Newyddion: Hydref 2018

Dathlu llwyddiannau deiliaid diweddaraf y Dystysgrif Sgiliau Iaith

Fel rhan o ddathliadau Wythnos Shwmae Su’mae yma ym Mhrifysgol Mangor, cynhelir digwyddiad i ddathlu gwaith myfyrwyr Cangen Bangor o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd cyfle i roi sylw i rai o’r myfyrwyr hynny sydd wedi llwyddo i ennill y Dystysgrif Sgiliau Iaith eleni. Bydd rhai o Lysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n astudio ym Mangor yno hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2018

Cyflwyno tystysgrifau i ddysgwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae

Derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw, a hynny fel rhan o ddathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae, sef diwrnod sy’n hybu defnydd o’r Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018

Ymchwil Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn dylanwadu ar yr agenda Ewropeaidd

Mae ymchwil ac adnoddau arbenigol Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr wedi derbyn sylw yn Senedd Ewrop yn ddiweddar, wrth i Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, gyfeirio mewn araith at waith yr Uned fel bod ar flaen y gad ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol. Roedd yr ASE yn cyflwyno canfyddiadau ar argymhellion y Digital Language Diversity Project (DLDP) yn eu hadroddiad ar sicrhau cyfartaledd ieithyddol mewn technoleg ddigidol. Yn dilyn yr araith gan Jill Evans ASE, gwahoddwyd pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Delyth Prys, a Phrif Beiriannydd Meddalwedd yr Uned, Dewi Bryn Jones, i siarad mewn cynhadledd ar dechnolegau iaith a chydraddoldeb digidol oddi fewn i Ewrop amlieithog.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018