Gwybodaeth i ymwelwyr
Mae’r Archifdy ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau yn Ffordd y Coleg, Bangor Uchaf.
Mae'n bosib y bydd darllenwyr yn ystod y misoedd nesaf yn cael eu haflonyddu o ganlyniad i waith adeiladu y tu allan i'r Archifdy. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Mynediad i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor
Mae’r Archifdy ar gael at ddefnydd staff a myfyrwyr ond rhaid iddynt gwblhau "Ffurflen Cofrestru Defnyddwyr" ar eu hymweliad cyntaf.
Mynediad i ddefnyddwyr allanol
Mae angen cael Cerdyn Allanol Llyfrgell ac Archifau er mwyn edrych ar ddeunydd archifol gwreiddiol a/neu lyfrau prin.
Er mwyn cael Cerdyn Allanol Llyfrgell ac Archifau rhaid i chi ddod â dwy ddogfen gyda chi – un i brofi pwy ydych ac un i brofi’ch cyfeiriad. Hefyd, rhaid cwblhau "Ffurflen Cofrestru Defnyddwyr"
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.
Ni fydd y Tocynnau Darllen Archifau Cymru a ddyranwyd gan yr Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor er 1 Ionawr 2015 yn ddilys o hyn ymlaen. Bydd y Cerdyn Allanol Llyfrgell ac Archifau yn cymeryd eu lle o'r 13eg o Awst 2018.