Sut Mae’n Gweithio
Mae Academi Busnes Gogledd Cymru yn rhaglen hyfforddiant integredig, sy'n cael ei darparu mewn dwy ran.
Cam Un: Dadansoddi'r Busnes yn Strategol Bydd rhywun sy'n gwneud penderfyniadau yn y busnes yn dod i'r modiwl yma. Yn ystod y modiwl bydd y cyfranogwr yn cwblhau Adroddiad Diagnostig Strategol ar gyfer ei fusnes.
Cam Dau: Caiff unrhyw un o staff y cwmni ddod ar y modiwlau yma. Bydd yr adroddiad a gaiff ei lunio yng Ngham Un yn hysbysu'r busnes o'r modiwlau mwyaf perthnasol yng Ngham Dau yn seiliedig ar anghenion y busnes.
Er mwyn sicrhau bod Academi Busnes Gogledd Cymru'n addas at anghenion y busnes, gall Mentor Busnes ymweld â'ch cwmni chi i drafod y rhaglen ymhellach cyn i chi gofrestru gyda'r Dadansoddiad Busnes Strategol. Cysylltwch â nwba@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382475 i ofyn am ymweliad â'ch cwmni chi'n rhad ac am ddim.