Goruchwylio Ymchwilwyr Ôl-raddedig (Sesiwn i Oruchwylwyr PGR)
Doctoral Academy Training
Mae’r Academi Ddoethurol a Chyfarwyddwyr Ôl-raddedig y Colegau yn estyn gwahoddiad cynnes i gymheiriaid sy’n goruchwylio ymchwilwyr ôl-raddedig i ymuno â ni ar gyfer y sesiwn wyneb yn wyneb hon.
Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio prif agweddau ar oruchwylio PGR, gan ganolbwyntio ar y meysydd y mae cydweithwyr wedi’u nodi fel rhai mwyaf pwysig wrth lywio’r tirlun ymchwil ôl-raddedig sy’n newid yn barhaus.
Bydd hon yn sesiwn anffurfiol, gyda chyfle i ofyn cwestiynau a chael trafodaeth agored.