
A allwch ddisgrifio eich swydd bresennol a sut y cawsoch y swydd ar ôl graddio?
Ar hyn o bryd, rwy'n rhannu fy amser rhwng dwy swydd gyda Chwaraeon Anabledd Cymru ac Athletau Cymru. Fy swydd yn Athletau Cymru yw Cydlynydd Cynhwysiant ac Ymgysylltu lle rwy'n arweinydd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae’r swydd yn cynnwys cydlynu amrywiol fframweithiau, data a phrojectau mewnwelediad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r hyrwyddwyr Athletau Ifanc. Dechreuais yn Athletau Cymru wrth i mi ddod i ddiwedd y cyfnod ysgrifennu ar gyfer fy nhraethawd ymchwil PhD (nid yr amseru gorau!) ac rydw i wedi bod yno ers ychydig dros ddwy flynedd bellach. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cefais gais gan Chwaraeon Anabledd Cymru i ddod yn Uwch Swyddog Chwaraeon Byddar, a neidiais ar y cyfle. Mae fy swydd gyda Chwaraeon Anabledd Cymru yn cynnwys datblygu llwybrau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar gyfer unigolion B/byddar a Thrwm eu Clyw ledled Cymru, yn ogystal â chefnogi Chwaraeon Byddar Cymru o ran yr ochr llywodraethu a chyflawni eu strategaeth.
Sut gwnaeth eich gradd gyfrannu at ddatblygiad eich gyrfa?
Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff oedd fy ngradd israddedig a'm gradd Meistr, a dysgais nifer o sgiliau trosglwyddadwy ac allweddol yr ydw i’n eu defnyddio hyd heddiw, fodd bynnag, fy mhrojectau ymchwil a'm PhD dilynol sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at fy ngyrfa. Roedd fy PhD yn benodol i Athletau Byddar – es ati i lywio datblygiad system gychwyn safonol i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng athletwyr B/byddar ac athletwyr nad oes ganddynt nam ar eu clyw – ac rydw i bellach yn gweithio mewn swydd benodol i athletau a swydd chwaraeon B/byddar. Rydw i’n cael y gorau o’r ddau fyd! Fe wnaeth fy PhD atgyfnerthu fy awydd a'm huchelgais i fynd ar drywydd gyrfa yn y byd chwaraeon yn gweithio gyda phobl B/byddar, a'r mathau o swyddi rydw i’n anelu atynt yn y dyfodol.
Beth oedd yr her fwyaf y gwnaethoch ei hwynebu wrth ddechrau eich gyrfa, a sut wnaethoch ei goresgyn?
Ar ôl gwneud fy ngradd israddedig, fy ngradd Meistr a fy PhD yn olynol, roedd fy mhrofiad ehangach yn canolbwyntio'n bennaf ar y byd academaidd ac roeddwn yn poeni sut y byddwn yn setlo yn y sector cyhoeddus gan ei fod yn amgylchedd a diwylliant hollol wahanol. Drwy gydol fy nhaith academaidd ym Mhrifysgol Bangor, des i arfer â gweithio'n annibynnol ac mewn tîm bach iawn, felly roedd yn newid mawr pan symudais i'r sector chwaraeon gyda thimau llawer mwy ar draws sawl adran. Roedd bod yn hyderus yn fy sgiliau, a gwthio fy hun i roi cynnig ar bethau newydd i weithio'n dda mewn amgylcheddau newydd, wedi fy helpu i oresgyn fy mhryderon.
A oes unrhyw sgiliau penodol o'ch cwrs yr ydych yn eu defnyddio'n rheolaidd yn eich swydd?
Mae'n rhaid i mi ysgrifennu adroddiadau, astudiaethau achos a chreu mewnwelediadau'n rheolaidd, ac mae fy mhrofiad o ysgrifennu academaidd yn helpu gyda hyn. Mae fy ngwybodaeth am gasglu data ansoddol a meintiol, a dadansoddi data, wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn y ddwy swydd.
Pa mor bwysig fu rhwydweithio yn nilyniant eich gyrfa?
Mae rhwydweithio wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad fy ngyrfa. Drwy fynychu gweminarau, digwyddiadau a chynadleddau ar draws y sector chwaraeon, rydw i wedi ehangu fy rhwydwaith a'm cysylltiadau’n aruthrol ledled Cymru. Mae gen i bellach gysylltiadau â nifer o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol, Awdurdodau Lleol, sefydliadau, clybiau ac unigolion sydd i gyd wedi bod yn allweddol i'm gyrfa a'm gwaith.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i raddedigion diweddar sy'n ymuno â'r farchnad swyddi?
Ceisiwch feithrin eich cysylltiadau ac adeiladu ar eich profiad y tu hwnt i'r byd academaidd lle bo modd. Mae'r farchnad swyddi’n hynod heriol ar hyn o bryd, felly mae’n werth cael profiad sy'n atgyfnerthu eich CV a'ch sgiliau. Un ffordd o wneud hyn yw drwy wirfoddoli gyda sefydliadau. Bues yn gwirfoddoli gydag Athletau Prydain cyn dechrau gydag Athletau Cymru, ac roedd hynny wir wedi cefnogi fy nghais.
A oes unrhyw gymwysterau proffesiynol neu dystysgrifau y byddech yn argymell i rywun eu cael?
Rydw i newydd gwblhau fy Nhystysgrif Lefel 4 mewn Llywodraethu Chwaraeon, sydd eisoes wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn fy swydd gyda Chwaraeon Anabledd Cymru, ac rydw i hefyd wedi bod yn dysgu Iaith Arwyddion Prydain yn barhaus (rydw i newydd gwblhau fy Lefel 4) i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu a fy sgiliau ehangach. Os oes gennych chi yrfa neu faes penodol mewn golwg, ceisiwch archwilio a oes unrhyw gyrsiau siartredig ar gael yn ogystal â'ch gradd.
Ble mae’r cyfleoedd gyrfa mwyaf ym maes chwaraeon ac ymarfer ar hyn o bryd?
Mae nifer fawr o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol a sefydliadau ledled Cymru yn hysbysebu swyddi gwag yn rheolaidd – edrychwch ar wefan Chwaraeon Cymru gan fod swyddi’n cael eu rhestru yno’n aml. Yn dibynnu ar y maes sydd o ddiddordeb i chi, mae llawer o fyrddau iechyd yn dechrau ymgorffori mwy o wyddorau chwaraeon ac ymarfer corff (e.e., ffisiotherapi ac adferiad trwy ymarfer corff) yn eu darpariaeth.
Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried dilyn gradd ym Mhrifysgol Bangor?
Mae Prifysgol Bangor yn lle gwych i wneud eich gradd (neu dair gradd, yn fy achos i!) - mae cymaint i'w wneud yn yr ardaloedd cyfagos ac ar draws gogledd Cymru, ac mae yna gyfleusterau, darlithwyr ac ymchwilwyr rhagorol ar draws y brifysgol. Mae gan Brifysgol Bangor naws o gampws cymunedol, er ei bod wedi’i lleoli ar draws mwy nag un campws, sy'n creu profiad prifysgol gwych. Mae'r Clybiau a'r Cymdeithasau’n ased enfawr i Brifysgol Bangor, ac roeddent yn rhan enfawr o fy nghyfnod yno.
Sut fyddech chi'n disgrifio eich cyfnod ym Mhrifysgol Bangor mewn 3 gair?
Anogol, cadarnhaol a thrawsnewidiol.