Modiwlau a chyrsiau cyfrwng Cymraeg
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfleoedd niferus i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn cydweithrediad â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae Bangor yn darparu mwy o fodiwlau a chyrsiau trwy gyfrwng Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall. Ym Mangor hefyd y mae'r nifer fwyaf o fyfyrwyr sy'n dewis astudio trwy'r Gymraeg.
Mae modiwlau Cymraeg neu ddwyieithog ar gael ym mhob un o ysgolion academaidd y Brifysgol erbyn hyn, ac mae llyfryn modiwlau yn cael ei gyhoeddi'n flynyddol ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n amlinellu'r dewis helaeth o fodiwlau sydd ar gael.
Defnyddiwch chwilotydd cyrsiau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael syniad faint o'ch cwrs sydd ar gael drwy'r Gymraeg.