Bydd cynllunio ymlaen llaw yn dy helpu i wneud y mwyaf o'r Diwrnod i Ymgeiswyr. Dyma atebion i gwestiynau cyffredin i dy helpu i baratoi ar gyfer dy ymweliad. Gobeithiwn y byddi'n mwynhau ein campws hardd ac yn cael Diwrnod i Ymgeiswyr gwych ym Mhrifysgol Bangor!
Cyn Cyrraedd
Mae Diwrnodau i Ymgeiswyr yn fwy pwnc-benodol ac ymarferol. Byddi yn cymryd rhan mewn sesiynau grŵp llai, yn cyfarfod â staff academaidd a darpar fyfyrwyr eraill, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau blasu sy’n adlewyrchu addysgu a dysgu go iawn ar y cwrs.
Gallwch, mae croeso i chi ddod â gwesteion. Gall rhai sesiynau pwnc fod â chapasiti cyfyngedig, ond mae sgyrsiau, teithiau a llefydd eraill ar gael iddynt.
Nac oes, does dim angen unrhyw baratoi. Os yw’ch maes pwnc yn cynnig gweithdai dewisol, bydd manylion yn cael eu hanfon atoch dros e-bost cyn y digwyddiad.
Er bod rhan fwyaf o adeiladau’r Brifysgol o fewn pellter cerdded i’r prif adeilad lle byddwch yn cofrestru ar ôl cyrraedd, byddwch yn synnu faint o waith cerdded byddwch yn ei wneud yn ystod diwrnod agored felly gwisgwch esgidiau cyffyrddus y byddwch yn hapus i gerdded ynddynt trwy’r dydd. Ni allwn addo tywydd braf chwaith - felly dewch â chôt neu siaced gyda chi.
Sgyrsiau a Theithiau
Paid â phoeni! Byddi yn cael dy gyfeirio at sesiwn arall fel Sgwrs yr Is-Ganghellor, cyflwyniad ar Lety, neu un o'n teithiau campws. Mae llawer o weithgareddau yn cael eu hailadrodd trwy gydol y dydd.
Byddwch, mae’r rhan fwyaf o sesiynau’n cael eu harwain gan staff sy’n addysgu ar y rhaglen. Mae’n gyfle gwych i ddod i adnabod y bobl y tu ôl i’ch rhaglen.
Disgwyliwch gyfuniad o:
- Sgyrsiau pwnc gan staff academaidd
- Esiamplau os sesiynau addysgu neu arddangosiadau
- Cyfleoedd i ofyn cwestiynau manwl
- Amser i gyfarfod â myfyrwyr presennol yn eich maes
Oes, gall mynychu cyflwyniad pwnc yn y prynhawn fod yn dawelach, gan roi mwy o amser i chi ofyn cwestiynau a siarad â staff a myfyrwyr.
Neuadd Arddangos
Cynhelir yr arddangosfa yn Neuadd Prichard-Jones (PJ Hall, Prif Adeilad). Mae'n dod â'r holl wasanaethau cefnogol at ei gilydd mewn un lle.
Bydd modd cael mwy o wybodaeth am am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr, am y cyfleusterau chwaraeon, a chlybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr. Bydd staff a myfyrwyr ar gael i ateb eich cwestiynau.
Llysgenhadon Myfyrwyr
Yn bendant! Bydd myfyrwyr sy'n astudio yma yn hapus i rannu eu profiadau ac ateb dy gwestiynau. Bydd Llysgenhadon Myfyrwyr hefyd mewn digwyddiadau cyffredinol fel y Teithiau Llety, ac fe allan nhw siarad â chi am fyw ac astudio ym Mangor.
Parcio a Chanfod Eich Ffordd o Gwmpas y Campws
Mae rhaglen y Diwrnod i Ymgeiswyr yn amlygu’r holl leoliadau allweddol y gallwch hefyd eu gweld ar y map o'r campws. Os ydych yn ansicr ble i fynd, gofynnwch i aelod o staff neu Lysgennad Myfyrwyr – byddant yn hapus i helpu. Rhowch wybod i ni ymlaen llaw drwy e-bostio openday@bangor.ac.uk oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Awgrymiadau ar gyfer y Diwrnod Agored
Oes, dyma dri awgrymiad ar gyfer y Diwrnod Agored:
- Peidiwch â thorri eich ymweliad yn fyr – ceisiwch weld cymaint ag y gallwch.
- Cymerwch nodiadau a lluniau ar eich ffôn i helpu i gofio manylion yn ddiweddarach.
- Byddwch yn hyblyg ac yn agored i archwilio sesiynau a meysydd gwahanol.