Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
1. Lle mae Canolfan Brailsford?
Ffordd Ffriddoedd, Bangor LL57 2EH
Wrth fynd o siop Morrison, cymerwch y tro cyntaf i Ffordd Ffriddoedd, yna’r ail ar y dde i Safle Ffriddoedd.
2. Sut y gallaf ymaelodi?
Myfyrwyr – rydych eisoes yn aelodau; gellwch archebu dosbarthiadau a chyrtiau gan ddefnyddio eich cerdyn myfyriwr Prifysgol Bangor dilys a chyfredol. Os ydych eisiau defnyddio'r gampfa, bydd raid i chi gael sesiwn gynefino.
Staff – gellwch archebu dosbarthiadau a chyrtiau trwy ddefnyddio eich cerdyn staff Prifysgol Bangor cyfredol. Os ydych eisiau defnyddio'r gampfa, bydd raid i chi gael sesiwn gynefino. Gall staff dalu o'u cyflog. /brailsford/membership/index.php.cy
Y Cyhoedd - gallwch brynu cerdyn aelodaeth Canolfan Brailsford yn y dderbynfa, a gallwch archebu dosbarthiadau a chyrtiau gyda'r cerdyn hwn. Os ydych eisiau defnyddio'r gampfa, bydd raid i chi gael sesiwn gynefino.
3. Pam bod rhaid i mi gael sesiwn gynefino yn y gampfa?
Bwriad ein sesiynau cynefino yn y gampfa yw rhoi gwybodaeth hanfodol i chi am iechyd a diogelwch, a dealltwriaeth sylfaenol o'r gwahanol offer yn y gampfa.
Mae'r sesiynau cynefino yn para tua 40 munud, ac mae angen eu harchebu a thalu amdanynt ymlaen llaw yn y dderbynfa. Maent ar gael ar wahanol amseroedd bob dydd.
4. Dosbarthiadau Ymarfer – A oes rhaid imi archebu ymlaen llaw?
Nid yw’n orfodol ond mae’n syniad da gan fod niferoedd cyfyngedig mewn rhai dosbarthiadau. Gallwch archebu 6 diwrnod ymlaen llaw.
5. Cost defnyddio cyfleusterau
Mae'r prisiau ar 4 lefel - myfyrwyr, staff, y cyhoedd neu rai nad ydynt yn aelodau. Rhaid i chi ddangos eich cerdyn aelodaeth yn y dderbynfa er mwyn talu'r pris cywir a chael mynediad. Codir tâl o £1.00 ar gwsmeriaid i gael mynediad heb gerdyn.
6. Cardiau Coll
Gellwch brynu cardiau Canolfan Brailsford newydd o’r dderbynfa am £10.00.
7. Pa weithgareddau sydd ar gael i fy mhlant?
Mae gennym wersi dringo, gampfa i blant, badminton i blant, Partion Plant a Gwersylloedd Gwyliau.
8. Am ba mor hir y gellir archebu'r neuadd chwaraeon?
Archebir pob sesiwn fesul awr, ond mae hyn yn cynnwys amser ar gyfer gosod cyfarpar a’i dynnu i lawr. Felly mae pob sesiwn yn para 55 munud fel rheol.
9. A oes unrhyw gyrsiau ar gael ar gyfer hyfforddwyr?
Oes, rydym yn cynnal amserlen lawn o gyrsiau hyfforddi trwy gydol y flwyddyn, cymwysterau NGB, cymhwyster Cymorth Cyntaf a SCUK.
10. Ffurflen Sylwadau Cwsmeriaid
Os hoffech roi sylwadau am safon y cyfleusterau a’r gwasanaeth sydd ar gael, llenwch Ffurflen Sylwadau Cwsmeriaid – mae'r ffurflenni yn y dderbynfa yn y Ganolfan.