Os ydych chi, yn hwyr iawn (Gorffennaf-Medi), wedi penderfynu mai Prifysgol Bangor yw eich lle delfrydol i astudio ond nad ydych chi wedi gwneud cais trwy UCAS, peidiwch â phoeni. Er ein bod yn argymell y dylech anfon eich ceisiadau mor gynnar â phosibl, rydym yn barod i ystyried ceisiadau hwyr ar gyfer ein cyrsiau Israddedig.
Cysylltwch â'r Swyddfa Dderbyniadau ar admissions@bangor.ac.uk i gael cyngor ar argaeledd cyrsiau a sut i wneud cais.