Penrhyn: Y Prosiect Siwgr a Llechi
[Bydd y dudalenau yma yn rhoi’r newyddion diweddaraf am y Project Siwgr a Llechi gan Sarah Vaughan, a bydd yn tynnu sylw at unrhyw eitemau neu destunau sy’n codi wrth brosesu’r deunydd.]
[Mae newyddion ddiweddar o'r prosiect ar gael! Gellir ei weld wrth clicio y tab 'Diweddariadau' uchod.]
Archifydd y Project – Sarah Vaughan
“Rydw i wedi bod yn gweithio fel archifydd am ddwy flynedd ar ôl cwblhau fy niploma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2013. Rydw i wedi graddio dros yr haf, ar ôl cael gradd Meistr yn y Gwyddorau mewn Gweinyddu Archifau.
Dechreuais weithio fel archifydd project ar y Project Siwgr a Llechi ym mis Mawrth 2015 ac rydw i wir yn mwynhau’r profiad. Mae’n fraint gweithio ar bapurau’r Penrhyn, sy’n gasgliad ystâd mor bwysig ac uchel eu parch.”
Dod i adnabod Casgliad Ystâd y Penrhyn
Caiff y Project Siwgr a Llechi ym Mhrifysgol Bangor ei ariannu gan y Rhaglen Grantiau Catalogio Cenedlaethol. Sarah Vaughan yw’r Archifydd a benodwyd yn Gatalogydd Project, a bydd yn gyfrifol am greu catalog aml-lefel ar gyfer gweddill papurau’r Penrhyn sydd heb eu prosesu, ac a gedwir yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig.
Amcangyfrifir bod 47 metr o ddeunydd Penrhyn heb ei gatalogio, a thros yr 20 mis nesaf, caiff pob eitem ymhob bocs eu hastudio’n fanwl a chânt ddisgrifiad lefel eitem.
Ar ôl catalogio’r holl ddeunydd, bydd angen edrych ar y casgliad yn ei gyfanrwydd, i’w werthuso, ac adolygu trefniant y casgliad. Caiff y rhestr derfynol ei chynnwys ar ein catalog ar-lein, CALMView, gan ei gwneud yn bosib i’r casgliad fod ar gael i ymchwilwyr pell ac agos.
Yn ystod camau olaf y project, gobeithir y bydd y gwirfoddolwyr yn helpu i lanhau, ailbacio a rhifo deunydd y Penrhyn.
Mae’r project ar hyn o bryd yn ei gamau cynnar. Mae Sarah Vaughan wedi gwneud llawer o ymchwil a darllen cefndir i hanes y teulu a’r ystâd, ac y mae wedi cael cyfle’n ddiweddar i ymweld â Chastell trawiadol y Penrhyn.
Meddai Sarah: “Mae’r amser yr ydw i wedi’i dreulio’n ymchwilio i hanes cyfoethog yr ystâd a’r teulu wedi bod yn amhrisiadwy, a bydd yn sylfaen gadarn ar gyfer y gwaith catalogio y byddaf yn ei wneud dros y misoedd nesaf. Rydw i eisoes wedi nodi nifer o eitemau sy’n eithaf arbennig, a bob mis, rydw i’n gobeithio arddangos rhai ohonynt drwy’r wefan hon”.
Hyd yma, mae gwerth 34 bocs o ddeunydd archifol wedi cael eu rhestru, ac mae amrywiaeth enfawr o ddeunydd diddorol wedi dod i’r golwg. Mae llawer o lyfrau cyfrifon a phapurau cyfreithiol yn datgelu ehangder yr ystâd a sut y cafodd ei weinyddu. Mae llythyrau a ffotograffau wedi dod i’r wyneb hefyd, sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghastell y Penrhyn ar lefel mwy personol.
Mae newyddion diweddaraf mis Awst Sarah nawr ar gael ar y wefan hon trwy clicio y tab ‘Diweddariadau’ sydd uwchben. Hefyd gellwch gysylltu â hi’n uniongyrchol ar s.h.vaughan@bangor.ac.uk
Y newyddion diweddaraf
EBRILL 2017
Mae'r Prosiect Siwgr a Llechi bellach wedi'i gwblhau.
Mae'r casgliad Penrhyn cyfan wedi'i gatalogio, ei rifo a'i becynnu gyda rhai eitemau wedi cael eu glanhau. Catalogwyd dros 3,500 o eitemau yn ystod yr 20 mis olaf a bellach mae'r catalog ar gael arlein. Bydd catalogau papur o'r holl gasgliad ar gael yn yr ystafell ddarllen yn fuan iawn.
RHAGFYR 2016
Mae’r Prosiect Siwgr a Llechi yn araf ddirwyn i ben, gyda Sarah Vaughan, ein Archifydd Prosiect wedi gweithio ei diwrnod olaf ar y casgliad fis Tachwedd.
Tra bo’r gwaith catalogio wedi’i gwblhau, mae ein gwirfoddolwyr yn brysur yn ail-rifo pob eitem ac yn sicrhau eu bod wedi eu pecynnu a’u bocsio yn gywir.
Claudia a Louise yn ail-rifo
Ar hyn o bryd, y cyfresi canlynol o gasgliad ‘Penrhyn Castle Further Additional’ (PFA) sydd ar gael.
1. Early deeds
2. Deeds post 1800
3. Bundles of deeds
4. Rentals
5. Jamaica
6. Maps and plans
7. Surveys and valuations
8. Post 1800 Correspondence
9. Post 1800 Printer Material (including translations of printed items)
10. Post 1800 Financial Papers (including accounts, vouchers, cash books etc.
11. Post 1800 Legal Documents
12. Post 1800 Mixed Bundles
13. Post 1800 Miscellaneous
Bydd cyfresi PFA/14-21, a restrir isod, ar gael yn fuan.
14. Estate administration
15. Penrhyn Quarry
16. Politics and electioneering
17. Personal
18. Patronage
19. Events
20. Printed Material
Adela Douglas Pennant (1858-1955)
Yn ddiweddar, rwyf wedi dod ar draws llyfr sgrap diddorol iawn yn cynnwys toriadau papurau newydd yn ymwneud â chyngherddau cerddorol.
Yn ychwanegol i hyn mae’n cynnwys lluniau trawiadol o aelodau o’r teulu Pennant. Y seren yn yr albwm yma yw Adela Pennant, merch Edward Gordon Douglas Pennant (Baron 1af Penrhyn), 1800-1886, a Maria Louisa Fitzroy (1818-1912). Mae’r llun ar y chwith yn dangos Adela gyda dwy ferch ifanc, aelodau o’r teulu ‘de Grey’ a chi bach!
Mae’r albwm hefyd yn cynnwys cerdyn gyda cherdd Gymraeg wedi ei chyflwyno i Adela Pennant. Mae’r gerdd gan H. Jones (Glanvor), yn cyfleu'r hoffder yn y gymuned tuag ati ac yn ei disgrifio fel person teilwng a charedig. Mae hefyd yn nodi ffaith ddiddorol, sef ei bod yn medru’r Gymraeg ac yn canu yn yr “heniaith”!
[Diweddariad Mai-Mehefin 2016]
Papurau Jamaica ar gael yn awr!
Mae'n bleser rhoi gwybod ichi fod papurau Jamaica bellach ar gael i edrych arnynt yn ystafell ddarllen yr archifau.
Er mwyn gwneud hyn yn bosibl, roedd rhaid ail-rifo ac ail-focsio pob un o'r 372 o eitemau yn y casgliad fel eu bod yn cyfateb â'r catalog newydd. Fel y gallwch weld o'r llun (ar y chwith), roedd y gwaith yn golygu mynd trwy lawer o flychau er mwyn dod o hyd i'r eitemau oedd yn cael eu storio dan eu rhif catalog dros dro, ac yna ysgrifennu'r rhif terfynol, parhaol, ar bob dogfen yn unigol.
Rhaid imi ddiolch i Elen Simpson a fu'n fy nghynorthwyo yn y broses o ail-rifo, ac i Callum Parry, ein gwirfoddolwr, a fu'n helpu i orffen ail-rifo’r ychydig flychau olaf.
Mae catalog Jamaica bellach ar gael ar-lein, ac mae'n rhan o Gatalog Pellach Ychwanegol Castell Penrhyn. Mae’r gyfres o bapurau Jamaica yn y llun ar y dde, ac maent yn dechrau gyda'r rhif cyfeirnod PFA/5/1. Mae'r gyfres wedyn wedi ei rhannu'n 6 categori:
- Gweithredoedd a Dogfennau
- Gohebiaeth
- Cyfrifon
- Adroddiadau ac Arolygon
- Mapiau a Chynlluniau
- Deunydd Printiedig
Gellir gweld y catalog hwn ar ein gwefan drwy glicio ar y linc isod:
http://calmview.bangor.ac.uk/CalmView/TreeBrowse.aspx?src=CalmView.Catalog&field=AltRefNo&key=PFA
Rwyf wrth fy modd bod papurau Jamaica wedi eu prosesu'n effeithlon a bod y broses ail-rifo wedi mynd rhagddi'n hwylus. Nawr bod y casgliad ar gael, gobeithio y bydd llawer o ddefnydd yn cael ei wneud o'r papurau gan eu bod yn cynnwys eitemau amhrisiadwy ar gyfer ymchwil.
[Newyddion Mawrth 2016]
Prydlesi Ystâd y Penrhyn
Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio fy ffordd drwy flwch mawr, yn llawn i'r ymylon o brydlesi amrywiol yn perthyn i Ystâd y Penrhyn.
Roedd 82 o eitemau yn y blwch ac roedd catalogio pob prydles unigol yn waith hirfaith.
Mae dyddiadau'r prydlesi rhwng 1872 a 1935 ac mae a wnelont â sawl darn o eiddo ym mhlwyfi Bangor, Caernarfon, Aber, Llandegai a Llanllechid.
Mae'r delwedd isod yn dangos pa mor bell oedd terfyn Ystâd y Penrhyn yn 1890.
Mae prydlesi yn adnoddau gwych i'r sawl sydd am ymchwilio i hanes adeilad arbennig a gallant hefyd fod o ddefnydd i achyddwyr. Mae ambell brydles yn cynnwys cyfeiriad blaenorol y tenant, a allai fod o gymorth i ddod o hyd i unigolion a'u teuluoedd. Hefyd, mewn rhai achosion, byddant yn rhoi enw'r tenant blaenorol.
Mae gan rai prydlesi atodiadau anhygoel o gynlluniau'r tai oedd ar rent gan ystâd y Penrhyn. Gall y cynlluniau hyn roi gwybodaeth ddefnyddiol am derfynau'r eiddo ac unrhyw newid a fu dros y blynyddoedd.
[Newyddion Ebrill 2016]
Mae Ebrill wedi bod yn fis trwm. Yn benodol, rwyf wedi bod yn rhoi trefn ar restr o bapurau Jamaica ar Excel a'i gwneud yn barod i'w throsglwyddo ar y gronfa ddata CALM sy gennym. Dyma fydd y grŵp cyntaf o bapurau fydd ar gael i ymchwilwyr a bydd gobeithio yn rhoi blas o'r hyn sydd i ddod.
Uchafbwynt bendigedig y mis hwn oedd cael gwahoddiad i fynychu noson agored yng Nghastell Penrhyn oedd yn dangos gwaith tri artist ar raglen artistiaid preswyl Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r tri artist wedi treulio cyfnod o 6 mis yn ymchwilio i hanes y castell a'r teulu.
Cynhyrchodd Lisa Heledd Jones recordiadau sain gyda thameidiau o straeon amrywiol ynghylch streic y Penrhyn. Roedd hi hefyd wedi creu arwydd ac arno ddyfyniad trawiadol roedd hi wedi dod ar ei draws trwy'r amser yn ei gwaith ymchwil –
‘Mi gewch chi’ch crogi
Am ddwyn dafad oddi ar y mynydd
Ond am ddwyn y mynydd
Mi gewch chi’ch gwneud yn Arglwydd’
‘You will be hanged
For stealing a sheep
From the mountain
But for stealing
The mountain you
Will be made a Lord’
Roedd Joanne Wardrop wedi creu fideo yn cynnwys clipiau amrywiol o amgylch y cysyniad o gastell Penrhyn fel casino. Bydd hi hefyd yn creu carped "wedi’i ysbrydoli gan gasino" i'w osod yn y neuadd fawr y mis nesaf. Mae ei phrofiad o weithio ar y project yn cael ei gofnodi ar ei blog:
http://joanne-wardrop.tumblr.com/
Mae'r trydydd artist, Robyn Woolston, wedi creu fideo am streic y Penrhyn gyda chyfweliadau gydag aelodau o'r gymuned a chyn chwarelwyr.
Gellir gweld y fideo hefyd ar:
www.vimeo.com/robynwoolston/strikepenrhyn
Mwynheais y noson yn fawr ac roedd y straeon am streic Chwarel y Penrhyn o ochr y gymuned leol yn ddiddorol dros ben. Roedd hyn yn wrthgyferbyniad llwyr i'm gwaith yn ystod a flwyddyn a fu, gan fy mod wedi bod yn gweld y streic drwy lygaid yr Arglwydd Penrhyn - drwy ddarllen ei ohebiaeth ar y pwnc a chatalogio'r pentyrrau o doriadau papurau newydd yr oedd wedi eu casglu ac wedi ysgrifennu nodiadau arnynt.
Roedd dau o'r artistiaid preswyl wedi seilio'u gwaith ar ymchwil a wnaed yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. Mae'r profiad hwn eto wedi tanlinellu pwysigrwydd y "Project Siwgr a Llechi" - mae casgliad y Penrhyn yn adnodd cyfareddol y gellir ei ddefnyddio gan bawb a'i ddehongli mewn amryw o ffyrdd.
Ysgrifennodd Lisa Heledd Jones am ei phrofiad yn ymweld â'r archifau ar ei blog am y project.
Mae Robyn Woolston hefyd wedi creu blog am ei hymchwil, sy'n cynnwys ei phrofiad yn edrych ar bapurau'r Penrhyn.
http://strikepenrhyn.tumblr.com/
[Newyddion Ionawr-Chwefror]
Catalogio Caribïaidd: Datblygiadau ar bapurau Jamaica
Bu Ionawr yn fis hynod brysur. Erbyn hyn mae'r holl bapurau Jamaica wedi cael eu prosesu ac wedi cael disgrifiad dros dro yn y catalog.
Ymysg y papurau hyn mae gohebiaeth, rhestrau eiddo a dogfennau cyfreithiol yn ymwneud â'r planhigfeydd siwgr a oedd yn eiddo i deulu Pennant yn Jamaica.
Dechreuodd cysylltiaid y teulu Pennant â'r fasnach siwgr yn Jamaica yn 1658 pan ymfudodd Gifford Pennant i Jamaica a sefydlu planhigfeydd siwgr ym mhlwyf Clarendon. Cynyddodd y planhigfeydd siwgr o ran eu maint a'u gwerth yn ystod y canrifoedd dilynol a gwelir hyn yn y papurau Jamaica, gan eu bod yn cynnwys dogfennau'n ymwneud â gwahanol ystadau ac eiddo a oedd yn perthyn i'r teulu Pennant. Er enghraifft, ystâd Pennants, ystâd Dinbych, Kupius, Thomas River, Cotes Penn a Broom Hall. Mae cynlluniau a gynhwysir yn y diweddariad hwn yn dangos yr ystâd Dinbych uchod a'r ystâd Pennants isod.
Cam nesaf catalogio'r papurau Jamaica yw adolygu'r disgrifiadau a luniwyd a threfnu'r eitemau mewn dosbarthiadau perthnasol, megis gohebiaeth, dogfennau, gweithredoedd, cynlluniau a rhestrau eiddo er mwyn sicrhau eu bod wedi eu trefnu yn y ffordd orau ar gyfer anghenion ein hymchwilwyr ac i wneud chwilio am wybodaeth mor hawdd â phosibl.
Yn olaf, bydd yr eitemau eu hunain yn cael eu hail-rifo a'u hail-focsio i gyfateb i'n catalog newydd a chaiff y data eu trosglwyddo i'n catalog ar-lein, CALM, fel y gellir edrych ar y catalog Jamaica o bell ledled y byd.
Pan fydd y broses hon wedi'i chwblhau, gall defnyddwyr fydd yn ymweld â'r ystafell ddarllen yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig fynd at y papurau Jamaica yn rhwydd.
Cofiwch gadw golwg am fy niweddariadau misol lle byddwn yn rhannu unrhyw ddatblygiadau newydd ynghylch y project gyda chi. Rwy'n gobeithio y bydd yr ychydig fisoedd nesaf yn rhai cyffrous, gyda rhai rhannau o gasgliad y Penrhyn yn dod ar gael i'n hymchwilwyr.
Gwirfoddolwyr yn yr Archifau
Fel Archifydd mae angen i mi fod yn ymwybodol o anghenion cadwraeth y dogfennau ryw'n dod ar eu traws.
Ers i mi ddechrau gweithio ar y Project Siwgr a Llechi, rwyf wedi bod yn cadw cofnod o'r eitemau sydd angen peth gofal a sylw. Mewn rhai achosion mae yna ddogfennau sydd angen eu glanhau ac mewn llawer achos arall mae yna lawer o lawysgrifau unigryw sydd angen cael eu hailbecynnu.
Diolch i'r drefn, rwyf wedi medru troi at un o'n gwirfoddolwyr rheolaidd am gymorth. Mae Louise, a welir yma wrth ei gwaith, wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn creu ffeiliau a phecynnau pwrpasol ar gyfer bwndeli o dderbynebau a gwahanol gyfrifon, megis cyfrifon cyflogau adran goedwigaeth y Penrhyn.
Rwy'n sicr bod llawer i'w wneud eto, ond rydym wedi dechrau ar y gwaith o sicrhau cadwraeth tymor hir Papurau Ychwanegol Pellach y Penrhyn.
Yn y diweddariad nesaf, byddaf yn edrych ar wahanol brydlesau rwyf wedi dod ar eu traws yn ddiweddar. Mae'r rhain yn ymwneud ag amrywiaeth o eiddo o'r 20fed ganrif ac mae rhai'n cynnwys cynlluniau gwych o'r tai a oedd yn cael eu rhentu gan ystâd y Penrhyn.
[Newyddion Rhagfyr 2015]
Cyfarchion yr ŵyl
Gyda’r Nadolig ar ein gwarthau hoffwn dynnu eich sylw at ddetholiad o gardiau tymhorol rydw i wedi ei darganfod wrth bori trwy bapurau Penrhyn yn ystod y flwyddyn. Hyd yma, rwyf wedi dod o hyd i gardiau a dynnwyd â llaw a chardiau Rwsieg wedi eu cyfeirio at y teulu Pennant yn y 1960au.
Ar ôl y Nadolig, byddaf yn parhau â’r gwaith o gatalogio’r papurau yn y casgliad sy’n ymwneud â Jamaica. Byddaf yn datgelu fy narganfyddiadau o’r Caribi yn y flwyddyn newydd, ond yn y cyfamser, hoffwn ddymuno.
Nadolig Llawen i chi gyd a Blwyddyn newydd dda!
[Newyddion Hydref 2015]
Cipolwg ar fywydau tenantiaid Ystad y Penrhyn : Llyfrau Arolwg Penrhyn 1927 
Y mis hwn rwyf wedi darganfod bocs llawn o lyfrau arolwg o Ystad y Penrhyn. Mae'r llyfrau wedi cael eu labelu'n fanwl, a'r rhandiroedd wedi eu rhannu o dan benawdau arbennig, megis rhenti tir a ffermydd a bythynnod. Cynhaliwyd yr arolwg yn 1927 gan y syrfëwr siartredig, Rolant T Jones, F S I, Bangor.
Mae'r llun ar y chwith yn dangos y math o wybodaeth a gasglwyd gan y syrfëwr. Mae'r enghraifft hon, yn cyfeirio’n benodol at eiddo ym mhlwyf Abergwyngregyn, o'r enw 'Crwnlyn a Nantheulyn', ac yn yr achos hwn cynhwyswyd braslun o'r ffermdy (gweler uchod).
Mae rhai cofnodion yn cynnwys disgrifiadau manwl o'r eiddo. Mae'r enghraifft isod yn dangos nodiadau o'r fath ar gyfer 'Crwmlyn a Nantheulyn'.
“Large Farm situate on the Aber Road. about 4 miles of Bangor – severed by Railway.
Good well built Farm House – nicely set back from road – Accomodation : - GF [Ground Floor]. Porch, Hall, Dining Room, Drawing Room, Pantry. Morning Room. A disused Office…..”
Ymysg y disgrifiadau a'r ffigyrau sydd wedi eu cynnwys yn y llyfrau hyn mae rhai cofnodion sy'n cynnwys brasluniau. Mae'r brasluniau bach hyn yn rhoi llawer o fanylion i ni ac yn dangos nodweddion a maint y bythynnod a'r ffermdai. Efallai mai'r brasluniau hyn yw'r unig gofnod gweledol o eiddo yn niwedd y 1920au, oherwydd gall llawer o dai fod wedi eu newid cymaint fel nad yw'n bosib eu hadnabod bellach neu efallai nad ydynt yn bodoli o gwbl erbyn hyn.
Gall y brasluniau a'r disgrifiadau gyda'i gilydd roi cipolwg ar ffordd o fyw'r tenantiaid oedd yn byw yno.
Yr eiddo a welir i'r dde o'r testun hwn yw'r bwthyn 'Waenwen No.1' ym mhlwyf Bangor.
Nid oes dwywaith nad yw'r llyfrau arolwg yn ffynhonnell gwybodaeth werthfawr i ymchwilwyr hanes lleol yn ogystal â hanes teuluol ym mhlwyfi Bangor, Llandegai, Llanllechid, Abergwyngregyn, Llanddeiniolen yn enwedig.
Mae'r wybodaeth am yr eiddo, maint y tir a'r rhent a dalwyd o ddiddordeb mawr.
Cynhaliwyd arolwg tebyg, ar ystad arall yng ngogledd Cymru, ystad Baron Hill (Biwmares), yn 1942 gan yr un syrfëwr. Gweler Baron Hill Ms 7590.
[Newyddion Medi 2015]
“Weight of Everybody” : Llyfr nodiadau diddorol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
Yn ddiweddar, rwyf wedi darganfod eitem ryfedd wrth fynd drwy bapurau Castell y Penrhyn. Ar yr olwg gyntaf, roedd yr eitem dan sylw yn ymddangos fel llyfr nodiadau du, bach, digon cyffredin a dinod. Mae'n cynnwys nifer o wahanol ffigurau ar hap dyddiedig rhwng 1850 a 1902, sydd ar ôl eu harchwilio'n fanylach yn ddata am daldra a phwysau gwahanol unigolion.
Ymddengys bod llawer o'r cofnodion yn cyfeirio at aelodau o deulu Pennant, ond mae enwau nifer o unigolion pwysig mewn cymdeithas wedi eu cofnodi hefyd. Er enghraifft, ar y tudalennau cyntaf mae pwysau a thaldra Duges Caerloyw, Tywysoges Mary a Thywysog Adolphus wedi eu cofnodi ar gyfer y flwyddyn 1850.
Mae'r rheswm pam y crëwyd cofnod o'r fath, dan y pennawd syml "Pwysau pawb", yn parhau i fod yn ddirgelwch, ynghyd ag enw'r awdur.
Gall fod yn rhywbeth a ysgrifennwyd gan un o blant y Penrhyn neu'n arbrawf a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Penrhyn ei hun!
O ystyried yr amrywiaeth o enwau a nodwyd yn y llyfr, mae'n hawdd dod i'r casgliad y cofnodwyd mesuriadau y rhan fwyaf o'r ymwelwyr â'r castell. Yn wir, byddai'n werth cymharu'r llyfr nodiadau hwn gyda llyfr ymwelwyr o'r un cyfnod!
Nid ydym hyd yma wedi ystyried potensial ymchwil dogfen o'r fath. Yn ddi-os, mae'n cynnwys gwybodaeth a all fod yn seiliedig ar gofnodion meddygol ac mae'n rhoi dealltwriaeth werthfawr i ni o gyfansoddiad corfforol y dosbarth uchaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Gall y llyfr nodiadau hwn fod o ddiddordeb i unrhyw un sy'n astudio hanes pwysau a thaldra pobl. Mae haneswyr economaidd wedi defnyddio maint corfforol pobl i fesur eu lles drwy'r canrifoedd.
Efallai, wrth edrych drwy weddill papurau Castell Penrhyn sydd heb eu catalogio, byddaf yn gallu taflu mwy o oleuni ar y rheswm pam y crëwyd y llyfr nodiadau hwn. Rwy’n gobeithio, o leiaf, y gallaf adnabod yr awdur trwy gymharu'r llawysgrifen gyda dogfennau eraill.
[Newyddion Gorffennaf 2015]
Sioe Frenhinol Cymru ym Mhangor, 1958
Ni fyddai'r haf yr un fath heb y nifer o wahanol sioeau amaethyddol a gynhelir ledled cefn gwlad Cymru.
Y mis hwn, yn ffodus iawn, rwyf wedi dod o hyd i gasgliad amserol o eitemau sy'n gysylltiedig â dechreuad pob sioe amaethyddol sef Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae'n debyg mai Bangor oedd yn croesawu'r sioe yn 1958 a hyd at 1963 cynhaliwyd y Sioe Frenhinol ar wahanol safleoedd ar hyd a lled Cymru, yn y de a'r gogledd bob yn ail flwyddyn fel yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw. Ers 1963 mae'r sioe wedi cael safle parhaol yn Llanelwedd wrth gwrs.
Ymhlith papurau'r Penrhyn rwyf wedi cael hyd i gofnodion, cyfnodolion a rhaglenni am y Sioe Frenhinol ym Mangor yn 1958. Mae casgliad mawr hefyd o ohebiaeth rhwng gwahanol unigolion a oedd yn gysylltiedig â chynllunio'r digwyddiad, yn cynnwys yr Arglwydd Penrhyn ei hun. Mae'r llythyron hyn yn cynnwys manylion ariannol am y digwyddiad fel iawndal am y tir a ddefnyddiwyd, yn ogystal â threfniadau yn y prif stand ar gyfer yr ymweliad brenhinol gan Ddug Caeredin.
Mae hefyd eitemau am arddangosfa o gynhyrchion o Chwarel y Penrhyn a oedd yn rhan o'r sioe. Gellir gweld y rhain isod.
Mae Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn parhau i fod yn ffactor bwysig yn hirhoedledd amaethyddiaeth Cymru. Sefydlwyd Cymdeithas Frenhinol Cymru yn 1904 i wella bridio stoc ac i annog amaethyddiaeth ym mhob rhan o Gymru.
Unwaith eto, mae'r casgliad ystâd hwn wedi darparu dogfennau gwerthfawr am Fangor yn y gorffennol gweddol agos. Mis nesaf, byddaf yn sôn am lyfr nodiadau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n rhoi cipolwg diddorol ar fywyd y bobl oedd yn byw o fewn waliau Castell Penrhyn.
[Newyddion Mehefin 2015]
Cuddio yn y llawr isaf
Y mis hwn rydw i wedi treulio fy amser yn storfa llawr isaf yr archifdy yn mynd drwy silffoedd o lyfrau cofnodion. Mae’n waith budur a chorfforol, ond yn werth chweil gan fy mod i’n teimlo fy mod i’n gallu cael gwneud dipyn go lew o’r gwaith catalogio.

Ymhlith y casgliad anferth o lyfrau cofnodion mi ddes i ar draws y perl bach yma. Llyfr nodiadau bychan ydyw sy’n cynnwys cofnodion a wnaed gan Wylwyr Tân Melinau Llifio Llandegai yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Rhwng 5 Ionawr 1941 a 12 Tachwedd 1942 ceir cofnod o’r seirenau a glywyd yn ystod y nos ac unrhyw weithgarwch arall. Rhai nosweithiau, mae’r gwyliwr yn gwneud nodyn o’r tywydd a hyd yn oed yn llofnodi ei gofnod.
Mae’r ddogfen werthfawr hon o ddiddordeb hanesyddol mawr oherwydd mae’n rhoi darlun i ni o bwysigrwydd swydd y gwylwyr tân yn ardal Llandegai yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Byddai’n rhaid i’r gwyliwr edrych ar ôl yr eiddo drwy gydol y nos, ac wedyn mynd i weithio shifft hir drannoeth yn aml.
Yn y dyfyniad hwn isod, dyddiedig 30 Mai 1941, noda E.A.O. Davies “Red 12.30am, heard one bomb drop 2.10am not very far away. Raiders passed. Siren 3.45am….”

Roedd y Gwylwyr Tân yn rhoi gwasanaeth gwerthfawr oherwydd roeddent yn hanfodol i amddiffyn rhag ymdrechion y gelyn i ddinistrio diwydiannau’r wlad ac ennill y rhyfel drwy dân.
oedd ymosodiadau o’r awyr yn achosi tanau trychinebus yn ystod y rhyfel. Mewn mater o funudau, gellid gollwng miloedd o fomiau’n ddi-baid dros dref gan ei gwneud yn amhosib i wasanaeth tân ymdopi â’r cyfan ohonynt. O ganlyniad galwad ar y gwylwyr i ddiffodd y bomiau cynnau tân hyn a galw am gymorth.
Fodd bynnag, fel mae’r ddogfen hon yn datgelu, roedd llawer o nosweithiau’n dawel, ac ar y nosweithiau hynny roedd y gwaith yn un diflas.
Ar 1 Mawrth 1941, noda’r Warden, W. P. Thomas nad oedd, “No Air Raid Warnings” ac yna â ymlaen i ysgrifennu pennill bychan sy’n crynhoi’r noson hir roedd raid i’r gwylwyr hyn ei dioddef.
‘The night was long and dreary
No message red or white.
I felt so sad and weary
I longed for eight alight.
At last the dawn awakened
I longed to get away
My weary limbs to rest awhile
To bed to dream of better days.’
Ym mis Gorffennaf, byddaf yn parhau gyda fy ngwaith catalogio yn y llawr isaf. Cofiwch gadw llygaid am fy newyddion misol wrth i mi fynd drwy gasgliad y Penrhyn. Gadewch i ni obeithio y byddaf yn dod o hyd i fwy o drysorau.