Beth Sydd Ymlaen
Arddangosfa 2022
Yn 2022 bydd Arddangosfa Flynyddol yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yn dathlu bywyd y bardd, R.S. Thomas (1913-2000). Bydd modd gweld yr arddangosfa ffisegol ym Mhrifysgol Bangor yng Nghoridor Siambr y Cyngor o'r 6ed o Fehefin hyd y 16eg o Ragfyr 2022 gyda fersiwn talfyredig ar gael arlein.
Gweithdy Mis Hanes Pobl Dduon
Bydd Dr Marian Gwyn yn cynnal gweithdy yn yr Archifdy ar y 25ain o Hydref 2022 rhwng 11.00yb-12.00yh. Cynhelir y gweithdy drwy gyfrwng y Saesneg a'r testun fydd "New insights into the Penrhyn Jamaica Collection".