Mae Gareth Newman, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor, wedi mynd ymlaen i fod yn un o bencampwyr baswn y DU.
"Chwaraeodd Prifysgol Bangor ran sylweddol wrth lunio fy ngyrfa, flynyddoedd lawer cyn imi ddod yn fyfyriwr yno. Roedd fy rhieni yn gerddorion, ac yn awyddus y dylwn chwarae offeryn cerddorfaol, gan wybod y gall hynny rhoi boddhad ac anogaeth a helpu'r broses ddysgu. Roeddwn i wedi rhoi cynnig ar y ffidil ac wedi ei chael hi'n llawer rhy anodd, felly roeddwn i'n mynd i gyngherddau ac yn meddwl tybed beth y gallwn i roi cynnig arno.
Nid wyf yn cofio'r rhaglen, ond rwy'n cofio gweld yr offeryn gwynt diddorol hwn - wedi'i leoli'n ganolog, yng nghefn y gerddorfa. Roedd fy rhieni yn adnabod y baswnydd, felly aeth â mi i gwrdd ag ef ar ôl y cyngerdd. Edrychodd i lawr arnaf (roeddwn yn wyth oed) ac awgrymodd yn dyner y gallwn fod ychydig yn fach ar gyfer yr ymestyn llaw fawr sydd ei angen. Dim ond fy ngwneud yn fwy penderfynol o chwarae'r baswn oedd hyn. Ar ôl bron i flwyddyn o aros a chael fy mesur wrth ei ochr, cefais fy nodi'n 'ddigon mawr' a llwyddodd fy nhad i gael offeryn ar fenthyg er mwyn i mi gychwyn.
Rhoddodd myfyriwr ôl-raddedig, Owain Edwards, fy ngwersi cyntaf imi. Yn Hydref 2019 cefais lythyr ganddo yn dweud ei fod wedi fy ngweld yn chwarae yn y Royal Festival Hall, ac ai fi oedd yr un Gareth Newman ag y dysgodd hanner can mlynedd yn ôl!
Ar ôl i Owain adael Bangor, teithiais i Fanceinion am wersi, ac, ar y pryd, fi oedd yr unig chwaraewr baswn yng Ngogledd Cymru. Roedd hyn yn golygu y gofynnwyd imi chwarae yng Ngherddorfa'r Brifysgol, ac roedd hyn yn darparu anogaeth hyfryd a phrofiadau cerddorol ffurfiannol a helpodd i mi ddod yn y cerddor yr wyf heddiw.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl ceisio darllen y gyfraith yng 'King's College London', sylweddolais fod gan gerddoriaeth afael rhy gryf arnaf, felly dychwelais i Fangor i ddarllen cerddoriaeth. Yn wahanol i Lundain, lle mae logisteg ymarfer a pherfformio yn frawychus; a gall y cyngherddau proffesiynol nosweithiol arwain un yn hawdd i fod yn wyliwr - roedd bod yn fyfyriwr ym Mangor yn wledd - llawer o gyfleoedd i berfformio a chymryd rhan mewn pob math o ddigwyddiadau ar ben y cwricwlwm arferol.
Roedd cymryd rhan yn yr adrannau drama a cherddoriaeth yn hyfryd, er ei fod yn gosod heriau wrth reoli amser. Roedd yr adran ddrama yn gryf iawn, gyda Sam McCready yn gofalu am rhai myfyrwyr anhygoel - rwy’n cofio John Sessions, Danny Boyle a Frances Barber, pob un ohonynt wedi mynd ymlaen i wneud eu marc. Yn gerddorol, arweiniwyd y gyfadran gan William Mathias, hen ffrind i'm rhieni.
Yn gyfansoddwr rhagorol, fe arweiniodd adran gref iawn a gynhaliodd amrywiaeth drawiadol o berfformiadau dros fy nhair blynedd yno. Cefais gyfle hyd yn oed i roi cynnig ar arweinio, gyda pherfformiad o 8fed Symffoni Beethoven ac, yn fwyaf cofiadwy, Carmina Burana gan Orff - rhoddodd gipolwg uniongyrchol i mi ar ba mor ddeniadol yw'r ymdeimlad o bŵer, gan sefyll o flaen cerddorfa symffoni fawr; gwnaeth hefyd i mi sylweddoli nad oedd gen i'r holl ystod anhygoel o sgiliau sydd eu hangen i fod yn arweinydd o'r radd flaenaf!
Gan raddio ym 1977, mi es i am glyweliad am flwyddyn ôl-raddedig yn y Guildhall School, Llundain, gan obeithio datblygu i fod yn faswnydd proffesiynol. Ychydig wythnosau cyn i'r tymor ddechrau gwelais hysbysiad yn y Saturday Daily Telegraph (lle arferai pob swydd gerddorfaol gael ei hysbysebu cyn y rhyngrwyd) ar gyfer swydd fel Ail Baswn yng Ngherddorfa Gulbenkian Lisbon, Portiwgal. Gan feddwl y gallai rhywfaint mwy o brofiad clyweliad fod yn dda, gwnes gais, es i chwarae iddyn nhw yn Llundain, ac fe wnaethant gynnig y swydd i mi!
Er nad oeddwn yn gwybod dim am Bortiwgal, sylweddolais y gallai'r cyfle i gael gwaith llawn amser ennill blwyddyn arall fel myfyriwr, felly mis es i ffwrdd. Am le hyfryd i ddechrau gyrfa! Cerddorfa wedi'i hariannu'n iawn mewn gwlad sydd â hinsawdd fendigedig, bwyd a gwin rhagorol, a chwrs golff gwych ar stepen y drws (bûm yn golffiwr brwd erioed).
Ar ôl pedair blynedd yno, treuliais ddwy flynedd a hanner yn gerddorfa Ffilharmonig Lerpwl cyn ymuno â Cherddorfa Gyngerdd y BBC fel eu Prif Baswn. Rwyf wedi byw yn Llundain ers hynny - gadewais y BBC ar ôl pum mlynedd a gweithio ar fy liwt fy hun tan 2008, pan ddaeth swydd wag yng Ngherddorfa Ffilharmonig Llundain. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael cynnig y swydd, ac rwyf wedi bod yno ers hynny.
Rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi mwynhau bywyd cerddorol mor amrywiol - y peth rhyfeddol am y LPO yw ei bod yn gerddorfa breswyl Opera Glyndebourne am bedwar mis bob Haf - felly mae amrywiaeth adeiledig yn ein hamserlen a rhythm i bob tymor sy'n gwneud y swydd yn unigryw.
Pwy oedd o wnaeth dweud: “trasiedi bywyd yw bod yn rhaid ei fyw ymlaen, ond dim ond tuag yn ôl y gellir ei ddeall”? - mae penderfyniadau sy'n ymddangos yn fach ar y pryd yn pennu cwrs bywyd rhywun yn y dyfodol - ac roedd Bangor yno i mi ar y dechrau a phan oeddwn i'n fyfyriwr, yn siapio pwy oeddwn i fel unigolyn ac yn fy helpu i benderfynu beth roeddwn i eisiau ei wneud."
It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?