Dywedodd sywddog arall amdano “Roedd pawb yn ei garu. Nid oedd llygaid sych yn y “mess” pan glywsom y gwaethaf [amdano].”

 

[Ffynhonnell : UK, De Ruvigny’s Roll of Honour, 1914-1919]

 

 

Gwilym Isaac Bevers

(1893-1917)

Ganed Isaac Gwilym Bevers yn 1893 yn Henley-on-Thames, Oxfordshire, yn fab i Walter a Margaret Bevers, gan symud yn ddiweddarach i Harlech, Gogledd Cymru. Cafodd yrfa academaidd ddisglair gan ennill safle dda yn arholiadau’r sir ym Meirionydd ac fe ymunodd ag Ysgol y Sir, Bermo ac ennill ysgoloriaeth a roddodd fynediad iddo i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1911. Graddiodd yn 1914 gyda BSc gydag anrhydedd mewn cemeg. Ymunodd â’r fyddin yn yr un flwyddyn, gan wasanaethu yn Gallipoli fel Ail is-gapten gyda’r 16eg Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Roedd wedi dyweddïo â Miss Gracie Thomas, merch Mr W. Thomas, 298 Stryd Fawr, Bangor a gwnaethpwyd trefniadau ar gyfer y briodas gyda Is-gapten Bevers wedi cael caniatad i gael hoe “leave” o’r fyddin ar y diwrnod wedi iddo farw o’i anafiadau yn Ffrainc ar yr 2il o Awst 1917.

 

 Fel Capten o Dîm Pêl-droed y Brifysgol

Herbert Leslie Brock (‘Bertie’)

(1890-1918)

Ganed Herbert Leslie Brock, ar y 26ain o Awst 1890. Mab hynaf William Brock a oedd yn Brifathro mewn Ysgol Elfennol, ac Alice Brock, Sunnyside, Tregarth. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1908 gan ennill gradd BA. Roedd yn adnabyddus mewn cylchoedd athletaidd ac yn aelod blaenllaw o dîm pêl-droed y Brifysgol lle bu’n gapten. Ar ôl gadael y Brifysgol ymunodd â staff Coleg Elmfield, Efrog. Yn Chwefror 1915 ymunodd â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Yn fuan iawn, cafodd ei gynnig ar gyfer comisiwn a bu’n brwydro yn Ffrainc lle cafodd ei anafu mewn cyrch mentrus ar ffosydd y gelyn ar y 13eg o Fehefin 1916. Ar ôl gwella o’i anafiadau cafodd ei drosglwyddo i’r Corfflu Gynau Peiriant a’i ddyrchafu yn Is-gapten. Cafodd ei ladd ar y 10fed o Ebrill 1918 yn 28 oed.

 

[Ffynhonnell : North Wales Chronicle, 26ain Ebrill 1918]

 

 

George Gamble Burgess

(1891-1917)

Ganed George Gamble Burgess ar y 10fed o Ionawr 1891 ym mhlwyf St. Margarettes, Swydd Gaerlŷr. Cofrestrodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1909 gan derbyn gradd BSc yn 1913, gan ddilyn gyrfa fel athro ysgol. Ymunodd a’r fyddin fel Rhingyll gyda’r 2il uned Ambiwlans Maes Gogledd Canolbarth o’r RAMC yn Chwefror 1915. Bu farw mewn ward filwrol yn yr Ysbyty Frenhinol Sir Sussex ar 28ain o Dachwedd 1917.

 

 

Roger Norman Cartwright

(1886-1918)

Ganed Roger Norman Cartwright ar y 24ain o Fehefin 1886 yng Nglan Aber, Llanasa yn fab i Charles Cartwright, milfeddyg a Marian Elizabeth Cartwright. Ymunodd â’r Brifysgol yn 1905 ac wedi iddo adael daeth yn Asiant Tir yn Sir Feirionnydd. Yn ddiweddarach, ymfudodd i Blaine, Montana yn yr Unol Daleithiau. Cafodd ei ladd ar y 18fed o Orffennaf 1918 tra’n gwasanaethu ym Myddin yr Unol Daleithiau (23ain Catrawd o Ŵyr Traed, 2il Adran) [23rd Infantry Regiment, 2nd Infantry Division].

 

Cooil fel aelod o Dîm Pêl-droed y Brifysgol.

Caesar Alfred Cooil

(1891-1918)

Ganed Caesar Alfred Cooil yn 1891 yn fab i Caesar ac Elizabeth Cooil, 2 Gwêl y Gogarth, Ffordd Euston, Bangor. Cafodd ei addysg yn ysgolion St. Paul’s a Friars gan gofrestru â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1910 a graddio gyda gradd ail-ddosbarth mewn hanes yng Nghorffennaf 1915. Daeth yn Gymorthydd yn Ysgol King Edward’s, Nottingham, cyn ymuno â’r “Midland Royal Garrison Artillery Heavy Battery”, yn gyntaf fel Ail is-gapten ac yn ddiweddarach fel Capten. Bu farw ar yr 11eg o Dachwedd 1918 yn Ysbyty Milwrol Bangor o lid yr ysgyfaint a waethygwyd gan wenwyn nwy. Roedd ei bersonoliaeth hynaws a’I gymeriad gwrol yn golygu bod ganddo gylch mawr o ffrindiau, ac fe amlygwyd hyn gan y nifer helaeth o alarwyr yn ei angladd. Roedd rhes barchus o alarwyr ar hyd o ffordd o Drem y Gogardd hyd y fynwent.

 

Mae enw Cooil yn ymddangos hefyd ar restr Corfflu Bechgyn y Sefydliad Rheilffodd. Mae’r cofeb i’w ganfod yng Ngorsaf Trên Bangor.

 

[Ffynhonnell: The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 22ain Tachwedd 1918]

 

 

 

 

Ernest Arnold Lovell Cook

(1892-1918)

Ganed Ernest Arnold Lovell Cook ar y 27ain o Ebrill 1892 i Frederick Nathaniel Cook ac Ellie Pearson Lovell Cook o “Greystones,” Roundhay, Leeds. Ymunodd â’r Brifysgol yn 1913 ac yn fuan derbyniodd Ddiploma mewn Coedwigaeth. Ymunodd â’r 122 Brigâd o’r Magnelwyr Maes Brenhinol, gan ddringo’r rhengoedd o Ail is-gapten i Uwch-gapten. Rhoddwyd y Groes Filwrol iddo am ddewrder amlwg ac ymroddiad i ddyletswydd ar sawl achlysur. Dangosodd ddewrder eithriadol ac egni tra’n gwasanaethu fel swyddog “blaen sylwadaeth”, gan anfon gwybodaeth werthfawr yn gyson tra ‘n cael ei saethu ato, yn aros yn yr agored o dan saethu trwm yn y nos, ac yn anfon negeseuon gyda lamp i’r pencadlys. Wrth achub ei ddynion, a oedd yn dioddef gwenwyn nwy ac wedi’u anafu, dioddefodd saethu gelyniaethus, gan ddychwelyd gyda 3 ohonynt yn saff. Roedd ei ddewrder yn amlwg iawn tra’n cynorthwyo ei Fatri ar faes y gad. Cafodd ei ladd yn Ffrainc ar y 1af o Dachwedd 1918.

 

[Ffynhonnell : Supplement to the London Gazette, 9fed Ionawr 1918, p. 595]

 

 

Cromar fel aelod o Dîm Pêl-droed y Brifysgol.

 

 

Thomas Frederick Cromar

(1885-1917)

Ganed Thomas Frederick Cromar ym Mangor ar y 7ed o Fawrth 1885 yn fab i William ac Alice Cromar. Cafodd ei addysgu yn Ysgol y Sir Wrecsam a chofrestrodd gyda Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1904 i astudio Cemeg. Roedd yn athro gwyddoniaeth yn ysgol Uwchradd Wesleyaidd, Rhydychen, cyn ymuno â Byddin Arloesol “ Pioneer Battalion”, y Peirianwyr Brenhinol. Cafodd ei anafu ar faes y gad yn Ffrainc a bu farw o’i anafiadau ar y 10fed o Fai 1917, ei gorff yn cael ei gladdu ym Mynwent Prydeinig Grevillers yn Nord-Pas-de-Calais.

 

Daniel fel aelod o dîm pêl-droed y Brifysgol, 1910-11

 

John Daniel

(1889-1922)

Ganed John Daniel yng Nghaernarfon ar y 9fed o Fehefin 1889. Yn fab i John, crydd a Catherine ei wraig. Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am ei fywyd cynnar ond ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1909 ac roedd yn aelod pwysig o dîm pêl-droed y Brifysgol yn y flwyddyn academaidd 1910-1911. Cofrestrodd fel aelod o Fataliwn Gogledd Cymru o’r y Fiwsilwyr Brenhinol Cymreig a bu farw yn 1922 o ôl-effeithiau’r gwenwyn nwy a ddioddefodd yn ystod y rhyfel.

 

 

Davies fel aelod o dîm pêl-droed y Brifysgol

 

 

David Claude Graham Davies

(1891-1915)

Ganed David Claude Graham Davies yn Llanrwst ar y 21ain o Ragfyr 1891 yn fab i Thomas John ac Annie Louisa Davies, o Awelon, 15, Holbrook Avenue, Rugby, Warwickshire. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1908 ac roedd yn Gadlanc gyda’r Corfflu Hyfforddi Swyddogion [OTC] ac yn aelod o’r tîm pêl-droed. Tra’n astudio yn y Brifysgol roedd yn byw yn Ffordd Harcourt, Llandudno. Yn 1910 roedd yn cael ei gyflogi fel Peiriannydd Trydanol gan British Thomson-Houston (BTH), cwmni peirianneg a diwydiant trwm Prydeinig a oedd a’i seiliau yn Rugby. Ymunodd â’r Gwarchodlu Magnelau Brenhinol (Bataliwn Gwarchae 1af) ac roedd yn Ail-is gapten pan fu farw o’r anafiadau a dderbynniodd tra’n ymladd yn Ffrainc ar y 15fed o Fai 1915. Mae wedi ei gladdu ym mynwent tref Bethune, Pas de Calais, France.

 

 

[Ffynhonnell: Barmouth and County Advertiser, 24ain Mai 1917]

 

David Oswald Davies

(1869-1917)

Ganed David Oswald Davies yn 1869 yn Llanfyllin. Ar ôl derbyn gradd BA yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru cychwynodd ar ei yrfa fel Prifathro mewn Ysgol Ramadeg. Ar ôl cyfnod, ennillodd gymwyster fel cyfreithiwr a symudodd i fyw i’r Bermo lle y sefydlodd bractis helaeth a oedd yn ymestyn dros Sir Feirionnydd. Yn ei ieuenctid chwaraeodd Davies bêl-droed dros Gymru ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn nhîm pêl-droed lleol Bermo. Gwasanaethodd mewn sawl swydd bwysig; ymysg eraill, roedd yn Glerc i’r Comisiynwyr Treth Incwm ar gyfer Rhanbarth Ardudwy, Clerc ar gyfer Bwrdd Dyfi a Mawddach, Clerc Ynadon ar gyfer Mainc Towyn a chymerodd ran amlwg yn y gwaith o sefydlu Llyfrgell Bermo, gan fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith am sawl blwyddyn.

 

Roedd yn wirfoddolwr pan gychwynodd y rhyfel a chafodd ei alw i ymuno ar unwaith wedi i’r rhyfela gychwyn. Cynhaliodd ymarferion ar gyfer y VTC yn Bermo a gwasanaethodd yn y Drenewydd ac mewn gwersylloedd eraill pan gafodd ei benodi yn Gapten. Cafodd ei daro yn wael â salwch a bu farw yn 1917.

 

 

Davies fel aelod o’r Tim Criced yn 1911

 

George Henry Douglas Davies

(1888-1916)

Ganed George Henry Douglas Davies ar y 6ed o Ebrill 1888 yng Nghroesoswallt, y pedwerydd o bump o blant i John  Edward Davies, ffermwr yn The Fields yn Maesbury ac Emma Jane Davies. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1909 lle’r oedd yn chwaraewr brwd ac yn aelod o’r timau rygbi a chriced. Yn ddiweddarach ymunodd â Chorfflu’r Dragwniaid o Iwmyn Shropshire. Lladdwyd George ar faes y gad ar y 23ain o Awst 1916 yn ystod yr ymosodiad ar y Somme, ac fe’i claddwyd ym mynwent Blighty Valley ger Authuille, France.

 

 

John Davies

(1883-1918)

Ganed John Davies ar y 27ain o Orffennaf 1883 yn Wrecsam. Roedd yn fab i Edward a Hannah Davies o 40 Stryd Cunliffe, Rhosddu. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1901 ac astudiodd fathemateg pur ac chymwysol gan wedyn gael ei benodi yn athro Mathemateg yn Aberhonddu.

Ymunodd â’r Peirianwyr Brenhinol a bu farw o ôl-effeithiau gwenwyn nwy yn Nhachwedd 1918 yn 34 mlwydd oed.

 

 

[Ffynhonnell : UK, De Ruvigny's Roll of Honour, 1914-1919, am Emlyn Holt Davies, Cyf. 4]

 

Rev. Emlyn Holt Davies

(1876-1918)

Ganed y Parch. Emlyn Holt Davies ym Machynlleth ar y 19eg o Ebrill 1876 yn fab hynaf i D. Edward Davies o Bronwylfa, Aberystwyth a’i wraig, Mary, merch Lewis Holt. Cofrestrodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1897 gan ennill gradd yn 1900. Priododd Winifred Williams, merch David Williams o Abertyleri ar y 29ain o Fawrth 1910, yn Nhalybont, Ceredigion, a ganed 3 o ferched iddynt. Ymunodd â’r weinidogaeth anghydffurfiol gan ddod yn genhadwr gyda Chymdeithas Genhadol Llundain yn Calcutta. Dychwelodd i Brydain yn ddiweddarach, oherwydd ei iechyd, gan gynnal bugeiliaeth yn Hadleigh, Pitsea ac Eglwys Annibynnol Westport, Malmesbury, lle yr ymsefydlodd yn 1915. Fis Tachwedd 1917 rhoddwyd caniatad iddo gan Eglwys Annibynnol Westport i gael cyfnod o 4 mis i ffwrdd - gwirfoddolodd i wasanaethau gyda’r milwyr Indiaidd (fel Caplan) a gwasanaethodd gyda’r Llu ar ymgyrch [Expeditionary Force] yn Ffrainc o’r 8fed o Ionawr 1918. Daliodd lif yr ymenydd a bu farw yn Ysbyty Milwrol Cerisy-sur-Somme ar y 18fed o Fawrth 1918.

 

Thomas Llewelyn Davies

(1892-1918)

Ganed Thomas Llewelyn Davies ar yr 11eg o Dachwedd 1892 yn Abertawe i William Davies a’i wraig Margaret o Dillwyn House, Brynhyfryd. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1911 lle’r astudiodd hanes. Roedd yn Uwch-Gapten gyda’r Magnelwyr Maes Brenhinol ac fe’i lladdwyd ar y 16eg o Fedi 1918 tra’n hedfan mewn RE8, D4746 a oedd yn perthyn i’r Ysgol Fagnelau a Milwyr Traed Cydweithredol [Artillery and Infantry Co-operation School]. Rhoddwyd y Groes Filwrol iddo yn 1917 am ddewrder amlwg ac ymroddiad i wasanaeth tra’n ail-drefnu Magnelfa [Battery] a oedd wedi colli bron iawn ei swyddogion i gyd (NCO’s a Saethwyr). Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, arweiniodd y Fagnelfa mewn ymosodiad gan osod y gynnau ar ben ei hun, a diolch i’w esiampl roedd modd i’r Fagnelfa newid ei safle a chychwyn ymladd. Mae wedi’i gladdu ym Mynwent Cwmgelly Abertawe.

 

 

 

 

Hubert Francis Day

(1895-1917)

Ganed Hubert Francis Day ar yr 22ain o Orffennaf 1895 yn Aberdaugleddau yn fab i  John a Margaret Day.  Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1913 ac wedyn fe’i comisiynwyd i’r Cwmni Artileri Brenhinol cyn ymuno a’r 11eg Bataliwn o’r Fiwsilwyr Brenhinol. Fe’i lladdwyd ym Mrwydr Langemarck ar y 10fed o Awst 1917. Lladdwyd ei frawd John Henry hefyd yn y rhyfel.

 

John Llewelyn Edwards

(1894-1917)

Ganed John Llewelyn Edwards ar y 18fed o Fehefin 1894 yn fab i John ac Elizabeth Edwards o Bodlondeb, Caerwys. Fe’i addysgwyd yn Ysgol Merchant Taylors’, Great Cosby cyn ymuno â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru i astudio amaethyddiaeth. Roedd yn aelod o’r Corfflu Hyfforddi Swyddogion [OTC] pan gynigiwyd comisiwn iddo pan dorrodd y rhyfel. Tra’n disgwyl am ei gomisiwn ymunodd â’r Gwarchodlu Grenadïr gan aros yno hyd iddo gael ei gomisiwn fel Ail is-gapten gyda’r 75ain Brigâd o’r Magnelwyr Maes Brenhinol [Royal Field Artillery]. Glaniodd yn Ffrainc ar yr 28ain o Fehefin 1915 i ymuno â’r Brigâd gan dderbyn dyrchafiad yn Is-gapten yn 1916. Lladdwyd Edwards ar y 7fed o Fedi 1917 yn 23 mlwydd oed.

 

 

Rowland Edwards

(1896-1916)

Ganed Rowland Edwards ym Mlaenau Ffestiniog ar yr 2il o Ragfyr 1896 yn fab i Humphrey a Mary Anne Edwards o Teras Summerhill. Cofrestrodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1914. Ymunodd â’r Corfflu Meddygol Brenhinol [Royal Army Medical Corps] ar yr 11eg o Ragfyr 1915 yn 19 mlwydd oed.  Aethpwyd ag ef i’r ysbyty ar y 29ain o Ebrill 1916 yn dioddef yn beryglus o lid y pendics ac embolaeth madreddol. Bu farw 4 diwrnod yn ddiweddarach ar yr 2il o Fai 1916.

 

 

Cynan a David Ellis ar y ffordd i Salonica

 

David (Dei) Ellis

(1893-1918) 

Ganed David Ellis ar y 1af o Chwefror 1893 yn Penyfed, Ty Nant, Corwen. Cofrestrodd fel myfyriwr gyda Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1910 gan ennill gradd BA Anrhydedd mewn Cymraeg yn 1913. Ymunodd â Chwmni Myfyrwyr Cymreig o’r RAMC yn fuan yn 1916 gan ddiflannu tra’n gwasanaethu yn Salonica ym Mehefin 1918 – ni ddaethpwyd o hyd i’w gorff erioed.

Ysgrifennodd "Cynan" (Albert Evans Jones) gofnod ffuglen o’i ddiflaniad yn “Ffarwel Weledig”. Fel bardd dawnus, mae Dei Ellis yn destun llyfr gan Alan Llwyd ac Elwyn Edwards, "Y bardd a gollwyd" [Cyhoeddiadau Barddas, 1992].

 

Eleazar Evans

(1889-1917)

Ganed Eleazar Evans ar yr 21ain o Fehefin 1889 yng Nghricieth yn fab i O. T. ac Ellen Evans o Rhianfa. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1907 a gweithiodd gyda’i dad fel gwerthwr glo cyn ymuno â’r 8fed Bataliwn o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Anafwyd Corporal Evans tra’n ymladd ar y 26ain o Ionawr 1917 yn Mesopotamia a bu fawr o’i anafiadau ar y 19eg o Chwefror. Fe’i claddwyd ym mynwent ryfel Amara.

 

 

 

 

Robert Pritchard Evans

(1884-1917)

Ganed Robert Pritchard Evans yn 1884 ym Melin Llecheiddior, Garn Dolbenmaen, Sir Gaernarfon ac roedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru rhwng 1904 a 1907 gan raddio mewn Saesneg. Am gyfnod bu’n dysgu mewn ysgol yn Nhrefor ac yn ddiweddarach gwasanaethodd fel Ail is-gapten yn y 14eg Bataliwn Gwasanaeth [Service Battalion] o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.  Cafodd ei ladd yn Ffrainc ar yr 11eg o Ebrill 1917.

Roedd Robert Pritchard Evans yn gyfaill agos i’r bardd R. Williams Parry a ysgrifennodd cyfres o englynion er cof amdano.

 

 

[Ffynhonnell: North Wales Chronicle, 12fed Mawrth 1915]

 

 

C.P.G.C. Criw Rhwyfo, 1907

 

 

C.P.G.C. Grŵp Drama, 1907 (Oswald fel y Clown)

 

Oswald Griffith

(1888-1915)

Ganed Oswald Griffith ar y 12fed o Ionawr 1888 yn fab i Robert ac Annie Griffith o Fangor. Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars yn y ddinas gan ymuno â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn ddiweddarach, ac yno roedd yn aelod o’r Criw Rhwyfo, y Tim Rygbi, y Grwp Drama a’r Corfflu Hyfforddi Swyddogion [OTC]. Yn 1909 daeth yn Brifathro ysgol Harwick, Gloucester, ond dychwelodd i Ogledd Cymru i dderbyn swydd fel Athro Cynorthwyol yn Ysgol Genedlaethol Caernarfon. Ym Mai 1912 aeth i ddysgu i Ysgol y Cyngor yn Westborough Road yn Southend. Pan dorrodd y rhyfel cynigiodd ei wasanaeth a rhoddwyd comisiwn iddo fel Ail is-gapten gyda’r Magnelwyr Maes Brenhinol [Royal Field Artillery] a oedd yn perthyn i’r 12fed Adran o Fagnelwyr [12th Division Artillery]. Cafodd ei ladd yn Chwefror 1915.

Siaradodd yr Uwch-Gapten o’r Bateri yr oedd yn perthyn iddo am ei funudau olaf : “Tua 10.30 roedd yn y “dyg-out” gyda dau swyddog arall a dywedodd “Dwi’n meddwl yr a’i i gael rhywbeth i’w fwyta”. Cododd, ac rwy’n tybio iddo anghofio am funud i gadw ei ben i lawr, ac yntau yn ddyn tal, roedd ei ben a’i ysgwyddau am eiliad yn dangos uwchben y parapet, a dyma saethwr yn ei gael yn syth yng nghefn ei ben.”

Cynhaliwyd gwasanaeth coffa mawr i Griffith yn Eglwys Gadeiriol Bangor (roedd yn aelod o gôr y Gadeirlan)



 

Iorwerth Griffiths

(1896-1916)

Ganed Iorwerth Griffiths ar y 1af o Fehefin 1896 yn fab i Edward a Martha Griffiths o Ffordd Worcester, Bootle, Lerpwl. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dechnegol Bwrdeistref Bootle ac yn Ysgol y Sir, Llangefni, Môn. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1914 fel myfyriwr amaeth, wedi iddo dderbyn gwobr o £20, sef Ysgoloriaeth Mynediad Amaethyddol [Agricultural Exhibition Entrance Scholarship]. Roedd yn aelod o’r Corfflu Hyfforddi Swyddogion [OTC] cyn derbyn comisiwn fel Ail is-gapten yn y 7fed Bataliwn o Gatrawd Dwyrain Sir Gaerhirfryn. Fe’i lladdwyd ar y 5ed o Orffennaf 1916 yn ystod cyfnod olaf daliad La Boiselle.

 

 

John Griffiths

(1881-1916)

Ganed John Griffiths ar y 23ain o Awst 1881 yn fab i John a Jane Griffiths o Gaer. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1899, ac yno roedd yn Gapten ar Griw Rhwyfo’r Dynion (Gwyddoniaeth) ac yn aelod o’r Corfflu Hyfforddi Swyddogion [OTC]. Cafodd radd BSc yn 1902 ac yna gradd mewn Ymarfer Dysgu yn 1903 a arweiniodd at ei swydd fel athro gwyddoniaeth yng Ngholeg Cleobury Mortimer, Salop ac wedyn yn Ysgol Ramadeg Larne yn Sir  Antrim, Iwerddon.

Derbynniodd Griffiths gomisiwn gyda Gwirfoddolwyr Ulster ac roedd yn aelod o’r 12fed Bataliwn o’r Reifflwyr Brenhinol Gwyddelig [Royal Irish Rifles] gan groesi drosodd i Ffrainc yn 1915. Fe’i anafwyd ym Mehefin 1916 tra’n arwain ei ddynion ar ruthr fomio (cafodd ei longyfarch am y weithred hon). Fe’i lladdwyd ar faes y gad ar y 1af o Orffennaf 1916 yn y Somme.

 

[Ffynhonnell: Winchester College (winchestercollegeatwar.com)]

 

Kenneth Rees Habershon

(1889-1916)

Ganed Kenneth Rees Habershon ar yr 8fed o Orffennaf 1889, yr ail fab i Dr Samuel Herbert Habershon o Stryd Harley, London, ac ŵyr i Mrs R. Davies o Neuadd Treborth, Bangor. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Caer-wynt a Choleg Newydd, Rhydychen ac roedd wedi’i gofrestru fel myfyriwr yng Ngoleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1913. Aeth i Ganada ar ôl gadael y Coleg ac roedd yn ddyn busnes yn Winnipeg pan gychwynnodd y rhyfel. Dychwelodd adref gan ymuno â’r Frigâd Reiffl. Cafodd ddyrchafiad yn fuan ac yn Ionawr 1915 cafodd ei apwyntio’n Gapten gyda’r 12fed Bataliwn o’r Frigâd Reiffl. Disgynnodd yn Ypres ar y 12fed o Chwefror 1916. Roedd wedi mynnu mynd yn ei flaen o dan saethu trwm er mwyn cynorthwyo cymrawd ac fe’i tarwyd gan siel [shell].

 

[Ffynhonnell : North Wales Chronicle, 18fed Chwefror 1916]

 

 

George Tilston Haley

(1894-1921)

Ganed George Tilston Haley yng Ngorffennaf 1894 yn fab i George a Margaret Bentley Haley o Tŷ Tawel, Llanfaes, Ynys Môn. Roedd yn llwyddiannus yn yr ysgol, gan symud ymlaen o Ysgol Penmon i Ysgol Ramadeg Biwmares ac wedyn sicrhau lle iddo’i hun yng Ngoleg Prifysgol Gogledd Cymru i astudio am radd mewn gwyddoniaeth yn 1914. Yn 1915 rhoddodd y gorau i’w astudiaethau am gyfnod er mwyn ymuno â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, fodd bynnag, cyn iddo gwblhau ei hyfforddiant fe wirfoddolodd gyda’r Peiriannwyr Brenhinol [Royal Engineers] a chafodd ei anfon i’w hadran gemeg fel Corporal. Ar ôl iddo ymuno â chwrs hyfforddi swyddogion fe ymunodd â’r Catrawd Cymreig fel Ail is-gapten a gwasanaethodd yn y Somme yn 1916. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd yn dioddef o “trench fever” ac wedi cael ei anfon adref a’i ddatgan yn anaddas ar gyfer gwasanaethu fel milwr gweithredol. Fe’i hanfonwyd i’r meysydd hyfforddiant wedyn, yn gyntaf i Yarmouth ac yna Parc Kinmel (Bodelwyddan) lle’r oedd yn cynorthwyo i hyfforddi milwyr newydd. Roedd yn Gapten pan gafodd ei ddadfyddino ar ddiwrnod Nadolig 1918.

Ar ôl y rhyfel dychwelodd Haley i orffen ei radd mewn gwyddoniaeth yn y Brifysgol gan raddio yn 1920 a daeth yn athro gwyddoniaeth yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Yn anffodus, yn 1921, fe’i trechwyd gan yr haint a gafodd yn ystod y rhyfel a bu farw George yn ei gartref yn Llanfaes ar yr 21ain o Dachwedd 1921.

[Ffynhonnell: Ancestry, North Wales Western Front Association, Tillis Haley ]

 

 

William James Hardy

(1895-1916)

Ganed William James Hardy ar yr 8fed o Fehefin 1895, yn unig fab i Benjamin Tilsley Hardy a Phoebe Selina Hardy o Tŷ Hyfryd, Dinbych. Roedd yn ddisgybl disglair yn Ysgol y Sir, Dinbych ac yn cael ei ystyried â pharch gan y Prifathro a’r athrawon yno. Gan ei fod yn awyddus i fod yn beiriannydd trydanol, ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1914, ond torrwyd ar ei astudiaethau pan ymunodd â Chwmni “A” o’r 17eg Bataliwn o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Cafodd ei dderbyn i ysbyty yn Ffrainc gydag anafiadau ergyd gwn a dderbyniodd wrth ymladd mewn brwydr ar y 12fed o Orffennaf 1916 a bu farw’r diwrnod canlynol.

 

 

Alan Gordon Harper

(1889-1917) 

Ganed Alan Gordon Harper ar 5  Ionawr 1889, yn ail fab Peter Harper a'i wraig Catherine, o Bromley, Caint. Addysgwyd ef yng Ngholeg Dulwich a Choleg Magdalen, Rhydychen, lle roedd yn Demy. Cafodd radd anrhydedd mewn Botaneg ym 1912, a'r un flwyddyn daeth yn gynorthwywr i Dr R.W. Phillips, Athro Botaneg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Ymhen ychydig fisoedd, dychwelodd i Rydychen fel arddangosydd i'r Athro Somerville yn yr Ysgol Economi Wledig, lle cafodd Ddiploma mewn Amaethyddiaeth, gyda rhagoriaeth. Ym 1914, fe'i penodwyd yn Athro Botaneg yn y Presidency College, Madras, gan ddychwelyd i Lundain yn fuan ar ôl dechrau'r rhyfel lle cafodd gomisiwn yn y Royal Field Artillery (R.F.A.). Gwasanaethodd gyda'r Fyddin Ymgyrchol  yn Ffrainc a Fflandrys am ddeunaw mis, nes iddo gael ei anafu yn Longueval ar y Somme ym mis Gorffennaf 1916. Ar ôl gwella, dychwelodd i'r ffrynt fel rhan o'r Frigâd  187 yr R.F.A. Roedd yn gwasanaethu gyda'r uned hon pan gafodd ei ladd ar faes y gad yn Messines ar  1  Mehefin 1917 yn 28 oed.

 

Ffynhonnell: North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 15 Mehefin, 1917, De Ruvigny’s Roll of Honour, 1914-1919]

 

[Ffynhonnell: Dungannon War Dead Database]

Edgar Henry Harper

(1880-1916)

Ganed Edgar Henry Harper ar 4  Gorffennaf 1880, yn fab hynaf Henry M. ac Annie Harper o Northland Place, Dungannon. Fe'i haddysgwyd yn y Royal School, Dungannon o 1892 i 1899. Enillodd Wobr McCullagh a Gwobr yr Esgob Law yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, lle graddiodd yn 1902. Graddiodd hefyd ym Mhrifysgol Frenhinol Iwerddon, gan gael anrhydedd dosbarth cyntaf mewn mathemateg a ffiseg fathemategol yn yr arholiadau gradd BA a MA yn 1904 a 1905. Penodwyd Edgar yn ddarlithydd cynorthwyol mewn Mathemateg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru lle cymerodd ddiddordeb arbennig ym mathemateg hedfan. Fe'i penodwyd yn gynorthwywr i'r Athro George Hartley Bryan, a fu'n cynnal ymchwil debyg i sefydlogrwydd yr awyrennau cynnar. Gadawodd ym Medi 1914 i gymryd  swydd Athro Mathemateg ym Mhrifysgol Cork.

Pan ddechreuodd y rhyfel, gadawodd Edgar ei swydd yn Cork gan wirfoddoli i wasanaethu ei wlad. Ym mis Mai 1915, cafodd comisiwn gyda'r 7th Royal Munster Fusiliers, gan drosglwyddo'n ddiweddarach i 8fed Bataliwn y  South Staffordshire Regiment, lle cafodd ddyrchafiad yn Lefftenant.  Cymerodd y fataliwn ran ym Mrwydr y Somme ddechrau mis Gorffennaf 1916, lle cafodd ei ladd ar 10 Gorffennaf 1916 yn 36 oed.

[Ffynhonnell ychwanegol:  North Wales Chronicle, 21st July 1916; The Tyrone Courier, 20th July 1916; Dungannon War Dead Database]

 

 

 

Frederick Thomas (‘Tom’) Harris

(1890-1915)

Ganed Frederick Thomas Harris ar  11  Rhagfyr 1890 i Arthur a Margaret Harris o Bishops Castle, Sir Amwythig. Daeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1913 i astudio am radd mewn peirianneg. Matriciwleiddiodd yn haf 1914 cyn ymuno â'r Royal Field Artillery fel 2il Lefftenant.  Cafodd ei anafu mewn brwydr ar  10  Awst 1915, a bu farw ar  19  Medi y flwyddyn honno.

 

 

Hastings fel aelod o Griw Cychod y Dynion, 1904

 

Hastings yn addasiad y Grŵp Drama o Twelfth Night

 

George William Hastings

(1882-1917)

Ganed George William Hastings ar 2  Mehefin 1882, mab Charles ac Amelia Hastings o Wimbledon, Surrey. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1901, gan ennill Gwobr Powis a Gladstone, gan raddio gydag Anrhydedd Ail Ddosbarth yn Saesneg yn 1906. Tra yn y Brifysgol roedd yn aelod o'r Grŵp Drama a Chriw Cychod y Dynion.

 

Listiodd fel milwr cyffredin yng Nghatrawd Sir Fynwy ac yn ddiweddarach cafodd gomisiwn fel Ail Lefftenant yn 3edd Bataliwn Catrawd Sir Fynwy. Ar faes y gad fe'i trosglwyddwyd i 10fed Bataliwn Catrawd Sir Gaer. Bu farw ar 1 Awst 1917 ar ail ddiwrnod Trydedd Brwydr Ypres, yn ôl pob tebyg yn ystod yr ymosodiad ar Gefn Pilckem.

 

 

 

John Hughes

(1889-1917) 

Ganed John Hughes ar 12 Mai 1889, yn fab hynaf William ac Elizabeth Hughes, 106 Water Side, Aberffraw, Ynys Môn. Bu hefyd yn ŵr i Jane Ellen Hughes,  71 Stryd Bangor, Aberffraw. Daeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1908, gan ennill ei radd BSc yn 1913. Ychydig sy'n hysbys am ei fywyd ar ôl iddo raddio. Ymunodd John â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, 'D' Coy. Bataliwn 1af/6ed, a lladdwyd ef ar faes y gad ar 27 Mawrth 1917 yn 27 oed. Mae ei enw wedi'i gynnwys ar Gofeb Jerwsalem yn Israel.

 

 

John Edwyn Hughes

(1886-1916)

 

Ganed John Edwyn Hughes ar 8  Rhagfyr 1886, unig fab Edward a Mary Ann Hughes, Augusta Place, Y Felinheli.  Fe'i haddysgwyd yn Ysgol y Bwrdd  Y Felinheli, Ysgol Sir Caernarfon ac yna yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru lle graddiodd yn 1911 gyda BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Hanes. Roedd hefyd yn aelod o'r Corfflu Hyfforddi  Swyddogion tra yn y Coleg. Pan ymrestrodd, roedd yn gweithio fel athro yn Ysgol Ganol Llandudno, Trinity Avenue.  Ar ddechrau'r rhyfel, gwirfoddodd John i ymuno â 10fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig,  gan symud i fyny drwy'r rhengoedd o Is-gorpral i 2il Lefftenant.  Cafodd ei saethu drwy ei ysgwydd a'i glun wrth ymosod ar Lonely Trench ger Guillemont yn Ffrainc, a bu farw ar 19  Awst 1916 o'i glwyfau. Gadawodd John blentyn yn ogystal â gweddw, Sidney Ellen Hughes.

Fe'i cofir fel Edwin J Hughes ar Gofeb Ryfel Llandudno a Chapel Coffa, Eglwys y Drindod Sanctaidd, ac fel Lefftenant Edwin John Hughes ar Rôl Anrhydedd Llandudno.

[Ffynhonnellau ychwanegol : North Wales Chronicle, Awst 1916, Hughes (John) Edwyn, The Great War Project, Plwyf Llandudno Parish]

 

 

 

John Gwilym Hughes

(1881-1916)

Ganed John Gwilym Hughes ar  7  Mai 1881, unig fab John a Mary Hughes o Hazelwood, Bangor. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol St Paul, Ysgol Friars ac yna Coleg Prifysgol Gogledd Cymru lle enillodd radd BA. Nodwyd  ei fod yn un o'r myfyrwyr mwyaf poblogaidd - roedd yn aelod o'r Corfflu  Hyfforddi Swyddogion ac enillodd "liwiau" mewn pêl-droed a chriced.

 

Ar ôl graddio, dechreuodd yrfa fel athro, gan wasanaethu fel uwch athro yn Ysgol Sir Llanidloes, yng Nghanolbarth Cymru. Yn ddiweddarach daeth yn athro cynorthwyol yn ei hen ysgol, Friars ym Mangor. Tra yno chwaraeodd ran amlwg yn ymweliad Eisteddfod Genedlaethol Cymru â Bangor yn 1915. Roedd John yn aelod brwdfrydig o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llanidloes, yn ddiweddarach daeth yn ysgrifennydd cangen Bangor y gymdeithas ar ôl symud i Ysgol Friars.

 

Gadawodd Friars  pan dderbyniodd gomisiwn gyda'r 3/6ed Bataliwn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn hydref 1915. Cafodd ddyrchafiad yn  2il Lefftenant yn haf 1916, cyn gadael am y Ffrynt Gorllewinol ar 6 Medi. Cafodd ei ladd yn ddamweiniol ar 28 Hydref, yn 35 oed, a derbyniodd ei rieni'r newydd am ei farw ar 3 Tachwedd.

 

[Ffynhonnell ychwanegol : North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 10th November 1916; ‘In memory of John Gwilym Hughes,’ Historypoints.org]

 

 

Jennings yn yr Adran Amaethyddiaeth, 1904

 

[Ffynhonnell: llun - UK, De Ruvigny's Roll of Honour, 1914-1919]

 

 

Frederick Sinclair Wills Jennings

(1881-1915)

Ganed Frederick Sinclair Wills Jennings ar 11  Tachwedd 1881, mab hynaf Frederick Wills Jennings o Selborne Place, Hove. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol St. Paul's, Wren's a Phrifysgol Caeredin cyn dod i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru i astudio Amaethyddiaeth. Ar ôl gorffen y cwrs hwn, aeth i Ganada a chymryd tir yn British Columbia, ond pan ddechreuodd y rhyfel gwirfoddolodd i wasanaethu dramor gyda 23ain Bataliwn y West Rifles Mounted yn Calgary yn 1914. Ar ôl ei hyfforddi yn Quebec, daeth drosodd gyda Bataliwn Wrth Gefn y Fintai 1af i 1 Shornecliffe ym mis Mawrth 1915 ac aeth i'r Ffrynt ym mis Mai.  Cafodd ei saethu drwy ei ben gan sneiper tra oedd ar ddyletswydd yn y ffosydd ger Coed Bois de Ploegsteert, Gwlad Belg, ar 6  Gorffennaf 1915.

 

 

 

Robert Jervis

(1895-1916)

Ganed Robert Jervis ar 22  Rhagfyr 1895, yn fab i Thomas, prifathro Ysgol Glanogwen, ac Eliza Jervis o Dŷ'r Ysgol Gerlan, Bethesda. Cofrestrodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1913 i astudio am radd yn y celfyddydau a derbyniodd Wobr Robert Gee. Ar ddechrau'r rhyfel, ymunodd â'r 13eg Bataliwn (Bataliwn "Pals") y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig fel preifat, a chafodd ei ddyrchafu'n 2il Lefftenant ychydig cyn ei farwolaeth. Bu farw o glwyfau a gafodd yn ystod damwain fomio yn Ffrainc ar 20 Ionawr 1916.

 

[Ffynhonnell: North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 4 Chwefror 1916]

 

 

Albert Edward Jones

(1889-1916) 

Ganed Albert Edward Jones ar 21  Rhagfyr 1889, mab Thomas ac Elizabeth Jones o Fferm Glantraeth, Bodorgan, Ynys Môn. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1909 ac wedyn cynorthwyodd ar fferm y teulu cyn ymuno ag 16eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Llandudno yn ystod 1915 pan oedd yn 24 oed. Cymerodd y Fataliwn ran mewn ymladd ffyrnig yn Mametz, Ffrainc, lle cafodd Albert ei glwyfo a'i ladd ar 10 Gorffennaf 1916. Dadorchuddiwyd tabled coffa er cof amdano yn Eglwys Sant Beuno, Trefdraeth, ym mis Awst 1918.

 

 

[Ffynhonnell: Ancestry Member Tree: lillianaustin]

 

Cadwaladr Herbert Jones

(1891-1918)

Ganed Cadwaladr Herbert Jones ar 25 Ionawr 1891, mab William ac Elizabeth Jones, Graig Villas, Penygraig, Brymbo, Wrecsam.   Daeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1909, gan ennill Tystysgrif Hyfforddi Athrawon yn 1913, cyn ymuno â'r Royal Field Artillery (WAC). Cafodd yr 2il Lefftenant Cadwaladr ei anafu yn Ffrainc yn 1917 a bu mewn ysbyty am fisoedd.  Gwaetha'r modd, dirywiodd ei iechyd ac aed ag ef gartref i Frymbo lle bu farw ar 24  Medi 1918. Fe'i claddwyd ym mynwent y Santes Fair, Brymbo.

 

Cledwyn Owen Jones

(1880-1917)

Ganed Cledwyn Owen Jones ar 24  Medi 1880, mab hynaf John a Jane Jones o 352 Stryd Fawr, Bangor. Ar ôl mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1900 a chael ei radd, fe gymerodd swydd Ysgolfeistr Cynorthwyol yn Ysgol St. Paul, Bangor, ac ar ddechrau'r rhyfel fel Ysgolfeistr yn Llundain. Ymrestrodd ym mis Awst 1914 ym Mataliwn yr Ymerodraeth, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, cyn derbyn comisiwn yn y Gatrawd Gymreig. Bu farw ar  5  Mai 1917 yn Ysbyty'r Diciâu yn Llangefni, Ynys Môn.

 

 

 

Gwilym with the Royal Garrison Artillery.

 

Aelod o'r S.R.C.

 

 

Gwilym Arthur Tegid Jones

(1886-1917)

Ganwyd Gwilym Arthur Tegid Jones ym Mangor ar 16  Ebrill 1886, yn fab i Lewis Davies Jones o Edge Hill, Bangor, Ysgolfeistr (a adwaenid fel Llew Tegid, Arweinydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru), a'i wraig, Elizabeth. Fe'i haddysgwyd yn yr Ysgol Fwrdd leol, Ysgol Friars, Bangor ac yna yn Ysgol Sir Aberdâr cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru lle graddiodd yn BSc yn 1909. Ar ôl gadael y Coleg, daeth yn athro cynorthwyol yn The King Edward VII Boys' Grammar School, Chelmsford, ac oddi yno aeth i swydd yn Stourbridge Grammar School.  Pan ymunodd â'r fyddin yn 1915, roedd ar staff  dysgu Saffron Walden Grammar School. Daeth yn 2il Lefftenant yn y Royal Artillery Garrison (41st Battery) ac yn Lefftenant ar 6  Mehefin 1916, gan gymryd rhan yn yr ymgyrchoedd yn Vimy Ridge ar 9  Ebrill a Messines Ridge ar 7  Mehefin y flwyddyn ganlynol.  Fe'i lladdwyd ar faes y frwydr yn Ypres ar 23 Hydref 1917.

[Ffynhonnell: North Wales Chronicle, 9  Tachwedd 1917; UK, De Ruvigny’s Roll of Honour, 1914-1919;’ Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918]

 

 

[Ffynhonnell: The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford, 20  Gorffennaf 1916]

 

Harold Vivian Jones

(1893-1916)

Ganed Harold Vivian Jones ar 6  Mehefin 1893, mab Robert William Jones a'i wraig Agnes Annie Jones o The Pines, Llanfair-ym-Muallt. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Sir Llanfair-ym-Muallt, o ble y llwyddodd, yn 1911, i gael ei dderbyn yn fyfyriwr i'r  Brifysgol ym Mangor, lle cwblhaodd ei hyfforddiant ar gyfer gyrfa ysgolheigaidd. Fel myfyriwr ef oedd Capten Tîm Pêl-droed y Brifysgol,  a gartref roedd yn un o aelodau cyntaf C.L.B. Llanfair-ym-Muallt. Ar ddechrau'r rhyfel fe gafodd ef a'i frawd (Capten J. Gordon Jones) gomisiynau a daeth y ddau'n aelodau o 13eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Lladdwyd Lefftenant Jones ym mrwydr Coedwig Mametz ar 10  Gorffennaf 1916.

[Ffynhonnell: Brecon & Radnor express Carmarthen and Swansea Valley gazette and Brynmawr district advertiser, 20  Gorffennaf 1916]

 

 

John Owen Jones

(1895-1917)

Ganed John Owen Jones ar  3 Mehefin 1895 yng Nghemaes, Ynys Môn, i Thomas a Hannah Jones, yn ddiweddarach o Twnan Uchaf, Dolwen, Abergele. Fe'i haddysgwyd yn y Northern Institute Lerpwl ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1914, lle bu'n gwasanaethu gyda'r Corfflu Hyfforddi  Swyddogion. Ar ôl gwasanaethu gyda'r 2/9fed Kings Liverpool Regiment fel Uwch Ringyll derbyniodd gomisiwn fel 2il Lefftenant i 15fed Bataliwn y Gatrawd Gymreig, gan symud yn nes ymlaen i'r 16eg. Yn ddim ond 22 oed, cafodd ei ladd yn ystod cyrch ar ffos yn Boesinghe pan oedd yn gweithredu fel Capten Dros Dro yn arwain Cwmni ar  6  Mehefin 1917.

 

[Ffynhonnell ychwanegol: John, S. Carmarthen Pals: A History of the 15th (Service) Battalion, the Welsh Regiment, 1914-1919, 2009]

 

 

 

 

 

Llewelyn yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru

Jones, E., 2009, Rhostyllen and the First World War, ‘Llewelyn Penri Jones,’

 

Llywelyn Penri Jones

(1892-1918)

Ganed Llewelyn Penri Jones ar 8  Ebrill 1892 yn Nant, Coedpoeth, y pumed o saith o blant Daniel ac Anne Jones, Stryd Fawr, Rhostyllen, Wrecsam. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Elfennol Bersham ac yna'n ddiweddarach yn Ysgol  Sir Grove Park i Fechgyn.  Gadawodd yr ysgol yn 1914 fel Athro dan Hyfforddiant cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru fel myfyriwr diwinyddol. Tra oedd yn byw ac yn astudio ym Mangor, ymrestrodd i wasanaethu yn y rhyfel yn 1915

Ym mis Ionawr 1916, gadawodd y Brifysgol i hyfforddi yn Llandrindod a Sheffield er mwyn gwasanaethu yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin (Cwmni'r Myfyrwyr Cymreig). Hwyliodd o Southampton ar 10  Medi ar fwrdd yr H.S. Essequibo (Llong Ysbyty) am Salonica yng Ngwlad Groeg. Yn anffodus, effeithiodd afiechyd ar Llewelyn yn ystod ei yrfa fer gyda'r Cwmni ac ar 7  Tachwedd 1918 bu farw o niwmonia yn y 38 Ysbyty Cyffredinol, Salonica. Fe'i claddwyd ym Mynwent Brydeinig Mikra, Kalamaria. Roedd yn 26 oed.

 

[Ffynonellau Ychwanegol: : British Army WWI Service Records, 1914-1920, ‘Llewelyn Penri Jones,' Jones, E., 2009, Rhostyllen and the First World War, ‘Llewelyn Penri Jones,’]

 

                     

 

Diolch i 'Wynebau'r Milwyr a Gollwyd' https://www.rwfmuseum.org.uk/cym/faces-of-the-fallen/index.php

 

Owen Gwilym Jones

(1886-1917)

Ganed Owen Gwilym Jones ar 30  Ebrill 1886, yn fab i Capten a Mrs. Edward Jones o Mount Pleasant, Penrhyndeudraeth. Ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, bu'n athro cynorthwyol yn Ysgol Sir Caergybi, gan symud yn ddiweddarach i swydd debyg yn Ysgol Sir Ystalyfera, ac wedyn i Ysgol Sir Tredegar. Gadawodd y swydd honno i ymuno â'r lluoedd arfog.  Rhoddwyd comisiwn iddo yn 3/7ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig fel 2il Lefftenant. Wrth arwain ei blatŵn yn ystod ymosodiad ar  26 Mawrth 1917 yn yr Aifft, cafodd ei ladd ar faes y gad.

Mae'n cael ei goffáu ar y cofebau canlynol: Plac Coffa Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Prif Adeilad y Celfyddydau; Cofeb Ryfel Ysgol Sir Ystalyfera; y gofeb sydd yn Ysgol Gyfun Tredegar; y gofeb yn swyddfeydd newydd Cyngor Sir Fynwy (a gysegrwyd i athrawon Ysgolion Canolradd Sir Fynwy a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf); a chofeb tref Tredegar.

[Ffynonellau Ychwanegol: North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 5  Ebrill 1917 a 27  Ebrill 1917, Blaenau Gwent in the First World War, ‘Owen Gwilym Jones,’ Owen Gwilym Jones]

 

 

 

[Ffynhonnell Ychwanegol: Swyddog o'r Bontnewydd wedi ei ladd, 'Yr Herald Gymraeg,' 31 Hydref 1916]

 

Richard Jones

(1888-1916)

Ganed Richard Jones ar 25 Mehefin 1888 i John R. a Jane Jones o Deras Glanyrafon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1906 ac ar ôl graddio fe'i penodwyd yn feistr cynorthwyol yn Ysgol Sir Bontnewydd ym 1908. Pan dorrodd y rhyfel, ymrestrodd Richard gyda thrydedd Fataliwn ar ddeg y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig - un o'r athrawon cyntaf yn Sir Gaernarfon i wneud hynny. Cychwynnodd y Bataliwn am Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915 lle cafodd ei wneud yn Lefftenant, oherwydd ei ddewrder ar faes y gad. Tua thair wythnos cyn ei farwolaeth, trosglwyddodd i'r '2nd South Lancashires'. Fe'i lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 21ain Hydref 1916.

 

[Ffynhonnell llun: Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918]

Richard Jones

(1877-1917)

Ganed Richard Jones ar 3 Gorffennaf 1877 i Edward ac Ellen Jones o Lôn Glan y Môr, Bangor. Cyn iddo ymrestru'n wirfoddol gyda'r Llynges ym mis Tachwedd 1916 bu'n bysgotwr yn ogystal ag yn ofalwr ar long ysbyty Awdurdod Iechydol Porthladd Biwmares a chychod rhwyfo'r Brifysgol. Ym 1913 dyfarnwyd iddo Fedal Efydd y Royal Humane Society am achub bywyd ar y môr.


Roedd ar fwrdd yr HM Drifter Deliverer fel Decmon gyda'r Llynges Frenhinol Wrth Gefn pan darodd hi ffrwydryn a suddo ym Môr Iwerddon ger Goleudy Bailey, Howth, Swydd Dulyn, gan golli pawb oedd ar ei bwrdd. Mae ei Gofnod Gwasanaeth yn cofnodi’n swyddogol y tybir iddo golli ei fywyd gan na ddaethpwyd o hyd i'w gorff.


Gadawodd weddw, Elizabeth, ac 8 o blant.

 

 

 

Fel Llywydd Cyngor Cynrychiolwyr y Myfyrwyr

 

Rhys Harris Jones

(1886-1918)

Ganed Rhys Harris Jones ar 31 Gorffennaf 1886 yn Battersea, Llundain, i Evan ac Adeline Jones o Bwllheli, yn wreiddiol o Rymni. Aeth Jones i'r Coleg ym 1905 gydag ysgoloriaeth fynediad o £40, ac yn ddiweddarach dyfarnwyd ysgoloriaeth iddo ar gyfer yr ail gwrs hyfforddi yn 1909. Cafodd anrhydedd ail ddosbarth yn y Saesneg yn 1908 ac anrhydedd dosbarth ail mewn hanes yn 1909. Tra'r oedd yn y Coleg bu'n llywydd Cyngor Cynrychiolwyr y Myfyrwyr. Ar ôl graddio, penodwyd ef i swydd yn Ysgol Uwchradd Small Heath yn Birmingham, gan symud yn ddiweddarach i swydd yn Pitcombe, Gwlad yr Haf. Derbyniodd Gomisiwn fel Is-Lefftenant gyda'r 'South Wales Borderers' ym mis Hydref 1914, wedi'i leoli yn Tidworth ger Salisbury. Fe'i lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 8 Hydref 1918.

 

 

 

Thomas fel aelod o'r Tîm Criced yn y Coleg

 

Thomas Elwyn Jones

(1889-1916)

Ganed Thomas Elwyn Jones ar 14 Hydref 1889 i Samuel Thomas Jones, Gweinidog Calfinaidd, a'i wraig Mary, o'r Rhyl. Ar ôl gadael yr ysgol derbyniwyd Thomas i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1908 lle cafodd radd Dosbarth Cyntaf mewn Mathemateg. Roedd hefyd yn hoff iawn o chwaraeon yn y Coleg, lle bu'n aelod o'r timau criced, pêl-droed a thenis. Penodwyd Thomas yn Uwch Feistr Mathemateg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin ym 1912, ac wedyn symudodd i Greenwich ym mis Gorffennaf 1914 i astudio yn y Royal Naval College. Ym mis Rhagfyr 1916, ymunodd â chriw'r HMS Defence, ac un o'i ddyletswyddau oedd addysgu Mathemateg a Ffiseg i ganol-longwyr y llong. Ar 31 Mai 1916, cymerodd yr HMS Defence ran ym mrwydr forwrol fwyaf y rhyfel, Brwydr Jutland, a ddigwyddodd oddi ar arfordir Môr y Gogledd o Benrhyn Jutland Denmarc. Gan hebrwng prif gorff y Llynges Fawr, saethodd criwser rhyfel Almaenig y llong a chafodd pedwar Dreadnought eu suddo. Roedd Thomas yn un o'r 903 o ddynion ar fwrdd y llong a gollodd eu bywydau'r diwrnod hwnnw. Nid oedd unrhyw oroeswyr.

 

Thomas John Jones

(1891-1917)

Ganed Thomas John Jones ar 10 Ionawr 1891 yn fab i Thomas Jones o Benrhoslligwy, Amlwch. Mynychodd Ysgol Tynygongl cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1912, gan adael ym 1916 i ymuno â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Fe'i lladdwyd ar faes y gad ym mis Awst 1917.

 

 

Fel Trysorydd Tîm Pêl-droed y Coleg, 1913-1914

 

Thomas John Jones

(1889-1918)

Ganed Thomas John Jones ar 9 Medi 1889, yn fab ieuengaf y Parch. Evan Jones, Gweinidog Annibynnol, Llanbedrog. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1910, lle'r adnabuwyd ef fel "Llan," ac roedd yn Drysorydd tîm y Pêl-droed y Coleg cyn i'w enw gael ei gofnodi yn y gazette ym mis Awst 1914, gan gael ei gomisiwn yn yr un mis. Aeth allan gyda'r 122nd Brigade Royal Field Artillery "A" Bty. (Welsh) ym mis Rhagfyr 1915, ac aeth trwy'r ymladd ar y ffrynt yn y Somme yn ystod 1916 ac ymosodiad 1917, a chafodd ei anafu yn ystod Awst yr un flwyddyn. Gollyngwyd Thomas yn wael o'r fyddin am adref, ond aeth allan eto ym mis Rhagfyr. Cafodd ddyrchafiad ddwywaith, yn gyntaf yn Lefftenant ac yna'n Gapten gweithredol, a derbyniodd y Groes Filwrol am ddewrder eithriadol ac ymlyniad wrth ddyletswydd. Fe'i lladdwyd mewn brwydr yng Ngwlad Belg ar 22 Ebrill 1918 yn 28 mlwydd oed.

[Ffynhonnell Ychwanegol: ‘Captain Thomas John Jones Killed,’ Cambrian news and Merionethshire Standard, 10 Mai 1918]

 

 

T.S. Jones, Lieutenant, Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

Ni ellir dod o hyd i unrhyw wybodaeth yn ymwneud â'r unigolyn hwn. Nid oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, felly efallai y bu'n aelod o staff.

 

 

Ffotograff drwy garedigrwydd Gwyn Jones

 

The Rev. William Evans Jones

(1894-1918)

Roedd y Parch. William Evans Jones yn fab i Eliza Evans Jones a David Jones o'r Felinheli.  Gwasanaethodd gyntaf fel Preifat gydag 16ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ond ar ôl cael ei anafu (fe'i saethwyd yn ei law dde) cafodd ei ryddhau o'r fyddin ym mis Mai 1916 ac ailafaelodd yn ei ddyletswyddau yng Ngholeg Bangor fel myfyriwr diwinyddol.  Ordeiniwyd William yn Eglwys Caersalem yng Nghaernarfon ym 1917, yn syth o'r Coleg, ac yna aeth i  wasanaethu fel Caplan, yn gysylltiedig ag 2il Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (Adran Caplaniaid y Fyddin). Dywedodd ei Gyrnol ei fod wedi mynd allan gydag un o'r unedau yn ystod ymosodiad ar 8  Hydref 1918, ac fe'i lladdwyd wrth roi gofal i'r rhai a anafwyd yn ystod y frwydr.  Roedd yn 24 mlwydd oed.

Mae'n cael ei goffáu hefyd ar Gofeb Y Felinheli.

Roedd y bardd a’r dramodydd Cymraeg Albert Evans-Jones (Cynan) hefyd yng Nghwmni Myfyrwyr Cymreig Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, yn gwasanaethu fel caplan milwrol y cwmni.

[Ffynhonnell Ychwanegol: ‘Did Chaplains have to do training?’ Great War Forum, https://www.greatwarforum.org/topic/85141-did-chaplains-have-to-do-training/ [Cyrchwyd Medi 2018]

 

 

 

William Thomas (‘Pennant’) Jones

(1892-1917)

Ganed William Thomas Jones ar 4 Gorffennaf 1892, yn fab i John a Margaret Jones o Fferm Pennant, Dinbych. Cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1912, lle cafodd ei Dystysgrif Coleg mewn Hyfforddiant Athrawon, roedd yn Athro Ysgol a gyflogwyd gan Awdurdod Addysg Sir Ddinbych. Ar ôl graddio, daeth yn Feistr Cynorthwyol yn yr ysgol gynradd yn Abergele. Yn ôl ei Gofnod Gwasanaeth y Fyddin, ymunodd ag unfed Bataliwn ar hugain y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig fel Preifat ym Mharc Cinmel ar 7 Chwefror 1916, gan drosglwyddo i'r 3ydd Bataliwn ar 28 Awst ac yna'n ddiweddarach yr Ail Fataliwn yn yr un flwyddyn. Ar 25 Hydref cafodd ei anafu a gadawodd am Southampton o Rouen, gan ymuno â phrif wersyll milwyr traed rhif 5. Bu iddo wella'n fuan ac fe'i hanfonwyd yn ôl i'r Bataliwn. Cafodd William ('Willie') ei anafu ar faes y gad ar 23 Ebrill 1917, gan farw'n ddiweddarach o'i anafiadau ar y 27ain.

 

 

Joseph Richard Joseph

(1890-1918)

Ganed Joseph Richard Joseph yn yr Unol Daleithiau ar 2  Awst 1890, yn fab i Edward Joseph, Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg, a'i wraig Catherine (Kate). Roedd y teulu'n byw yn Garn Dolbenmaen pan aeth Joseph i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1908, gan ennill ei radd BA mewn Hanes a Saesneg yn 1912. O 1912 i 1913 bu'n astudio yn yr Almaen, gan ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig i gymryd swydd athro ysgol mewn Hanes yn Farnham. Ymunodd â'r London Regiment County of London Artist's Rifles Battalion fel Is-gorpral yn ystod misoedd cynnar y rhyfel, ac fe'i clwyfwyd yn ystod brwydr ffyrnig yn Ffrainc. Bu farw o'i glwyfau ar 25 Mawrth 1918.

 

 

Thomas Reginald (‘Reggie’) Knowles

(1891-1916)

Ganed Thomas Reginald Knowles ar 21 Chwefror 1891 yn fab i David a Margaret Knowles o Vale Street, Dinbych, ac yna Arfryn, Park Street. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1908, gan ennill ei radd BA yn 1911 cyn dilyn gyrfa yn y gyfraith drwy ddarllen ar gyfer arholiadau Cymdeithas y Gyfraith ym 1912. Yn fuan fe ddaeth yn gyfreithiwr a chyflawnodd ei erthyglau gyda Mr A.O. Evans. Dechreuodd ei yrfa filwrol ym mis Tachwedd 1915 fel Preifat yn y Gwasanaeth Cyffredinol. Fe'i hanfonwyd wedyn i unfed Bataliwn ar hugain y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym mis Ionawr 1916 ym Mharc Cinmel. Cafodd ddyrchafiad yn Is-Gorpral ym mis Gorffennaf 1916 cyn iddo deithio dramor, lle anfonwyd ef at ddegfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Fe'i lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 13 Tachwedd 1916, yn 25 oed. Mae Thomas hefyd yn cael ei goffáu ar Gofeb Rhyfel Dinbych.

 

Arthur Moore Lascelles

(1880-1918)

Ganwyd Arthur Moore Lascelles ar 12 Hydref 1880, yn fab i John Lascelles, Penmaen Dyfi, Machynlleth, a Mary Elizabeth Lascelles. Cafodd ei addysg yn Ysgol Malvern ac Ysgol Uppingham, Rutland, cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru fel myfyriwr amaethyddol yn 1899, gan adael Bangor i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caeredin. Gadawodd ei astudiaethau ac ymfudodd i Dde Affrica lle dechreuodd ei yrfa filwrol ym 1909 gyda'r Cape Mounted Rifles. Erbyn Hydref 1915, ac yntau'n Ddirprwy Swyddog Cyflenwi, roedd wedi penderfynu dychwelyd i Loegr a chaniatawyd iddo gael ei ryddhau o'i uned. Yn Lloegr fe'i comisiynwyd fel Is-lefftenant yn 3ydd Bataliwn Durham Light Infantry, gan ddod yn rhan o'r pedwerydd Bataliwn ar ddeg (Gwasanaeth) yn ddiweddarach. Cafodd ei anafu am y tro cyntaf yn y Somme ym mis Medi 1916. Ar 15 Mehefin 1917, derbyniodd Arthur y Groes Filwrol am "ddewrder, dycnwch a menter neilltuol." Ar 23 Mawrth, cyflwynodd y Brenin Siôr Groes Victoria iddo am ei ymladd ym mis Rhagfyr 1917 yn ystod Brwydr Cambria, lle llwyddodd i ddal y gelyn yn ei ôl, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi cael ei anafu yn ystod bomio trwm. Pan gafodd ran o'i ffos ei gipio, aeth i ben y clawdd gyda'i wŷr oedd yn weddill a gyrru 60 o'r gelyn yn ôl. Cipiwyd ei ffos eto, ond llwyddodd i ddianc, er iddo gael rhagor o anafiadau. Er iddo anafu ei fraich dde gryn dipyn, dychwelodd i wasanaeth gweithredol ac ymunodd â'r 15fed Bataliwn (Gwasanaeth) yn Ffrainc. Lladdwyd Lascelles ar faes y gad yn Limont-Fontaine, Ffrainc, ar 7fed Tachwedd 1918.

 

 

Robert Lewis

(1886-1916)

Ganed Robert Lewis ym 1886 yn fab i John Lewis o Gaergybi. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1905 a chymhwyso fel athro ar ôl derbyn gradd BA, a derbyniodd swydd yn Ysgol Genedlaethol Sirol Eglwys Loegr, Caergybi. Listiodd Robert fel Preifat gydag unfed 16 Bataliwn ar bymtheg y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ar ôl ymuno â'r 13eg Bataliwn cynt (ffurfiwyd yr 16eg Bataliwn yn Llandudno ym mis Tachwedd 1914 o'r rhai oedd yn weddill a gafodd eu recriwtio i'r 13eg Bataliwn). Cyrhaeddodd y Bataliwn Ffrainc gyda Bataliwn 38 (Cymreig) ym mis Rhagfyr 1915 ac ym mis Gorffennaf 1916 roeddent wedi eu lleoli ar y Somme. Cymerodd yr Adran y llinell drosodd o dan goedwig Mametz ar 6 Gorffennaf ac yma, ar 11 Gorffennaf, y cafodd Robert ei ladd mewn brwydr. Roedd yn 30 mlwydd oed.

 

 

 

Edward Leopold Milner-Barry

(1867-1917)

Ganed Edward Leopold Milner-Barry yn Scothorne, Swydd Lincoln, ar 13 Ionawr 1867, i Edward Milner-Barry, Ficer Scothorne, a'i wraig, Adelaide. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgolion Caergrawnt, Berlin a Kiel, ac roedd yn ysgolhaig yng Ngholeg Caius, Caergrawnt, lle bu'n astudio Ieithoedd Modern a Chanoloesol.  O 1891 i 1907 bu'n un o brif feistri ieithoedd modern Mill Hill, ac am flynyddoedd lawer bu'n arholwr Almaeneg i Brifysgolion Caergrawnt a Llundain, a hefyd ym 1914 i Brifysgolion Rhydychen a Leeds. Ym 1907 fe'i penodwyd yn ddarlithydd Almaeneg yng Ngholeg Birkbeck a chafodd ei gydnabod fel athro mewn Almaeneg ym Mhrifysgol Llundain. Yn 1909 penodwyd ef yn ddarlithydd Almaeneg ac Ieitheg Tiwtonig yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, swydd y penderfynodd y Senedd ei dyrchafu i statws Athro yn sgil ei gyraeddiadau uchel. Roedd yn byw ym Mhlas Lodwig, Bangor, gyda'i wraig, Edith Mary, pan gafodd ei dderbyn gan y Morlys fel cyfieithydd ym mis Medi 1914, gan gymryd rheng dros dro fel Lefftenant, Royal Naval Volunteer Reserve (RNVR). Yn ystod ei absenoldeb o'th waith gyda'r Brifysgol, bu i'w ferch, Alda Milner-Barry, gamu i mewn i gynorthwyo gyda'i ddosbarthiadau. Roedd yr Athro Milner-Barry yn ddinesydd poblogaidd ym Mangor, oherwydd iddo gymryd rhan weithgar mewn sefydliadau lleol a chymdeithasau poblogaidd a ddaeth ag ef i gysylltiad ag adran fwy o'r cyhoedd na phe bai wedi cyfyngu ei hun i gylchoedd addysgol yn unig. Bu'n gadeirydd Corff Llywodraethu Lleol Bangor am gryn amser ac roedd ganddo ddiddordeb gwirioneddol yng ngwaith Ysgol Friars a'r Ysgol Sirol i Ferched. Ac yntau'n mwynhau golffio'n fawr, roedd yn gapten Clwb Aur Bangor am gyfnod. Bu farw o fethiant y galon ar y 7 Mai 1917 yn Ysbyty Grimsby a'r Cylch.

[Ffynhonnell ychwanegol: 'Obituary: Lieutenant-Commander E.L. Milner-Barry,’ North Wales Chronicle, 18th May 1917]

 

 

Robert Williams Morris

(1895-1917)

Ganed Robert Williams Morris yn Lerpwl ar 12 Awst 1895, i Gapten Robert Williams Morris yr hynaf, capten llong, a Margaret Morris (Williams gynt). Cafodd Robert a'i frawd eu magu yn Singapore, ond fe'u hanfonwyd yn ôl i Gymru i aros gyda'u Modryb a'u Hewythr Williams ym Metws y Coed i ymestyn eu haddysg. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1913, a listiodd ym 1915 gyda'r Inns of Court Officer Training Corps, gan drosglwyddo (heb gomisiwn) i 14th (Service) Battalion of the Hampshire Regiment ym mis Gorffennaf 1916. Roeddent yn rhan o Frigâd 116, Adran 39, a bu iddynt lanio yn Le Havre ar 6 Mawrth 1916. Lladdwyd Robert ar faes y gad yn Ffrainc ar 26 Medi 1917, yn 22 mlwydd oed. Caiff ei gofio ar gofeb rhyfel Betws y Coed, senotaff Singapore a chofeb Tyne Cot.

 

 

Ffotograff drwy garedigrwydd Mary Southwell, Awstralia

 

Alfred Stanhope O’Dwyer

(1897-1916)

Ganed Alfred Stanhope O'Dwyer ar 1 Gorffennaf 1897 yn Cheadle Hulme yn fab i Stanhope a Maud O'Dwyer, yn ddiweddarach o Bramhall, Swydd Gaer. Addysgwyd Alfred yn Ysgol Ramadeg Macclesfiled a Manceinion ac yna ysgol yn Sandbach. Tra'r oedd yn Sandbach, enillodd ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Ymunodd â Chorfflu Hyfforddi'r Swyddogion yn 1915 ac fe'i comisiynwyd fel  Is-lefftenant ar 26 Gorffennaf 1915 gyda 12fed Bataliwn (Milwyr wrth gefn) y Royal Warwickshire Regiment (dywed ei gofnod Cofrestr Myfyrwyr 12th Battalion, ond mae ei gofnodion Milwrol yn nodi 14th Battalion). Lladdwyd Alfred ar faes y gad yn 19 oed ar 30 Gorffennaf 1916. Mae wedi'i goffáu ar Gofeb Thiepval, Somme, Ffrainc.

 

 

Harold Oughtred

(1877-1917)

Ganed Harold Oughtred yn Hartlepool ar 15 Medi 1877 i John a Marianne Oughtred, 'River View,' Hessle, a Kettley Thorpe, Brigg, Swydd Lincoln. Daeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1894 i astudio gradd yn y Clasuron, a chafodd MA yn Rhydychen a Llundain yn ddiweddarach. Daeth Harold yn gynorthwyydd mewn nifer o ysgolion gramadeg cyn ymuno â chatrawd Dwyrain Swydd Efrog (4ydd Bataliwn, Tiriogaethwyr). Fe'i lladdwyd mewn brwydr ar 23 Ebrill 1917 yn Ffrainc, yn 39 mlwydd oed. Mae ei enw wedi'i gofnodi ar Restr y Gwroniaid Hessle, All Saints Parish Church.

 

 

Evan Richard Owen

(1891-1917)

Ganed Evan Richard Owen ar 7 Ionawr 1891 yn fab i Richard William Owen a Jane Owen o Fferam Paradwys, Bodorgan, Ynys Môn. Daeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1907, gan ddychwelyd i Bodorgan yn fuan ar ôl ennill ei radd i gynorthwyo ar fferm y teulu. Listiodd Evan gyda Brigâd 86 y Royal Field Artillery, gan gyrraedd rheng Uwchgapten cyn iddo gael ei ladd mewn brwydr ar 28 Ebrill 1917 yn Ffrainc. Fe'i cofir ar Gofeb Rhyfel Llangristiolus.

 

 

Evan Rogers Owen

(1883-1915)

Ganed Evan Rogers Owen yn 1883 i William a Catherine Owen o 'Llys Dorfil', Blaenau Ffestiniog. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1909 i astudio cwrs mewn coedwigaeth ac amaethyddiaeth, gan gymhwyso yn y ddau bwnc. Cafodd waith ar ei union gan y Llywodraeth fel Uwch Arolygydd Cynorthwyol Amaethyddiaeth yn Ne Nigeria. Bu'n gweithio yno am dair blynedd ac roedd yn dychwelyd i Nigeria ar fwrdd yr  S.S. Falaba pan drawyd y llong gan dorpido o un o longau tanfor yr Almaen ar y 27ain o Fawrth 1915. Roedd Evan yn un o 104 o deithwyr a gollodd eu bywydau.

[Ffynhonnell Ychwanegol: Cambrian news and Merionethshire standard, 9 Ebrill 1915]

 

 

 

Vernon Elias Owen

(1893-1915)

Ganed Vernon Elias Owen ar 20 Medi 1893, yn unig fab y Parch. T.E. Owen, M.A., Ficer Aberdaron a'i wraig Eleanor. Mynychodd Ysgol Friar's, Bangor ac aeth ymlaen i astudio Diwinyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1913, lle bu'n aelod o Dîm Pêl-droed y Coleg (a'u Capten ar un adeg) a'r Tîm Criced. Roedd Vernon hefyd yn aelod o Gorfflu Hyfforddi Swyddogion y Brifysgol a listiodd fel Preifat ar 10 Hydref 1914 tra'r oedd yn y sefydliad. Listiodd fel Is-lefftenant dros dro gyda 9fed Bataliwn (Gwasanaeth) y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ar 10 Tachwedd 1915 anafwyd Vernon pan darodd bwled ei glun, gan chwalu ei asgwrn, ac fe'i trosglwyddwyd i Ysbyty Croes Goch Rhif 1 yn Le Touquet, Ffrainc. Ar 29 Tachwedd, dywedwyd wrth ei deulu ei fod wedi marw o waedlif eilaidd yn dilyn clwyf y ffrwydron. Fe'i claddwyd ym Mynwent Ffordd Camiers, Etaples.

[Ffynhonnell Ychwanegol: 'James Owen o Benrhos a'i Ddisgynyddion: Vernon Elias' James Owen of Penrhos and his Descendants]

 

 

John William Parry

(1880-1915)

Ganed John William Parry yn Llanberis ar y 29ain o Fai 1880 yn fab i Charlotte a William Parry, Maes Llwyn, Stryd Newton. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Brynrefail ac yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru (ymunodd yn 1898) cyn mynd yn athro cynorthwyol mewn Ffrangeg mewn Ysgol Ramadeg yn Richmond, Surrey. Fel preswylydd yn Gunnersby, Llundain, ymunodd â’r 1/23ain Bataliwn (swydd Llundain), Catrawd Llundain, yn gwasanaethu fel cyfieithydd a negesydd. Cafodd ei daro gan saethwr a bu farw o’i anafiadau ar y 16eg o Dachwedd 1915 yn 35 mlwydd oed.

 

 

[Ffynhonnell llun: John Prestidge]

 

John Vernon Fitzgerald Prestidge

(1894-1917)

Ganed John Vernon Fitzgerald Prestidge ar y 9fed o Ionawr 1894, yn unig fab i Mr a Mrs Frank Prestidge, Parc Fictoria, Bangor (yn ddiweddarach 10 Augusta Street, Llandudno), ac yn ŵyr i'r diweddar Mr W O'Brien Fitzgerald, Bangor. Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars cyn mynd yn brentis yn ddiweddarach gyda Mr Meacher, arwerthwr a gwerthwr tai ym Mhenmaenmawr a Chonwy. Ar 15 Medi 1914 ymunodd â'r Public Schools Boys Battalion ac aeth i Epsom, lle cafodd ei ddewis i fynd i Sandhurst yr un flwyddyn.  Yng ngwanwyn 1915 ymunodd â'r First Suffolk Regiment ac aeth ar ei union i Salonika ac i'r ffin ym Mwlgaria, lle cafodd ei glwyfo. Ar ôl gwella aeth allan i Ffrainc ac roedd ym mrwydr gyntaf Loos (lle cafodd ei ddyrchafu'n Lefftenant am ei ddewrder ar faes y gad), ac ym mrwydrau'r Somme, Ovillers, Posieres a Fleurs. Fe'i gwnaed yn Gapten dros dro yn 1916-17 ond cafodd ei glwyfo drachefn, y tro hwn yn ei law a'i fraich, a dioddefodd yn ddrwg mewn ymosodiad nwy hefyd. Ar ôl dod ato ei hun cafodd ddyletswydd ysgafn mewn canolfan hyfforddi yn Lloegr, ond dychwelodd unwaith yn rhagor i Ffrainc. Adroddwyd ei fod ar goll ac wedi ei anafu yn Arras ar 28 Ebrill 1917. Cafodd ei gludo i orsaf glirio ddeuddydd yn ddiweddarach, yn wan iawn, a bu farw o'i anafiadau ar 2 Mai 1917, yn 23 oed. Cafodd ei gladdu ym mynwent gymunedol Aubigny, Pas de Calais.

[Ffynhonnell ychwanegol: ‘Cofeb y Dewrion’ http://www.bangorcivicsociety.org.uk/pages/hisso/cofeb/sc129.htm, North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, Friday 11th May 1917, Commonwealth War Graves Commission https://www.cwgc.org/find-war-dead/casualty/996217/PRESTIDGE,%20JOHN%20VERNON%20FITZGERALD]

 

 

 

Casgliad UCNW

 

Diolch i 'Wynebau'r Milwyr a Gollwyd' https://www.rwfmuseum.org.uk/cym/faces-of-the-fallen/index.php

 

Rhys Morris Prichard

(1891-1916)

Ganed Rhys Morris Prichard ar yr 31ain o Orffennaf 1891 yn fab i Rees a Mary Elizabeth Prichard, Leeds House, Chwilog. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1912 gan ennill gradd BA mewn Cymraeg yn 1915. Cofrestrodd â’r fyddin fis Rhagfyr 1915 gan ymuno â’r 21ain Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Chwefror 1916 ym Mharc Kinmel, ac fe’i trosglwyddwyd i’r 16eg Bataliwn yn ddiweddarach. Cafodd ei ladd ar faes y gad ar y 29ain o Awst 1916.

 

 

Harry Pritchard

(1894-1924)

Ganed Harry Pritchard ar y 24ain o Fai 1894. Mab hynaf William H. Pritchard a Margaret Ann Pritchard o Stryd King, Cefn. Roedd yn aelod o staff dysgu Ysgol y Sir, Cefn Mawr ac yn paratoi ar gyfer gyrfa sgolastig yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1914 pan ymunodd â’r fyddin. Cofrestrodd ym Medi 1917 yn Shotton, a chafodd gomisiwn gyda’r 12fed Bataliwn o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Rhoddwyd y Groes Filwrol iddo yn Ionawr 1917 (fel Ail Is-Gapten dros dro) am ddewrder amlwg ar faes y gad. Pan anafwyd ei ddynion i gyd arhosodd gyda Siarsiant a oedd wedi’i anafu yn ddrwg gan ddal ei safle. Ar achlysur arall, arweiniodd batrôl ymosodol gan fomio gweithgor o’r gelyn. Mae Cofrestr Myfyrwyr y Brifysgol yn cofnodi iddo farw ym Medi 1924.

 

 

[Ffynhonnell llun: Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918]

 

John Pritchard

(1893-1917)

Ganed John Pritchard ar 28  Medi 1893. Collodd ef a'i chwaer Grace eu rhieni yn ifanc iawn - cafodd Grace ei magu gan ei modryb a'i hewythr yn Ffordd Friars, Bangor, tra magwyd John gan ei daid a'i nain ym Methesda. Ar ôl cwblhau ei gwrs  hyfforddiant athrawon, daeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1913. Ym mis Ebrill 1915 ymunodd â'r 13eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Cafodd hyfforddiant yn Llandudno a Winchester cyn ei anfon i Ffrainc lle cafodd ei ddyrchafu'n Lefftenant.  Cafodd ei anafu'n ddifrifol a'i anfon i ysbyty ym Mharis am driniaeth. Fe'i hanfonwyd yn ôl i faes y gad lle cafodd ei glwyfo am yr ail dro. Ar ôl gwella eto fe'i hanfonwyd yn ôl i'r brwydro am y trydedd tro, lle cafodd ei glwyfo'n angeuol yn Awst 1917 pan oedd yn 23 oed. Fe'i claddwyd yn Mynwent "Bard College", Boesinge, Ffrainc.

 

James Thomas Richards

(1893-1916)

Ganed James Thomas Richards ar y 19eg o Fai 1893 yn  Aberpennar yn fab i Robert ac Elizabeth Richards. Roedd yn fachgen ifanc pan fu farw ei dad ac o ganlyniad roedd ef, ei frodyr a’i chwiorydd a’i fam yn byw gyda’u nain yn Nheras  Granville. Priododd James â Jane ac roeddynt yn byw yn 22 Stryd Little Wind, Aberdâr. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1913 cyn cofrestru gyda’r 180 Brigâd o’r Magnelwyr Maes Brenhinol gan ennill ei

le fel Capten. Bu farw o’r anafiadau a ddioddefodd yn ystod Brwydr y Somme.

 

 

Richard Waite Richardson

(1881-1916)

Ganed Richard Waite Richardson ar yr 11eg o Dachwedd 1881. Mab hynaf George ac E.E. Richardson o Kingston Upon Hull, Swydd Efrog. Roedd yn Sgolor y Frenhines ac ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1901. Wedi iddo raddio derbyniodd swydd fel prifathro cynorthwyol cyn ymuno a’r 13eg Bataliwn (Gogledd Cymru) o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Wrecsam. Cafodd ei ladd ar faes y gad yn Ffrainc ar yr 11eg o Orffennaf yng Nghoed Mametz, y Somme.

 

 

[Ffynhonnell llun : Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918]

 

Cadwaladr Glyn Roberts

(1894-1916)

Ganed Cadwaladr Glyn Roberts ar y 31 Awst 1894 yn Llanfairfechan yn fab i'r Parch. Peter Jones Roberts a'i wraig, Sarah Ellen, Llyfrfa'r Wesleaid Cymraeg, Bangor. Yn ddisgybl o Ysgol Friars, enillodd Ysgoloriaeth John Hughes yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1912 lle roedd yn fyfyriwr hynod addawol.  Ar 1 Tachwedd 1914 ymunodd â'r 14eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac yn fuan fe'i dyrchafwyd yn Lefftenant, a chafodd ei benodi'n ddirprwy ei fataliwn yn ddiweddarach. Fe'i lladdwyd yn yr ymladd mewn brwydr fawr yn La Boiselle ar 3 Gorffennaf 1916. Roedd ei dad yn gaplan gyda'r Adran Gymreig yn Ffrainc, tra bod un o'i frodyr, Lefftenant Aubrey Roberts, hefyd yn y ffrynt.  Roedd ei frawd arall hefyd wedi ymuno â'r Fyddin. Ysgrifennodd un o'i athrawon fel a ganlyn amdano: "Roedd yn llanc o allu deallusol uwch na chyffredin, yn ddidwyll ac annwyl ei natur, ac yn ddilychwin ei gymeriad ."

 

 

[Ffynhonnell: Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918, a ‘North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 7 Gorffennaf 1916].
 

Howel Dilwyn Roberts

(1897-1918) 

Ganed Howel Dilwyn Roberts ar yr 16eg o Fai 1897 ym Mrynteg, yn fab i Evan a Myfanwy Roberts o Stryd King, Wrecsam. Cafodd ei addysg yn Ysgol y Sir, Towyn, Sir Feirionnydd cyn ymuno â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1915. Cofrestrodd gyda’r 14eg Bataliwn (Gwasanaeth) o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a chafodd ei ladd ar faes y gad ar y 31ain o Hydref 1918 yn Ffrainc – roedd Ail Is-Gapten Roberts yn 21ain mlwydd oed.

 

 

Hugh Owen Roberts

(1890-1922)

Ganed Hugh Owen Roberts ar yr 20fed o Chwefror 1890, yn unig fab i Owen ac Ann Roberts, Caegwyn, Llanfechell, Ynys Môn. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1909 a chael gradd BA yn 1912. Ymunodd Hugh â 12fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, gan wasanaethu gyda'r Mediterranean Expeditionary Force fel  Ail Lefftenant. Bu farw ar y 4ydd o Ebrill 1922 yn y Victoria Cottage Hospital yn y Fenni.

 

[Ffotograff drwy garedigrwydd Frank a Karen Roberts]

 

Robert James Roberts

(1894-1916)

Ganed Robert James Roberts ym Mhenmynydd ar y 10fed o Orffennaf 1894 i John ac Anne Roberts, Fferam Gorniog, Pentraeth, Ynys Môn. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Llangefni cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1911. Cyn ymuno â 14eg Bataliwn y Cheshire Regiment, oedd yn gysylltiedig â'r 13eg Bataliwn, bu Robert yn gweithio fel Rheolwr Cynorthwyol ar Ystâd Ardalydd Môn ym Mhlas Newydd, Ynys Môn. Cafodd ei ladd yn y brwydro ar 11 Hydref 1916 yn Ffrainc. Mae Robert wedi ei gladdu ym Mynwent Brydeinig Courcelette, yn Picardie, Ffrainc.

 

Bu dau o'i frodyr hefyd yn gwasanaethu yn y rhyfel: Cafodd Herbert, y brawd ieuengaf, ei garcharu yn yr Almaen, tra teithiodd Joseph o Ganada gan ymladd yn Ffrainc. Y brawd hynaf oedd Mr William Roberts, BSc, Prifathro Coleg Amaethyddol Punjab yn India.

 

 

 

 

Victor Roberts

(1897-1917)

Ganed Victor Roberts ar y 24ain o Fai 1897, yn fab ieuengaf i Evan Morris Roberts ac Anne Roberts o'r Metropolitan Bank yn Llangefni. Cafodd Victor ei addysg yn Ysgol Sir Llangefni cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1911. Derbyniodd gomisiwn gyda'r Gatrawd Gymreig tra oedd yn fyfyriwr yn y Brifysgol yn Ionawr 1916, a chafodd ei ddyrchafu'n 2il Lefftenant ym mis Chwefror 1917. Adroddwyd bod Victor ar goll ar y 19eg o Orffennaf 1917, ar ôl cael ei weld yn nesáu at swyddog arall a oedd wedi syrthio ar ôl cael ei saethu. Cafwyd hyd i'w gorff yn fuan wedi hynny a chafodd ei gladdu gyda'r swyddog yr aeth ato i'w gynorthwyo (2il Lefftenant Salmon) yn y tir lle buont farw. Cynhaliwyd gwasanaeth yng Nghapel Moriah, Llangefni, er cof am Lefftenant Roberts ym mis Awst 1917.

 

“He was beloved by the Company. Indeed, he was made the pet of the Officers of the Battalion, he was of such sweet and gentle nature”  -  Captain T. Sugrue.

 

[Ffynhonnell Ychwanegol: Archifau Prifysgol Bangor, BMSS/39681 - Llythyr oddi wrth Mr. A. Roberts, Llangefni, at y Cofrestrydd, CPGC, 1917, ynglŷn â marwolaeth ei fab, yr 2il Lefftenant Victor Roberts, a oedd yn fyfyriwr ym Mangor pan ymunodd â'r fyddin. Fe'i lladdwyd yn ymladd yng Ngwlad Belg, 19 Gorffennaf 1917, yn 20 oed.

http://cymru1914.org/en/view/archive_file/4076091

 

William Roberts

(1890-1918)

Ganed William Roberts ar yr 8fed o Awst 1890 i William ac Emma Roberts o Clifton Terrace, Dinbych. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1909 a chael gradd BA yn 1912. Roedd yn gweithio fel athro i Awdurdod Addysg Sir Ddinbych yn Ysgol Love Lane cyn gwasanaethu gyda 7fed Bataliwn Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd William yn y brwydro ar y 18fed o Fedi 1918 yn Salonika. Cafodd ei gladdu ychydig ddyddiau wedyn gan y Durham Light Infantry mewn lle a elwid yn 'The Sugar Loaf.' 

 

[Ffynhonnell ychwanegol: Denbighshire Free Press, 28 Rhagfyr 1918]

 

 

 

 

William Lloyd Roberts

(1895-1917)

Ganed William Lloyd Roberts ar y 10fed o Chwefror 1895 i David a Caroline Roberts o 8 Wexham Street, Biwmares. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1914, gan ohirio ei astudiaethau i ymuno â 7ed Bataliwn Diriogaethol (Meirionnydd a Threfaldwyn) y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn 1915. Lladdwyd Lefftenant Roberts yn y brwydro ar y 6ed o Dachwedd 1917 ger Crib Ruhweilfah nid nepell o Beersheba, Palesteina.

 

 

 

Fel aelod o dîm pêl-droed y Brifysgol, 1907-08

 

Bu'n aelod o Gyngor Cynrychiolwyr y Myfyrwyr

 

 

Herbert Morton Robinson

(1885-1921)

Ganed Herbert Morton Robinson ar y 10fed o Ionawr 1885 i William H. ac Elizabeth Robinson o 'London House', Llanelwy. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1907 cyn dechrau ar ei yrfa fel athro mewn nifer o ysgolion gwahanol yn Lloegr: Belvedere yng Nghaint, Nottingham ac yna Burton-upon-Trent. Gwasanaethodd Herbert gyda gwahanol gatrodau yn ystod ei yrfa filwrol, gan ymrestru yn wreiddiol gyda'r Army Reserve ym mis Rhagfyr 1915 cyn cael ei anfon at y 12th Essex Regiment ym mis Mawrth 1916. Wedi hynny cafodd ei drosglwyddo i'r 215th Suffolk Regiment ym mis Mawrth 1916 ac yn olaf cafodd ei drosglwyddo i'r Wiltshire Regiment, Labour Corps (Agricultural Company). Yn ei gofnod myfyriwr dywed "Died as a result of the war" yn y Sanatoriwm ym Matlock ar y 9fed o Chwefror 1921.

 

 

 

[Ffynhonnell llun : Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918]

 

Edward Hugh Noel Savage

(1888-1916)

Roedd Noel Savage, fel yr adwaenid ef, yn fab ieuengaf y Cyrnol Hugh Savage, VC, Brynafon, Bangor, a Catherine Lucy Savage.  Noel oedd eu hail fab i'w ladd yn y rhyfel (mae ei frawd, John Frederick Savage, hefyd yn cael ei goffáu).  Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Friars a Choleg y Brifysgol, Bangor, lle bu'n astudio Peirianneg Drydanol ac yn dilyn hynny fe gymerodd swydd fel peiriannydd trydanol ar blanhigfa rwber fawr yng Ngogledd Borneo Brydeinig. Pan ddechreuodd y rhyfel, daeth adref o Ogledd Borneo ac ymunodd â Pheirianwyr Brenhinol Ynys Môn fel Ail Lefftenant. Aeth drosodd i Ffrainc gyda'r gatrawd honno ym mis Mai 1916, a'i drosglwyddo wedyn fel Lefftenant i No 1 Foreways Company, Y Peirianwyr Brenhinol.  Cafodd ei daro gan siel yn ystod cyrch peryglus yn Herrisart ar 29 Mehefin 1916 a bu farw'n syth. Roedd yn 29 oed.

Ysgrifennodd ei Brif Swyddog fel a ganlyn amdano:  'Ni chafodd unrhyw gyfle i geisio lloches, a chan eu bod mor agos at y gelyn nid oedd unrhyw sŵn i'w rhybuddio bod y sieliau ar fin taro.   Ffrwydrodd y sieliau o'u hamgylch ac fe laddodd un ohonynt ef yn syth.   Roedd hyn yn amlwg gan fod yr olwg ar ei wyneb yn gwbl heddychlon, er bod ganddo nifer o anafiadau, gydag un o leiaf wedi bod yn gwbl angheuol.'  Fe'i claddwyd yn Mynwent Gymunedol Herissart.

Ymunodd Mr Fred Savage â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a bu farw o niwmonia yn Winchester, tra roedd ei frawd hŷn, Capten W. Hugh Savage, ym Mhalestina gyda Chorfflu Milfeddygol y Fyddin.

 

 

 

[Ffynhonnell llun: Moira Shankland Jenkins]

 

Llewelyn Ap Thomas [Tomos] Shankland

(1891-1917)

Roedd Llewelyn Shankland, a aned yn 1891, yn fab i'r Parchedig Thomas Shankland, MA, a Mrs Shankland, Brynawelon, Bangor. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Friars ac Ysgol Clynnog Fawr. Yn ddiweddarach aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, lle'r ymunodd â'r Corfflu Hyfforddi  Swyddogion pan ddechreuodd y rhyfel.  Ym mis Hydref 1914 gwirfoddolodd i ymuno â'r fyddin, ac fe'i comisiynwyd yn  2il Lefftenant yn Bantams Gogledd Cymru, 19ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.  Aeth i Ffrainc a bu'n ymladd mewn nifer o frwydrau ffyrnig. Fe'i hanafwyd sawl gwaith ond cafodd ei glwyfo'n angeuol ar 24 Tachwedd 1917, gan farw ar 27 Tachwedd 1917, yn 26 oed.  Fe'i claddwyd yn Mynwent Brydeinig Rocquigny-Equancourt Road, Manancourt, Somme.

 

 

William John Sparling

(1881-1915)

Ganed William John Sparling ar y 17eg o Hydref 1882 i Philip William a Fanny Sparling o 'Holme-Nest', Runcton, Norfolk. Cafodd ei eni yn Swydd Gaerloyw ac ymrestrodd yn Erbistock. Daeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1901. Tyddynwr oedd wrth ei alwedigaeth, ac ymrestrodd yn y Canadian Expeditionary Force ar y 18fed o Ragfyr 1914 yn Winnipeg, Manitoba, Canada. Roedd yn Breifat gydag 8ed Bataliwn y Canadian Infantry (Manitoba Regiment), a chafodd ei ladd yn y brwydro yng Ngwlad Belg ar y 13eg o Orffennaf 1915. Rhestrir ei enw ar Gofeb Clwyd Menin yn Ypres. Collodd y teulu Sparsen dri o'u meibion yn ystod y rhyfel.

 

 

 

Robert Ronald Surtees

(1892-1916)

Ganed Robert Ronald Surtees ar yr 28ain o Ebrill 1892 i P.E. ac L.A. Surtees o Consett, Swydd Durham. Daeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1912 ac ar ôl graddio, cymerodd swydd yn ysgol Richmond Hill. Ymunodd â'r Kings Company, Bataliwn 1af y Grenadier Guards (fel Gwarchodluwr) a chafodd ei ladd yn y brwydro yn Ffrainc ar y 10fed o Fedi 1916. Fe'i claddwyd yn Mynwent Serre Road, Beaumont-Hamel, Picardie, Ffrainc.

 

 

[Ffynhonnell llun: The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 28th January 1916]

 

George Arthur Thomas

(1888-1916)

 

Ganed George Arthur Thomas ar yr 22ain o Dachwedd 1888 yn y Rhyl i Edward Clayton Thomas ac Elizabeth Thomas. Roedd y teulu'n byw yn Cybi Street, Caergybi, ac yn ddiweddarach yn Park Street. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Caergybi cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1907. Cyn ymuno â'r fyddin bu'n athro yn ysgol Cybi, Caergybi. Roedd yn Breifat yng Nghwmni 'B', 16eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, yr hen 13eg Bataliwn (a ffurfiwyd o blith y recriwtiaid dros ben ar gyfer y 13eg). Cyrhaeddodd George Ffrainc gyda'r Bataliwn ym mis Rhagfyr 1915, gan symud tuag at y Somme. Ar y 6ed o Ionawr 1916 symudodd y Bataliwn i ymgymryd â dyletswyddau yn y rheng flaen am y tro cyntaf. Ar y 9fed o Ionawr taniodd y Bataliwn sieliau at wifrau'r gelyn - taniodd y gelyn yn ôl gan ladd 2 ddyn. Lladdwyd George a'i ffrind gorau o Gaergybi, yr Is-gorporal John Henry Jones (roedd y ddau wedi ymuno â'r Bataliwn gyda'i gilydd)..

 

[Ffynhonnell llun: Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918]

 

Thomas John Thomas

(1888-1916)

Ganed Thomas John Thomas ar  22  Tachwedd 1888, i Mr a Mrs John Thomas, 13 Crescent, Bangor Uchaf. Fe'i haddysgwyd yn yr Ysgol Genedlaethol, Bangor Uchaf, yn Friars, ac yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru lle cafodd radd BSc ym 1914. Fe'i penodwyd wedyn, ar ôl cystadleuaeth, i swydd Meistr ar long hyfforddi'r llynges, "Impregnable." Tra yno fe'i dyrchafwyd yn Oruchwyliwr ar bedair o longau'r llynges.  Ymunodd â  H.M.S. "Defence" ddau ddiwrnod cyn Brwydr Jutland,  lle collwyd y llong gydag naw gant o fywydau. Roedd yn 26 oed pan fu farw ar 31 Mai 1916.

[Ffynhonnell Ychwanegol: Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918].

 

William Henry Thomas

(1880-1917)

Ganed William Henry Thomas ar y 25ain o Hydref 1880 i Lewis a Jane Thomas o Bryn Street, y Drenewydd. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1903 ac ar ôl graddio, dechreuodd ar ei yrfa fel athro. Bu'n dysgu yn Ysgol Penygloddfa ac roedd yn briod ag Agnes Florence Thomas. Roedd ganddynt dri o blant ac roeddynt yn byw yn 25 Crescent Street, y Drenewydd. Ymunodd â'r Army Reserve ym mis Rhagfyr 1915 a chafodd ei anfon at y Royal Garrison Artillery ym mis Mehefin 1916. Erbyn Ebrill 1917 roedd wedi cael ei ddyrchafu'n Uwch-sarsiant. Ar y 10fed o Orffennaf 1917 cafodd ei glwyfo'n ddifrifol gan siel a bu farw ar y Ffrynt Gorllewinol ar y 12fed o Orffennaf. Mae wedi ei gladdu ym mynwent Coxyde a chaiff ei goffáu yn eglwysi Dewi Sant a Llanllwchaearn yn ogystal ag yng Nghapel y Crescent.

 

 

 

Ben Gerald Noel Watkin

(1889-1915)

Ganed Ben Gerald Noel Watkin ar yr 22ain o Ebrill 1889, yn ail fab i R.E. Watkin o Raven Inn, y Fflint. Cafodd ei addysg yn ysgol Treffynnon cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1909, lle cafodd gapiau mewn Criced a Rhwyfo, ac roedd yn aelod o'r Corfflu Hyfforddi Swyddogion. Ar ôl gadael y Brifysgol yn 1913, cymerodd swydd mewn ysgol fasnachol yng Ngwlad Groeg (Athro Saesneg). Roedd ganddo gysylltiad â Batri Gynnau Mawr Coleg Bangor a phan dorrodd y rhyfel dychwelodd i Loegr ac ymunodd â 40fed Batri'r Royal Field Artillery (43fed Brigâd, Adran 1af) a chafodd gomisiwn. Cafodd ei glwyfo gan fwled shrapnel wrth arwain ei adran yn anterth yr ymladd. Bu farw o'i anafiadau ar y 27ain o Ionawr 1915.

[Ffynhonnell Ychwanegol: Flintshire Observer Mining Journal and General Advertiser for the Counties of Flint Denbigh, 4ydd Chwefror 1915]

 

 

Diolch i 'Wynebau'r Milwyr a Gollwyd' https://www.rwfmuseum.org.uk/cym/faces-of-the-fallen/index.php

 

James Griffith Williams

(1879-1918)

Ganed James Griffith Williams yn 1879, yn fab hynaf i Evan ac Eleanor Williams o 150 Anfield Road, Lerpwl. Priododd â Mary Jane Williams, Meiros, Llanharan. Cafodd James ei addysg ym Mhrifysgol Lerpwl ac wedi hynny aeth i weithio i Awdurdod Addysg Lerpwl yn ysgolion Anfield Road. Ym mis Medi 1908 cafodd ei benodi'n ddarlithydd mewn Saesneg yng Ngholeg y Normal, Bangor. Yn 1914 bu'n ymweld ag ysgolion yng Ngwlad Belg ac Alsás i astudio dwyieithrwydd gan gyhoeddi llyfr o'r enw: “Mother Tongue; Other Tongue, a Study in Bilingual Teaching.” Roedd James yn ne'r Almaen pan dorrodd y rhyfel a bu ond y dim iddo gael ei gaethiwo. Oherwydd bod ganddo gryn gysylltiad â Chorfflu Hyfforddi Swyddogion Coleg Prifysgol Gogledd Cymru cafodd ei benodi'n Lefftenant yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ynghlwm wrth y 17eg Bataliwn, yn 1915. Cafodd ei ladd yn y brwydro yn Ffrainc ar y 27ain o Awst 1918.

[Ffynhonnell Ychwanegol: North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 6 Medi 1918]

 

 

 

[Ffynhonnell llun: Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918]

 

Kelyth Pierce Lloyd Williams

(1895-1916)

Ganed Kelyth Pierce Lloyd Williams ar y 10fed o Awst 1885, yn unig fab i Dr W. Lloyd O. Williams, Y.H., ac Anne Lloyd Williams, 'Cae'r Onnen', Bangor Uchaf, gynt o Lanberis a Llwynybrain, Llanrug. Cafodd Kelyth ei addysg ysgol yn Nhywyn ac Amwythig cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym mis Ebrill 1914. Ar ôl gadael Bangor aeth i astudio meddygaeth yng Ngholeg Clare, Caergrawnt. Ymunodd â'r Corfflu Hyfforddi Swyddogion ac yn gynnar yn 1915 cafodd gomisiwn gyda 17fed Bataliwn y Gatrawd Gymreig. Cafodd ei ladd yn y brwydro ar y 17eg o Hydref 1916 a'i gladdu ym mynwent Brydeinig y Marne, Grenay, Ffrainc. Roedd yn 21 mlwydd oed.

 

 

[Ffynhonnell llun: Dafydd Llewelyn Jones, Llanrwst]

 

Lewys Jones Williams

(1889-1915)

Ganed Lewys Jones Williams ar y 18fed o Fehefin 1889 i Richard a Margaret Williams o 'Fourcrosses House', Penrhos ger Pwllheli. Cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Sir Pwllheli, lle dangosodd gryn allu academaidd - byddai hefyd yn ennill ar gystadlaethau celf mewn eisteddfodau lleol ac enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yn 1906. Aeth Lewys i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ym mis Hydref 1909 gan astudio am radd BA. Chwaraeodd ran amlwg ym mywyd cymdeithasol ac athletaidd y coleg: roedd yn aelod o Gyngor Cynrychiolwyr y Myfyrwyr, yn Gapten y Clwb Rhwyfo, a hefyd yn aelod o Gorfflu Hyfforddi Swyddogion y coleg.

Cafodd ei benodi'n ddirprwy bennaeth Ysgol Eglwys Tregarth ar y 1af o Hydref 1912 ond gadawodd yr ysgol ar 23 Hydref 1914 i ymuno â 10fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ar 17 Rhagfyr 1915 gorymdeithiodd ei fataliwn i ffosydd Gwlad Belg, i'r dwyrain o Ypres mae'n debyg, lle cafodd ei anafu'n ddifrifol ar y diwrnod canlynol. Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, bu farw'r Corporal Williams o'i glwyfau mewn ysbyty maes yn Dickebusch. Roedd yn 26 oed.

[Ffynonellau Ychwanegol: Yr Herald Cymraeg, Dydd Mawrth 11eg Ionawr 1916, ‘In memory of Lewys Jones Williams,’ History Points History Points]

 

 

 

[Ffynhonnell llun: Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918]

 

Peter Williams

(1893-1916)

Ganed y Lefftenant Peter Williams ar y 24ain o Ionawr 1893 a chafodd ei fagu gan ei daid, Mr Richard Jones, o 16 James Street, Bangor. Cafodd ei addysg yn ysgol St. Paul, Bangor, ac yn Ysgol Sir Bethesda, cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1913 i ddilyn hyfforddiant mewn peirianneg electronig. Fel myfyriwr roedd yn aelod o Gorfflu Hyfforddi Swyddogion y Brifysgol ac yn aelod blaenllaw o'r tîm pêl-droed rhyng-golegol. Yn 1915, cafodd swydd gyda Messrs. British, Thompson and Houston, Electrical Engineers, yn Coventry, fodd bynnag, mae'n annhebygol iddo ddechrau yn y swydd honno oherwydd ym mis Awst yr un flwyddyn cafodd gomisiwn gyda 12fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Adroddodd y Swyddfa Ryfel iddo gael ei ladd yn y brwydro ym mis Tachwedd 1916.

 

Richard Williams

(1891-1916)

Ganed Richard Williams ar y 4ydd o Chwefror 1891 i John M. a Margaret Williams o 'Cefnfaes House', Ffordd Carneddi, Bethesda. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1911 a chael gradd BA. Ymrestrodd gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a chafodd ei ladd yn y brwydro ar y 26ain o Hydref 1916 yn y Somme. Mae hefyd yn cael ei goffáu ar gofeb Thiepval.

 

 

 

[Ffynhonnell llun: ‘Harlech Officer,’ The Cambrian News and Welsh Farmers’ Gazette, 17th May 1918]

 

Richard Williams

(1894-1918)

Ganed Richard Williams ar yr 2il o Fawrth 1894, yn fab i Richard a Jane Williams, 'Clogwyn House', Harlech. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Abermaw a chyn ymrestru â'r fyddin bu'n astudio am radd mewn gwyddoniaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1912. Ymrestrodd fel Preifat yn gynnar ym mis Medi 1914 gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac, oherwydd ei allu, cafodd ei ddyrchafu'n Ddirprwy Swyddog Cyflenwi a bu'n hyfforddi gyda'i fataliwn yn Aberystwyth ac yn Swydd Bedford. Oherwydd ei gyraeddiadau addysgol cafodd ddyrchafiad a Chomisiwn y Brenin i fod yn 2il Lefftenant a chafodd ei anfon i'r Machine Gun Corps ym mis Gorffennaf 1917. Pan ddechreuodd ymgyrch fawr yr Almaen ar y ffrynt gorllewinol yn gynnar yn 1918 cafodd ei alw yn ôl i Ffrainc ac o fewn ychydig wythnosau cafodd ei glwyfo'n ddifrifol. Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, ar yr 2il o Ebrill, bu farw o'i glwyfau yn yr ysbyty ac anfonwyd y newyddion am ei farwolaeth mewn telegram gan y Swyddfa Ryfel.

[Ffynhonnell Ychwanegol: ‘Harlech Officer,’ The Cambrian News and Welsh Farmers’ Gazette, 17eg Mai 1918]

 

 

 

[Ffynhonnell llun: Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918]

 

Thomas Glyn(ne) Williams

(1883-1917)

Ganwyd Thomas Glyn(ne) Williams ar 28 ym mis Medi, 1883, yn fab hynaf Mr Thomas Williams, gwerthwr glo, a'i wraig Mary, 33 Greenfield Terrace, Bangor. Dechreuodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor, a daeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1902 lle graddiodd â BA Anrhydedd mewn Ffrangeg. Cyn ymuno â'r fyddin bu'n Athro Ffrangeg yn Ysgol Moreton House, Caerdydd. Ymunodd â Bataliwn 16 y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig fel Preifat, ac fe'i lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 2 Awst 1917.

 

Edmund Oswald Griffith Williams Meyrick

(1878-1916)

Ganed Edmund Oswald Griffith Williams-Meyrick ar yr 8fed o Awst 1878, yn fab i'r Parch. John Williams-Meyrick, Rheithor Biwmares a chyn-gaplan Mr W.E. Gladstone, a Clara, o Bulkeley Place, yn ddiweddarach Menai View, Bangor. Cafodd ei addysg yn ysgol Friars, Bangor, cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1897 (astudiodd hefyd yn Llanbedr Pont Steffan). Priododd â Gwendoline Kate Dew yn 1902 a buont yn byw yn 'Withy Cottage', Abbotsbrook, Bourne End. Ymunodd â'r Bataliwn Garsiwn 1af a bu farw ar wasanaeth yn Gibraltar ar y 7fed o Fai 1916.

 

 

 

[Ffynhonnell llun: Cofeb y Dewrion : Heroes' memorial, 1914-1918]

 

Thomas Barron Winter

(1898-1918)

 

Ganed Lefftenant Winter ar yr 2ilo Awst 1898, yn fab hynaf i Thomas Winter, M.A. a fu, am flynyddoedd lawer, yn Athro Amaethyddiaeth yn y Brifysgol, a Mrs. Winter, Newby Terrace, Ffordd Deiniol, Bangor. Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn ysgol Giggleswich, Swydd Efrog. Ym mis Hydref 1913 daeth i'r Brifysgol ar ôl ennill Ysgoloriaeth Sir Gaernarfon a oedd yn werth £20. Ymunodd â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn 1917, aeth i Ffrainc ar 22 Awst 1917, a chafodd ei ladd ger Albert ar 22 Ebrill 1918 yn 19 mlwydd oed.

[Ffynhonnell ychwanegol: North Wales Chronicle, 3ydd Mai 1918]

 

Hafan

Amdanom Ni

Gwasanaethau a Chyfleusterau

Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau

  • Archifau a Chasgliadau Arbennig
    • Amdanom ni
      • Cysylltwch â ni
      • Staff
      • Ffilmio yn Llyfrgell a’r Archifdy
      • Gwirfoddoli
    • Gwybodaeth i ymwelwyr
      • Ymweld â'r Archifdy
      • Lleoliad
      • Tocyn Darllen
      • Rheolau’r Ystafell Ddarllen
      • Gwasanaethau copïo
      • Llyfrau Prin
      • Trin Dogfennau
      • Ymholiadau
      • Adborth
      • Ymweliadau Grŵp
    • Ein Casgliadau
      • Archifau a Llawysgrifau
        • Casgliadau'r Archif
        • Casgliad Penrhyn
        • Dyddiaduron Bulkeley
      • Chwilio am Archifau a Llawysgrifau
      • Casgliadau Arbennig Printiedig
      • Chwilio am Gasgliadau Arbennig Printiedig
      • Canolfannau Ymchwil
        • Canolfan Astudiaethau Arthuraidd
        • Canolfan Astudiaeth R.S.Thomas
        • The Stephen Colclough Centre for the History and Culture of the Book
        • SYYC
      • Derbyniadau diweddar
      • Archif y mis
      • Catalog arlein
    • Arddangosfeydd Ar-lein
    • Digwyddiadau
      • Beth sydd ymlaen
      • Hen Ddigwyddiadau
      • Darlith flynyddol
    • Prosiectau
      • Penrhyn – Siwgr a Llechi
      • Prosiect Pontifical Bangor
      • Er cof am y rhai o'r Brifysgol a fu farw: 1914-1918
    • Newyddlen
    • Cysylltu
    • Llyfrgell ac Archifau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor